Ni fydd Meic Stevens yn perfformio yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd

Ar ôl cyhoeddi ei enw wythnos diwethaf fel un o’r don ddiweddaraf o berfformwyr yn yr ŵyl eleni, mae Gŵyl y Dyn Gwyrdd wedi cyhoeddi na fydd Meic Stevens yn perfformio yno ym mis Awst wedi’r cyfan.

15 – 18 Awst ydy dyddiad yr ŵyl yn y Bannau Brycheiniog, eleni a cyhoeddwyd y byddai Meic Stevens yn perfformio yno wythnos diwethaf.

Nid yw’r trefnwyr wedi manylu ynglŷn â’r rheswm na fydd yn perfformio, ond daw’r newyddion yn fuan iawn ar ôl honiadau bod Meic Stevens wedi gwneud sylwadau hiliol mewn gig yng Nghaernarfon penwythnos diwethaf.