Mae asiantaeth hyrwyddo a dosbarthu cerddoriaeth PYST wedi cyhoeddi eu bod yn cydweithio gyda gŵyl Tafwyl yng Nghaerdydd i gynnal noson ychwanegol o gerddoriaeth fel rhan o’r digwyddiad eleni.
Er fod gweithgareddau eraill yn y brifddinas yn ystod yr wythnos fel rheol, ar ddydd Sadwrn a Sul 22 a 23 Mehefin mae prif ddigwyddiad Tafwyl yng Nghastell Caerdydd. Ond, eleni am y tro cyntaf bydd gig mawr ar y nos Wener, 21 Mehefin, hefyd.
Ddydd Gwener diwethaf, 22 Mawrth, fe gyhoeddwyd manylion y noson gan PYST. Bydd prif lwyfan y nos Wener yn cynnwys perfformiadau gan Gwenno, Lleuwen, Adwaith, Serol Serol a set DJ gan Huw Stephens.
Mae ail lwyfan ar y noson hefyd, ‘Llwyfan y Sgubor’ sy’n cael ei guradu gan Swci Delic. Yr artistiaid sy’n perfformio ar y llwyfan hwnnw ydy Y Niwl, Zabrinski, Ani Glass, Bitw a set DJ gan Toni Schiavone.
Yn ogystal â cherddoriaeth o’r safon uchaf bydd dewis eang o fwydydd a diodydd amrywiol ar gael yn y digwyddiad.