Mae albwm newydd Fleur De Lys wedi’i ryddhau ers ddydd Gwener diwethaf, 11 Hydref, ar label Recordiau Côsh.
O Mi Awn Am Dro ydy enw record hir newydd y grŵp o Fôn sydd wedi datblygu i fod yn un o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru dros y tair blynedd diwethaf.
Maen nhw eisoes wedi rhoi blas o’r hyn sydd i ddod ar ffurf y tair sengl ‘Sbectol’, ‘Ti’n Gwbod Hynny’ a ‘Dawnsia’ sydd wedi’i rhyddhau ar Côsh ers i’r grŵp ymuno â’r label.
Mae’r broses o recordio’r albwm wedi bod yn un cymharol hir, gyda’r band wrthi ers dros ddwy flynedd yn ôl y sôn.
CDs yn y gig lansio
Stiwdio Ferlas dan oruchwyliaeth y cynhyrchydd poblogaidd Rich James Roberts oedd canolbwynt y gwaith. Mae Rich wedi gweithio gyda nifer o artistiaid Recordiau Côsh yn arbennig dros y blynyddoedd diwethaf gan gynnwys Yws Gwynedd, Alffa, Lewys a Gwilym.
Mae’r albwm allan yn ddigidol ers dydd Gwener, ond bydd hefyd yn cael ei ryddhau ar CD gyda chyfle cyntaf i brynu copi yn gig lansio’r record yn Nhafarn y Rhos, Rhostrehwfa ar ddydd Gwener 25.
Dyma fideo’r sengl ‘Sbectol’ a gyhoeddwyd gan Ochr 1 fis Rhagfyr llynedd: