Mae Osian Rhys, gynt o’r Ods, wedi rhyddhau ei EP unigol cyntaf.
‘Autumn Shades of Gold’ ydy enw’r casgliad byr cyntaf gan y cerddor ac mae allan ar label Backwater Records.
Mae’r EP yn cynnwys pedwar o draciau Saesneg, ac ar gael ar ffurf digidol, CD a feinyl nifer cyfyngedig.
Mae modd gwrando ar y record fer, ac archebu copi ar safle Bandcamp Osian Rhys.