Mae Geraint Jarman wedi cyhoeddi manylion cyfres fach o gigs bydd yn perfformio ynddyn nhw dros benwythnos ym mis Gorffennaf.
Bydd yn ymweld â Maesteg a Bethesda cyn cloi’r gyfres gyda pherfformiad yn Sesiwn Fawr Dolgellau ar 21 Gorffennaf.
19/07/19 – Neuadd y Dref, Maesteg
20/07/19 – Neuadd Ogwen, Bethesda
21/07/19 – Sesiwn Fawr Dolgellau.
Mae hefyd addewid o newyddion cyffrous pellach gan y cerddor yn fuan!
Mae Geraint Jarman wedi cael adfywiad dros y blynyddoedd diwethaf gan ryddhau tri albwm ers 2011. Y diweddaraf oedd Cariad Cwantwm a ryddhawyd llynedd.
Dyfarwyd gwobr Cyfraniad Arbennig Gwobrau’r Selar i Jarman yn 2017 er mwyn nodi ei gyfraniad i gerddoriaeth Gymraeg dros bedwar degawd a mwy.