‘Pla’ ar fideo Cymdeithas Bêl-droed

Sengl ddiweddaraf Alffa, ‘Pla’, ydy’r trac Cymraeg cyfoes diweddaraf i’w defnyddio ar fideo uchafbwyntiau gemau pêl-droed Cymru.

Cyhoeddwyd y fideo sy’n crynhoi gemau dîm pêl-droed dynion Cymru yn erbyn Trinidad a Tobago a Slofacia gan Gymdeithas Pêl-droed Cymru wythnos diwethaf.

Roedd yn wythnos dda i’r tîm wrth iddyn nhw guro Trinidad a Tobago o 1-0 mewn gêm gyfeillgar yn Wrecsam y nos Fercher blaenorol (20 Mawrth), cyn curo Slofacia o’r un sgôr bnawn Sul (24 Mawrth) yn eu gêm ragbrofol gyntaf ar gyfer Ewro 2020.

Dyma’r diweddaraf o fideo’s uchafbwyntiau byr a bachog gan y Gymdeithas Bêl-droed sydd wedi cynnwys caneuon gan artistiaid cyfoes Cymraeg. Cyhoeddwyd y diweddaraf o’r fideos hyn ym mis Rhagfyr gydag uchafbwyntiau amryw dimau Cymreig yn ystod 2018, gan ddefnyddio’r trac HMS Morris, ‘This Mistletoe is Mine (Ring a ding a ding)’ fel cerddoriaeth gefndirol.

Yn gynharach yn y flwyddyn defnyddiwyd ‘Fel i Fod’ gan Adwaith ar fideo’n dathlu llwyddiant tîm pêl-droed merched Cymru ym mis Mehefin, cyn i drac arall gan Alffa, ‘Gwenwyn’, gael ei defnyddio ar fideo o uchafbwyntiau tîm y dynion ym mis Medi. Mae bron yn sicr fod cael eu cynnwys ar y fideos wedi bod yn hwb i boblogrwydd y traciau yma, gyda ‘Fel i Fod’ ac wrth gwrs ‘Gwenwyn’ ymysg y mwyaf llwyddiannus erioed ar Spotify.

Mae’r defnydd o’r caneuon yma’n rhan o bartneriaeth gyda chynllun Gorwelion BBC Cymru a Chyngor y Celfyddydau. Mae’r fideos yn cael eu cyhoeddi ar gyfryngau cymdeithasol y Gymdeithas Bêl-droed ac yn cael eu rhannu’n eang.

Felly, mwynhewch uchafbwyntiau ein tîm pêl-droed cenedlaethol yng nghwmni’r diwn ardderchog yma gan hogia Alffa…

WALES_TRINIDADANDTABAGO_SLOVAKIA_HIGHLIGHTS_HORIZONS_Alffa

🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 Pêl-droed Cymru… Fel pla yn dy feddwl! Alffa… The soundtrack to last week's highlights 👊🎧 Horizons / Gorwelion #TheRedWall #YWalGoch

Posted by FA Wales on Wednesday, 27 March 2019