Plan B ar gyfer Maes B 2019

Mae Maes B wedi cyhoeddi pâr o gigs cyn y Nadolig fydd yn llenwi’r bwlch a adawyd ym mis Awst eleni wrth i ddwy noson olaf gŵyl gerddoriaeth ymylol yr Eisteddfod Genedlaethol gael eu canslo.

Bu’n rhaid canslo gigs Maes B ar nos Wener a Sadwrn yr Eisteddfod yn Llanrwst oherwydd y rhagolygon am dywydd difrifol, gan olygu siom i’r cynulleidfaoedd ifanc sy’n heidio i’r ŵyl yn flynyddol.

Er mwyn llenwi’r bwlch, mae AM a Maes B wedi cydweithio i lwyfannu dau gig ym mis Rhagfyr, gyda’r union leinyps oedd fod i ymddangos ar lwyfan Maes B ar y ddwy nosol olaf yn Llanrwst.

13 ac 14 Rhagfyr ydy’r dyddiadau, ac mae’r gigs yng Nghaerfyrddin a Wrecsam.

Mae’r gigs ar gyfer bobl dros 16 oed, ac mae modd archebu tocynnau o wefan Maes B nawr.

13 Rhagfyr 2019
Undeb Myfyrwyr y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin 

Mellt
Adwaith
Papur Wal
Wigwam
DJ Elan Evans

14 Rhagfyr 2019 
Tŷ Pawb, Wrecsam 
Gwilym
Los Blancos
Lewys
Tri Hwr Doeth
DJs Pyst yn dy Glust