Podlediad newydd Y Sîn o ŵyl Sŵn

Mae criw blog cerddoriaeth Sôn am Sîn wedi cyhoeddi eu podlediad diweddaraf, ‘Y Sîn’.

Enw’r podlediad diweddaraf ydy ‘Sôn am Sŵn’, ac fel mae’r enw’n awgrymu, mae’r ddeuawd Chris Roberts a Gethin Griffiths yn bwrw golwg nôl ar Ŵyl Sŵn, gan sgwrsio gyda nifer o’r artistiaid fu’n perfformio yno.

Mae’r bennod yn cynnwys sgyrsiau gyda’r artistiaid Hyll, Ynys, Eadyth a Casi. Maent hefyd yn sgwrsio gydag Elan Evans o Glwb Ifor Bach, sydd bellach yn bennaf gyfrifol am drefnu Gŵyl Sŵn, gan gynnig golwg fanylach ar drefniadau’r ŵyl sy’n ddifyr iawn.

Yn ôl yr arfer mae’n drafodaeth graff a difyr gan y ddeuawd, ac mae’r sgyrsiau gyda’r artistiaid yn rai dadlennol – gwaith da eto hogia.