Pob blwyddyn wrth i ni nesau at ddyddiau penwythnos Gwobrau’r Selar rydan ni’n talu teyrnged i enillydd ein gwobr ‘Cyfraniad Arbennig’ trwy ofyn i chi bleidleisio dros eich 10 Hoff Gân gan yr artist dan sylw.
Cyhoeddwyd fis Ionawr mai Mark Roberts a Paul Jones oedd i dderbyn ein gwobr Cyfraniad Arbennig eleni, a byddan nhw’n derbyn y wobr ar nos Wener y gwobrau, 15 Chwefror, yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth.
Cynhelir sgwrs arbennig gyda’r ddau cyn y gig ar y nos Wener hefyd, a hynny yn Y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru am 17:00. Mynediad am ddim i hwn – bargen!
Mae Mark a Paul wrth gwrs yn fwyaf adnabyddus am eu gwaith gyda’r grwpiau Y Cyrff, Catatonia ac Y Ffyrc, er eu bod wedi gweithio ar sawl prosiect cerddorol arall ar y cyd ac ar wahan (Sherbet Antlers, Messrs, The Earth, Mr).
Felly, dyma restr hir i chi o ganeuon Cymraeg y tri grŵp amlycaf yma – pleidleisiwch dros eich ffefryn dros yr wythnos nesaf, ac fe wnawn ni lunio rhestr 10 Uchaf bach i chi cyn penwythnos y Gwobrau.
Os ydach chi angen atgoffa eich hunain am safon eu gwaith, rydan ni wedi llunio rhestrau chwarae o ganeuon gorau Y Cyrff, Catatonia (Cymraeg) ac Y Ffyrc i chi wrando ar waelod y dudalen yma – mwynhewch a bwrwch bleidlais!