Bydd sengl gyntaf albwm newydd Pasta Hull yn cael ei rhyddhau ar ddydd Gwener 26 Gorffennaf, gyda’r albwm i ddilyn wythnos yn ddiweddarach.
Chawn Beanz ydy enw ail albwm y grŵp o Gaernarfon a bydd y sengl ‘Boneddigion & Boneddigesau’ yn damaid i aros pryd mewn sawl ystyr!
Casgliad o 13 o draciau sydd ar yr albwm newydd sy’n arddangos gallu cerddorol y grŵp sydd rhywsut yn llwyddo i greu cymysgedd anhygoel o synau ffync, seicadelig, stoner-roc a reggae.
Mae’r sengl, ‘Boneddigion & Boneddigesau’ yn gipolwg o ystafell recordio’r brodyr Llyr ac Owain Jones, sef y prif egni tu cefn i Pasta Hull. Mae’n llawn curiadau lleddfol bongos, riffs hyfryd ar y piano, synau fuzzy y gitâr a lleisiau bron pob aelod o’r grŵp amgen yn chwerthin, canu, rapio a siarad.
Fel oedd yn wir am albwm diwethaf Pasta Hull, Achw Met, a setiau byw’r band, mae’r casgliad newydd yn gyfanwaith o draciau di-ddiwedd a geiriau doniol, chwareus a thafod yn y boch.
Mae’r sengl newydd, ‘Boneddigion & Boneddigesau’ eisoes wedi’i chwarae ar y radio gan Huw Stephens, ac fe ymddangosodd fideo ar gyfer y sengl ar sianel YouTube Ffarout ddydd Gwener diwethaf, 19 Gorffennaf.
Bydd gig lansio swyddogol yr albwm newydd yn cael ei gynnal yn y Balaclava Barn yng Nghaernarfon ar nos Sadwrn 3 Awst. Mae Papur Wal a Pys Melyn yn cefnogi ar y noson – dau fand sydd wedi cydweithio â Pasta Hull yn y gorffennol – a bydd fersiwn CD o’r albwm ar werth ar y noson.
Mae’r albwm ‘Chawn Beanz’ yn cael ei ryddhau’n swyddogol ar 2 Awst gan label Recordiau Noddfa.
Ddydd Gwener diwethaf roedd premiere fideo’r sengl newydd ar sianel YouTube Ffarout…a dyma fo isod!