PRIØN yn rhyddhau ‘Bwthyn’

Mae PRIØN wedi rhyddhau eu hail sengl, ‘Bwthyn’, ers dydd Gwener 29 Tachwedd.

PRIØN ydy prosiect newydd Arwel Lloyd, neu Gildas i bawb sy’n dilyn y sin gerddoriaeth Gymraeg.

Celyn Llwyd Cartwright ydy hanner arall y ddeuawd gyfoethog. Yn wreiddiol o Ddinbych, a bellach yn astudio gradd meistr yng Nghaerdydd, mae hithau yn wyneb a llais adnabyddus i’r genedl.

Deuawd canu gwlad amgen newydd ydy PRIØN ac fe ryddhawyd eu sengl gyntaf, ‘Bur Hoff Bau’, ar 11 Hydref.

Gan ddisgrifio eu genre fel ’alt-country’, mae’r ddau wedi  uno i gyflwyno caneuon gwreiddiol, melodig a theimladwy i’r genedl.

Gildas Music sy’n rhyddhau’r sengl ddiweddaraf yn ddigidol.