Pump i’r Penwythnos – 02 Awst 2019

Gig: Lansiad Albwm Pasta Hull – Neuadd y Farchnad, Caernarfon – 03/08/19

Wel, ma’r Steddfod Genedlaethol wedi cyrraedd felly mae llygaid y rhan fwyaf o gig-garwyr yn troi i gyfeiriad Llanrwst y penwythnos yma.

Mae gigs Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cael eu cynnal trwy’r wythnos yng Ngwesty’r Eagles ar sgwâr enwog Llanrwst – dyma’r lle i fod yn bendant, gyda thafarndai croesawgar y amgylchynu’r sgwâr. Mae’r wythnos yn dechrau nos fory gyda Bryn Fôn, Crawia a Tant.

O ran stwff swyddogol y Steddfod, mae’n debyg mai llwyfan y maes fydd y prif gyrchfan ddydd Sadwrn. Mae cwpl o comebacks i’w dal – y grŵp lleol o’r 80au, Boff Frank Bough, a Maharishi yn cloi y noson. Gallwch weld Y Niwl, Gai Toms ac Omaloma ar y dydd Sadwrn cyntaf hefyd – dipyn o lein-yp i agor yr wythnos.

Ond, mae ein prif ddewis ni o gig penwythnos yma yng Nghaernarfon, ac yn Neuadd y Farchnad. Noson lansio albwm newydd Pasta Hull, Chawn Beanz a does wybod beth all ddigwydd gyda’r criw yma ar y llwyfan – dyna pam maen nhw mor wych! Yr ardderchog Papur Wal yn cefnogi hefyd.

 

Cân: ‘Hey!’ – Adwaith

Anodd peidio rhoi sylw o ryw fath i Adwaith wythnos yma i ddweud y gwir, gyda dau bwt o newyddion o bwys ynglŷn â’r triawd o Gaerfyrddin.

Yn gyntaf, daeth y newyddion eu bod nhw wedi eu hychwanegu i lein-yp Gŵyl y Dyn Gwyrdd eleni – gŵyl gerddoriaeth fwyaf Cymru.

Cynheli’r yr ŵyl yn y Bannau Brycheiniog rhwng 15 a 18 Awst eleni, gyda’r tocynnau i gyd eisoes wedi’i gwerthu, a bydd Adwaith yn perfformio ar y ‘Mountain Stage’ ar y dydd Sadwrn. Digon prin ydy’r artistiaid Cymraeg yno eleni’n anffodus, ond da gweld Adwaith yn ymuno â Gwenno ar y lein-yp – bydd Gwenno’n chwarae ar lwyfan ‘Far Out’ ar y dydd Gwener.

A daw’r newyddion hwnnw’n dynn ar sodlau rhyddhau eu sengl ddiweddaraf ddydd Gwener diwethaf, 26 Gorffennaf.

‘Hey!’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar label Recordiau Libertino. Dyma’r ail sengl i’r grŵp ryddhau eleni yn dilyn ‘O Dan yr Haenau’ a ryddhawyd ym mis Chwefror.

Does dim amheuaeth bod y grŵp yn parhau i fynd o nerth i nerth, a hiroes i hynny.

 

Record: Blodau Papur – Blodau Papur

Mae’r datganiad ‘albwm hir ddisgwyliedig’ yn cael ei or-ddefnyddio heb amheuaeth, ond yn achos y record yma mae’n hollol deg.

Mae’r siwpyr-grŵp sy’n cael ei arwain gan Alys Williams ac Osian Huw Williams yn recordio eu record hir gyntaf ers tua deunaw mis, ac ar ôl cosi ein clustiau a chodi chwant gydag ambell sengl yn ddiweddar, o’r diwedd mae’r albwm yn gweld golau dydd heddiw.

Recordiau I KA CHING sy’n rhyddhau’r albwm newydd, ac mae’n dilyn sengl ddiweddaraf Blodau Papur, ‘Mynd i ‘Neud O’ a ryddhawyd wythnos diwethaf. Mae’r casgliad hefyd yn cynnwys y sengl ddwbl, ‘Llygad Ebrill / Tyrd Ata i’ a ryddhawyd ddechrau mis Ionawr ac yna ‘Yma’ a ryddhawyd ddiwedd mis Mehefin ynghyd â nifer o ganeuon eraill fydd yn gyfarwydd o set byw Alys Williams a’r Band yn wreiddiol, ond bellach Blodau Papur.

Recordiwyd yr albwm yn fyw yn stiwdio Drwm er mwyn dal egni a pherthynas y band gyda’i gilydd.

Dyma fideo’r sengl ‘Yma’ a gynhyrchwyd gan Iestyn Arwel ar gyfer Ochr 1 fis Mehefin:

 

Artist: Cate Le Bon

Mae Cate Le Bon, y gantores sy’n dod yn wreiddiol o Sir Gâr, yn y newyddion wythnos yma wedi iddi gael eu henwebu am Wobr Mercury.

Rhyddhawyd pumed albwm unigol Cate, ‘Reward’, ym mis Mai eleni, ac mae’n un o ddeuddeg record hir sydd wedi eu henwebu ar gyfer y wobr.

Mae’r Mercury Prize yn cael ei dyfarnu am yr wythfed ar ugain gwaith eleni. Roedd unrhyw record hir gan artistiaid Prydeinig neu Wyddelig a ryddhawyd rhwng y dyddiadau 21 Gorffennaf 2018 a 19 Gorffennaf 2019 yn gymwys ar gyfer y wobr eleni, ac enwebwyd 200 o recordiau i’w hystyried gan y panel beirniaid.

Heb os mae’r wobr yn un uchel ei pharch, ac wedi helpu lansio gyrfa sawl artist amlwg. Enillwyr y wobr gyntaf ym 1992 oedd Primal Scream a’u halbwm enwog ‘Screamadelica’, ac mae cyn enillwyr eraill yn cynnwys Suede, Pulp, PJ Harvey, Badly Drawn Boy, Franz Ferdinand, Arctic Monkeys ac enillwyr llynedd, Wolf Alice.

Dyma’r rhestr fer yn llawn eleni:

  • Anna Calvi – Hunter
  • Black Midi – Schlagenheim
  • Cate Le Bon – Reward
  • Dave – Psychodrama
  • Foals – Everything Not Saved Will Be Lost
  • Fontaines DC – Dogrel
  • Idles – Joy As an Act of Resistance
  • Little Simz – Grey Area
  • Nao – Saturn
  • SEED Ensemble – Driftglass
  • Slowthai – Nothing Great About Britain
  • The 1975 – A Brief Inquiry Into Online Relationships

 

Un peth arall…: Seiat i lansio cynnyrch Y Cyrff

Mae’r Steddfod ar y ffordd i’r dref, ond roedd yn noson fawr yn Llanrwst neithiwr (nos Iau 1 Awst) gyda lansiad dwbl o gynnyrch grŵp enwocaf y dre.

Mae Recordiau I KA Ching wedi ail-gyhoeddi EP ardderchog Y Cyrff, Yr Atgyfodi, a ryddhawyd yn wreiddiol union 30 mlynedd yn ôl, pan oedd yr Eisteddfod yn ymweld â Llanrwst ddiwethaf. Mae hon yn glamp o record 5 trac sy’n cynnwys tiwns anhygoel fel ‘Weithiau/Anadl’, ‘Y Boddi’ ac wrth gwrs yr anthem ‘Cymru, Lloegr a Llanrwst’. Y newyddion gwell fyth ydy bod y record newydd allan ar ffurf feinyl nifer cyfyngedig.

A’r ail beth oedd yn cael ei lansio ydy cyfrol newydd ‘Llawenydd Heb Ddiwedd’, sef llyfr yn adrodd hanes Y Cyrff trwy eiriau eu caneuon.  Mae modd prynu’r llyfr sydd wedi’i sgwennu gan Owain a Toni Schiavone, ynghyd â’r band, nawr mewn siopau llyfrau da ac ar-lein.

Roedd y lansiad swyddogol ar ffurf ‘Seiat yn Y Selar’ ar Facebook Live tudalen Y Selar neithiwr, ac mae modd i chi wylio’r cyfan yn ôl nawr.

Lansiad llyfr ac EP Y Cyrff

Lansiad llyfr ac EP Y Cyrff: hel atgofion gyda Mark Roberts, Mark Kendall a Dylan Hughes o’r band, Toni Schiavone, Myrddin ap Dafydd, cerddoriaeth gan Alun Tan Lan a Y Cledrau, a mwy.Mae’r llyfr Llawenydd Heb Ddiwedd am hanes Y Cyrff ar gael nawr, yn ogystal ag EP Yr Atgyfodi sy’n cael ei ail-ryddhau ar ôl 30 mlynedd.

Posted by Y Selar on Thursday, 1 August 2019