Pump i’r Penwythnos – 03 Mai 2019

Gig: I Fight Lions, Lastigband – Y Pengwern, Llan Ffestiniog – 4/05/19

Mae hi’n benwythnos gŵyl y banc unwaith eto – teimlo fel ein bod ni newydd gael un rhywsut….

Ta waeth, digon ar y gweill gan ddechrau gyda Bryn Fôn yn Neuadd y Farchnad, Caernarfon nos Sadwrn.

Clamp o ddiwrnod yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd ddydd Sadwrn gyda llwyth o fandiau’n perfformio yng Ngŵyl Pŵer. Dim ond un bach Cymraeg yn eu mysg gwaetha’r modd, ond un sy’n werth eu gweld – Chroma!

Mae Bwncath yn ôl yng Nghymru ar ôl bod draw dros y môr yn Iwerddon yn cystadlu yn yr Ŵyl Ban Geltaidd wythnos diwethaf. Ac maen nhw’n gigio eto penwythnos yma yn nhafarn y Penlan Fawr ym Mhwllheli nos Sadwrn.

Ac un gig arall i chi nos Sadwrn, un dda hefyd gydag I Fight Lions a Lastigband yn Y Pengwern, Llan Ffestiniog.

Credwch neu beidio, dim ond un gig sydd gan y Welsh Whisperer dros y penwythnos, ac mae o’n mentro i’r Gorllewin Gwyllt ac yn benodol i Pisgah rhwng Aberystwyth a Phontarfynach ddydd Sul. Aha, dim ond tynnu coes, mae’n benwythnos hir wrth gwrs, ac mae WW wrthi eto ddydd Llun pan fydd o’n perfformio yn Sioe Nefyn yn ystod y prynhawn.

Cân: ‘Welsh Tourist Bored’ – Traddodiad Ofnus

Dyma drac cyntaf yr albwm o’r un enw a ryddhawyd gan Traddodiad Ofnus ym 1987.

Traddodiad Ofnus oedd prosiect Gareth Potter a Mark Lugg, fu hefyd yn gyfrifol am Tŷ Gwydr yn ddiweddarach.

Rhyddhawyd y record ar feinyl yn wreiddiol, gan label o’r Almaen o’r enw Constrictor. Mae’r trac wedi ymddangos ar Soundcloud dros y dyddiau diwethaf, a hynny’n weddol amserol gan fod lot ar y gweill gan Potter a Lugg ar hyn o bryd.

Yn un peth, mae recordiau sy’n gysylltiedig â’r ddau yn cael eu hail-ryddhau ar lwyfannau digidol heddiw – record hunan deitlog Pop Negatif Wastad, grŵp byrhoedlog bu Gareth yn aelod ohono; a hefyd Ll. Ll. V T. G. + MC DRE, sef record wedi’i rannu rhwng Llwybr Llaethog a Tŷ Gwydr, sef grŵp enwocaf Gareth a Mark mae’n siŵr.

Mae’r ddau hefyd yn dod at ei gilydd i gynnal noson arbennig yng Nghlwb Ifor Bach fel rhan o Tafwyl eleni, lle byddan nhw’n dathlu sin gerddoriaeth danddaearol diwedd y 1980au a dechrau’r 1990au yma yng Nghymru.

Roedd Traddodiad Ofnus yn sicr yn ganolog i’r symudiad hwnnw.

Record: Noeth – 9Bach

Mae EP pedwar trac acwstig newydd 9Bach, Noeth, bellach wedi’i ryddhau’n swyddogol.

Dros yr wythnosau diwethaf mae 9Bach wedi bod yn gollwng traciau’r EP yn unigol ar y llwyfannau digidol arferol.

Bellach, ers dydd Gwener 26 Ebrill, mae’r pedair trac ar gael a’r EP wedi’i ryddhau’n swyddogol ar label Real World Records.

Mae’r traciau i gyd yn fersiynau acwstig o ganeuon a ryddhawyd yn wreiddiol ar ddau albwm diwethaf 9Bach sef Anian (2016) a Tincian (2014) – y ddau’n albyms sydd wedi eu canmol i’r cymylau o sawl cyfeiriad wrth gwrs.

Y traciau sy’n cael y driniaeth acwstig gan Lisa Jên a Martin Hoyland ydy ‘Llyn Du’, ‘Yr Olaf’, ‘Lliwiau’ a ‘Llwybrau’.

Mae’r EP ar gael ar y llwyfannau digidol arferol, a dyma flas o ‘Llyn Du’ i chi diolch i Real World Records:

 

Artist: Gwilym Bowen Rhys

Mae Gwilym Bowen Rhys yn foi prysur. Ddim cweit mor brysur a’r Welsh Whisperer o bosib, ond prysur uffernol. Ac mae’r wythnos yma’n wythnos brysur iawn arall i’r trwbadŵr o’r Felinheli wrth iddo ryddhau ei albwm diweddaraf i’w rag archebu.

Roedd Gwil yn perfformio cwpl o gigs lansio ar gyfer yr albwm yn y Galeri, Caernarfon nos Fercher, ac yna yn Acapela, Pentyrch neithiwr.

Arenig ydy enw trydydd albwm unigol Gwilym Bowen Rhys, a label Recordiau Erwydd, sef is-label gwerinol Sbrigyn-Ymborth sy’n gyfrifol am ryddhau’r record hir ddiweddaraf.

Mae Gwilym wrth gwrs yn amlwg fel ffryntman egnïol Y Bandana, ac fel aelod llai egnïol o driawd Plu gyda’r chwiorydd Marged ac Elan. Mae o hefyd yn tueddu i lanio ar lwyfan gyda Bwncath nawr ac yn y man.

Ond erbyn hyn, ag yntau’n gigio’n hurt ers cwpl o flynyddoedd, mae o wedi hen wneud enw i’w hun fel cerddor unigol o’r safon uchaf. Yn wir, fe enillodd wobr yr ‘Artist Unigol Gorau’ yng Ngwobrau Gwerin Cymru’n ddiweddar.

Mae’r albwm newydd yn dilyn ei albwm unigol cyntaf, O Groth y Ddaear, a ryddhawyd gan label Fflach yn 2016, ac yna Detholiad o Hen Faledi a ryddhawyd gan Erwydd llynedd.

Roedd Recordiau Erwydd yn cymryd rhag archebion ar gyfer yr albwm yn ystod gigs Gwilym wythnos yma, ac mae cyfle arall i chi ei weld yn perfformio yn Y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru nos Wener nesaf, 10 Mai.

Dyma Gwil yn canu ‘Ben Rhys’ yng Ngwobrau’r Selar ddwy flynedd yn ôl:

Un peth arall…: Fideo Thallo

Sgŵp fach neis i’r Selar ddydd Mawrth wrth i ni gael y cyfle cyntaf i ddangos fideo ‘I Dy Boced’ gan Thallo yma ar yr wefan.

Rhyddhawyd y sengl ddydd Gwener diwethaf, ond fore dydd Mawrth oedd y cyfle cyntaf i weld y fideo ardderchog gan brosiect cerddorol Elin Edwards, sy’n dod o Benygroes yn wreiddiol ond yn byw yn Llundain ar hyn o bryd.

Mae’r gantores yn cydnabod, ac yn falch o’r ffaith fod y fideo’n un tywyll iawn – felly rhybudd bach i’r gwangalon cyn gwylio!

Cafodd fideo ‘I Dy Boced’ ei ffilmio gan Anxious Club a Jack Koçak, sy’n cynhyrchu fideos tywyll. Yn ôl Elin mae hynny’n briodol gan fod neges benodol iawn i’r fideo.

“Wnaethom ni drio creu fideo allan o cliche ‘nightmares’ a chyfleu darlun swreal i ddangos persbectif gwahanol ar realiti drwy lygaid iselder” eglura’r gantores.

“Mae’r fideo’n dilyn thema y geiriau – cael fy llusgo o realiti, ond mewn ffordd llythrennol iawn!

“Mae’r syniad yna hefyd wedi’i gymysgu efo hunllefau cliché yn y fideo, fel y dannedd yn disgyn allan.”

Mwynhewch….