Gig: Gwilym, Y Cledrau, Hana2K a mwy – Gŵyl Ffrinj Abertawe – 5/10/19
Mae’n benwythnos prysur i gerddoriaeth yn Ninas y Jacs gyda Gŵyl Ffrinj Abertawe yn dechrau neithiwr (nos Iau) ac yn rhedeg nes nos Sul.
Un o uchafbwyntiau’r penwythnos ydy llwyfan Libertino yn The Bunkhouse heno – mae Breichiau Hir a SYBS ymysg yr artistiaid sy’n perfformio.
The Hyst ydy un o’r lleoliadau mwyaf diddorol yn ein tyb ni, gyda sesiynau a sgyrsiau diwydiant fore Sadwrn, ac yna llwyth o artistiaid gwych yn perfformio gyda’r hwyr. Mae’r lein-yp nos Sadwrn yn cynnwys swp o artistiaid cynllun Gorwelion eleni – Gwilym, Y Cledrau, Endaf a HANA2K yn eu mysg.
Gig bach da iawn yng Nghlwb Ifor Bach heno hefyd, gyda Mellt, Sock a’r grŵp o Abertawe sydd wedi dechrau canu rhywfaint yn y Gymraeg, Bandicoot yn perfformio. Cyfle heno hefyd i weld Bryn Fôn yn y Galeri, Caernarfon.
Gŵyl arall dros y penwythnos ydy Gŵyl Werin Hydref, Theatr Soar Merthyr Tydfil. Rhai o’r enwau sy’n chwarae ydy VRï, Kizzy Crawford a Gwilym Morus Baird.
Cwpl o gigs nos Sadwrn i gloi – mae Gai Toms a’r Band, gyda chefnogaeth gan Bwncath yn Neuadd Bentref Llanuwchllyn, tra bod Blodau Papur yn chwarae ail gig eu taith fer yn Amgueddfa Ceredigion, Aberystwyth gyda Mared Williams yn cefnogi – mae’r cyntaf yn Theatr Derek Williams, Y Bala heno.
Cân: ‘Creisus’ – Cefn Du
Ecsgliwsif fach arall i’r Selar wythnos yma wrth i ni gynnig y cyfle cyntaf i chi glywed cerddoriaeth y prosiect electroneg newydd, Cefn Du.
‘Creisus’ ydy enw sengl gyntaf y grŵp, sydd allan ar lwyfannau digidol heddiw, 4 Hydref.
Tu hwnt i hynny, ychydig iawn o wybodaeth sydd ganddom ni am y grŵp newydd dirgel yn anffodus.
Mae Cefn Du yn brosiect electronig Cymraeg newydd wedi’i sefydlu yn ardal Caernarfon, ac mae’n debyg bod y cerddor sy’n gyfrifol am y grŵp wedi gweithio ar brosiectau cerddorol eraill yn y gorffennol. Enw cyfarwydd, ond cudd am y tro, felly yn ein tyb ni.
Tamaid i aros pryd ydy’r sengl gan fod Cefn Du wrthi’n recordio eu EP cyntaf ar hyn o bryd ac yn dwyn dylanwadau o gerddoriaeth house a tecno.
Rydan ni’n hoffi’r hyn rydan ni’n ei glywed hyd yma. Dyma ‘Creisus’:
Record: Oesoedd – Mr
Newyddion ardderchog yr wythnos hon wrth i Mr gadarnhau bydd ei ail albwm allan ym mis Hydref eleni!
Amen ydy enw ail record hir prosiect diweddaraf Mark Roberts, gynt o’r Cyrff, Catatonia a’r Ffyrc ymysg grwpiau eraill.
Bydd Amen allan bron union flwyddyn ar ôl rhyddhau ei albwm cyntaf, Oesoedd, fel yr eglura’r cerddor…
“Bydd o allan 364 diwrnod ar ôl Oesoedd, felly dwy albwm mewn blwyddyn!” meddai Mark wrth Y Selar.
25 Hydref ydy’r dyddiad rhyddhau swyddogol, a bydd yn cael ei ryddhau ar label Strangetown Dafydd Ieuan o’r Super Furry Animals. Rhyddhawyd Oesoedd ar 26 Hydref llynedd!
Cyfle perffaith i ni atgoffa pawb o wychder albwm cyntaf Mr, felly. ‘Y Pwysau’ oedd sengl gyntaf yr albwm, a honno sydd wedi parhau’n ffefryn ar y tonfeddi ers hynny. Ond, mae’r casgliad yn llawn o diwns gwych gan gynnwys ‘Hen Ffrind’, ‘Bachgen’, ‘Amser Maith yn Ôl’ a hon, yr hyfryd, epig ‘Oesoedd’:
Artist: Yr Ods
Wedi sawl blwyddyn go dawel, mae’n grêt gweld Yr Ods nôl gyda cherddoriaeth newydd ar ffurf y sengl ‘Ceridwen’, sydd allan heddiw.
Dyma’r sengl gyntaf o’u halbwm newydd, Iaith y Nefoedd, sydd allan ar 22 Tachwedd. Os ydach chi wedi darllen rhifyn diweddar Y Selar, byddwch yn gwybod rhywfaint o hanes eu prosiect diweddaraf yn barod.
Wnawn ni ddim dal dig os nad ydach chi wedi darllen y rhifyn, achos pobl fel’na ydan ni yn Y Selar.
Mae cynnyrch diweddaraf Yr Ods yn gywaith cysyniadol, aml gyfrwng gyda’r awdur enwog o Gaerdydd, Llwyd Owen. Law yn llaw â’r albwm gan y grŵp, mae Owen wedi ysgrifennu nofel fer.
Mae’r nofel yn ail-ddehongliad o’r ymadrodd cyfarwydd sy’n deitl i’r cywaith, ac yn ei osod mewn Cymru ddystopaidd sy’n pydru â chasineb. Mewn dyfodol diobaith, caiff rhyddid a syniadau eu rheoli hyd yr eithaf. Os ddarllenwch chi’r sgwrs gyda Llwyd Owen yn Y Selar fe welwch chi fod y cyfan wedi tyfu o “obsesiwn” y band gyda cults, ac mae’r bartneriaeth wedi mynd a’r prosiect i lefydd tywyll o hynny.
‘Iaith y Nefoedd’ ydy trydydd albwm Yr Ods, yn dilyn ‘Troi a Throsi’ (2011) a ‘Llithro’ (2013). Er bod y sain yn fwy tywyll na gwaith blaenorol y band, mae’r melodïau pop bachog cyfarwydd yn dal i fod yn amlwg.
Mae’n debyg bod bwriad i gynnal digwyddiadau byw i gyd-fynd â’r albwm, gyda manylion i’w cyhoeddi’n fuan.
Dyma ‘Ceridwen’:
Un peth arall…: Ffrydio ‘Llwytha’r Gwn’ dros 200,000 o weithiau
Mae’r trac ‘Llwytha’r Gwn’ gan Candelas, sy’n cynnwys llais godidog Alys Williams, wedi croesi’r ffigwr o 200,000 ffrwd ar wasanaeth Spotify.
Rhyddhawyd y gân ar ail albwm Candelas, ‘Bodoli’n Ddistaw’ a gyhoeddwyd ar label Recordiau I KA CHING yn 2014.
Er bod y ffigwr yn dipyn llai na hwnna ar gyfer ‘Gwenwyn’ gan Alffa, sy’n agosáu at 3 miliwn ffrwd bellach, mae dal yn garreg filltir arwyddocaol.
Cyfrinach llwyddiant ‘Gwenwyn’ a’r gan arall Alffa sydd wedi’i ffrydio dros filiwn o weithiau, ‘Pla’, ydy’r ffaith eu bod nhw wedi glanio ar restrau chwarae poblogaidd a hynny wedi denu’r gwrandawyr.
Tydi hynny ddim yn wir am ‘Llwytha’r Gwn’ yn ôl y label a ryddhaodd y trac, I KA CHING, felly maen debyg y gellid dweud bod y nifer ffrydiau yn un mwy ‘organig’.
Dim ond tair cân gyfan gwbl Gymraeg sydd wedi’u ffrydio dros filiwn o weithiau, sef ‘Gwenwyn’ a ‘Pla’ gan y ddeuawd o Lanrug, Alffa a ‘Sbia ar y Seren’ gan Gorky’s Zygotic Mynci.
Dyma nhw’n gwneud ‘Llwytha’r Gwn’ yn Gig y Pafiliwn, Eisteddfod Y Fenni 2016:
Prif lun: Mr (BetsanHaf Evans / Y Selar)