Pump i’r Penwythnos – 04 Ionawr 2019

Blwyddyn newydd, ac os ydach chi’n dal i ddioddef â hangofyr yr ŵyl, na phoener canys mae digon o bethau cerddorol gwych gan Y Selar i leddfu’ch poen y penwythnos yma!

Gig: Chroma, DJ Pydew a mwy – Le Pub, Casnewydd – 04/01/19

Mae’n rhaid bod pawb wedi ei gor-wneud hi dros yr ŵyl oherwydd prin iawn ydy’r gigs Cymraeg penwythnos yma. Ac wedi misoedd bywiog iawn o ran digwyddiadau byw, efallai fod pawb yn haeddu egwyl fach a noson i mewn o flaen y tân.

Wedi dweud hynny, mae ‘na gwpl o gigs bach neis i ddechrau’r flwyddyn. Nos Sadwrn, gallwch chi ymlacio i synau swynol Blodau Gwylltion yn Nhŷ Siamas, Dolgellau. Ond os ydach chi isho rhywbeth hollol wahanol yna beth am rocio gyda Chroma yn Le Pub, Casnewydd lle mae The Pitchforks a DJ Pydew yn cefnogi heno (nos Wener).

Rhai sy’n parhau’n fywiog ydy Pasta Hull ac mae ganddyn nhw gwpl o gigs ar y gweill dros y ffin ddechrau’r wythnos. Nos Lun maen nhw’n gigio yn Efrog, ac yna yn Kingston Uopn Hull nos Fawrth – randym, ond gwych…beth arall fyddech chi’n disgwyl gan Pasta Hull dwedwch?!

 

Cân: ‘Craen ar y Lleuad’ – Plant Duw

Mae’r grŵp gwych a gwallgof o Fangor, Plant Duw wedi cyhoeddi sengl newydd ar ddydd Calan, 1 Ionawr 2019.

Fersiwn newydd o hen gân gan y grŵp ydy’r sengl, sef ‘Craen ar y Lleuad’.

Recordiwyd y gân yn wreiddiol ar gyfer sesiwn C2 Radio Cymru i raglen Huw Stephens yn 2005, ond dywed yr aelodau wrth Y Selar nad oedden nhw’n fodlon iawn ag ansawdd y sesiwn felly maen nhw wedi penderfynu recordio fersiwn newydd, “well” i ddyfynnu eu geiriau hwy.

Y newyddion da ychwanegol ydy bod fideo i gyd-fynd â’r sengl newydd. Ffilmiwyd y fideo wrth i’r grŵp recordio’r sengl ‘Heddiw’ yn Stiwdio Un Rachub gyda’r cynhyrchydd Sam Durrant yn gynharach yn 2018.

Mae Plant Duw wedi bod yn gymharol dawel ers cwpl o flynyddoedd, ond fe wnaethon nhw ryddhau dwy sengl yn ystod 2018 gan awgrymu eu bod nhw’n dechrau ail-gydio ynddi. Yn gyntaf rhyddhawyd eu fersiwn o’r gân draddodiadol boblogaidd ‘Migldi Magldi’ ym mis Chwefror 2018, gan ddilyn hynny gyda’r sengl ‘Heddiw’ ar ddechrau mis Awst.

Bydd steil ‘Craen ar y Lleuad’ yn gyfarwydd i bawb sy’n gyfarwydd â cherddoriaeth hwyliog, tafod ym moch Plant Duw. Dyma’r fid:

 

Record: Achw Met – Pasta Hull

Gan mai Pasta Hull ydy un o’r unig fandiau prysur wythnos yma, mae’n esgus da i’ch hatgoffa o unig albwm y grŵp hyd yma, Achw Met.

Rhyddhawyd yr albwm yn wreiddiol ym mis Hydref 2017, ac mae dal modd prynu’n ddigidol ar safle bandcamp Pasta Hull.

Ers hynny, maen nhw hefyd wedi ryddhau fersiwn CD o’r albwm, ond mae’r copïau i gyd wedi eu gwerthu sy’n adlewyrchiad o boblogrwydd y grŵp o Gaernarfon.

Llwyth o draciau da ar yr albwm, gyda ‘Funk Soldiers’, ‘Cacan Ffenast’ a ‘Jam Heb Siwgwr’ ymysg ein ffefrynnau.

Dyma nhw’n perfformio ‘Funk Soldiers’ yn fyw ar lwyfan Gwobrau’r Selar fis Chwefror diwethaf:

 

Artist:  Blodau Papur

Enw newydd, ond wynebau cyfarwydd!

Blodau Papur ydy’r enw newydd sydd wedi’i fabwysiadu gan Alys Williams a’r Band sy’n gyfarwydd ar lwyfannau Cymru ers cwpl o flynyddoedd.

Mae’r Band yn cyfuno llais hudolus Alys Williams gyda thalentau cerddorol Osian Williams (Candelas / Palenco / Siddi), Gwion Llewelyn (Race Horses / Villagers), Aled Huws (Cowbois Rhos Botwnnog) a Branwen Williams (Cowbois Rhos Botwnnog / Siddi). Mae Alys yn perfformio’n fyw gyda’r grŵp o gerddorion amryddawn fel band cefndir ers cwpl o flynyddoedd, ond bellach mae wedi penderfynu rhoi’r enw newydd ar y prosiect.

A’r newyddion mawr yr wythnos hon ydy bod Blodau Papur wedi rhyddhau eu sengl ddwbl newydd ar label Recordiau I KA CHING ar ddydd Calan, gan ddechrau’r flwyddyn mewn steil. Y traciau sydd wedi’u rhyddhau ydy ‘Llygad Ebrill’ a ‘Tyrd Ata I’.

Caneuon sy’n trafod y perthnasau brau rhwng pobl ydy’r ddau drac, gydag Osian Williams yn gyfrifol am gyfansoddi’r gerddoriaeth, a’r geiriau wedi eu hysgrifennu gan ei chwaer Branwen Williams.

Mae ‘Llygad Ebrill’ yn trafod sut y gall adegau anodd dynnu ffrindiau yn nes at ei gilydd, a ‘Tyrd Ata I’ yn sôn am berthynas simsan dau gariad sy’n ceisio’u gorau i glosio. Cerddoriaeth ‘bluesy’, rhyfedd, ddwfn sydd gan Blodau Papur ar ein cyfer yn ôl y label, ac mae’r ddwy sengl yn damaid i aros pryd cyn iddynt ryddhau albwm yn hwyrach yn 2019.

Dydy’r traciau ddim ar gael ar Soundcloud nac ar YouTube ar hyn o bryd, ond maen nhw ar gael o’r llwyfannau ffrydio a lawr lwytho digido arferol. A dyma’r trac ‘Blodau Papur’ gan Alys Williams a’r Band.

Un peth arall…: Uchafbwyntiau 2018 Ochr 1

Mae gwasanaeth Hansh / Ochr 1 wedi cyhoeddi cwpl o eitemau difyr yn bwrw golwg nôl ar uchafbwyntiau cerddorol 2018.

Garmon ab Ion ac Elan Evans sy’n ymddangos ar yr eitem fideo fer sy’n trafod digwyddiadau mawr y flwyddyn gan gynnwys Gwobrau’r Selar a llwyddiant albyms Gwenno, Mellt ac Adwaith.

Stori arall sy’n cael lle amlwg ydy llwyddiant ysgubol trac ‘Gwenwyn’ gan Alffa ar Spotify.

Mae Garmon ac Elan hefyd yn cyfrannu at y podlediad sydd wedi’i gyhoeddi gan Hansh, gyda Rhys Gwynfor yn ymuno a’r ddeuawd i drafod y flwyddyn mewn mwy o fanylder. Mae’r tri yn mynd i hwyl wrth drafod Gwobrau’r Selar, Maes B, gwyliau’r haf a’r artistiaid sydd wedi creu argraff arnyn nhw yn 2018.

Un sgwrs ddifyr yn y podlediad ydy honno ynglŷn â datblygu bandiau newydd i fod yn brif fandiau y sin ac mae hyn yn arwain at drafod eu gobeithion ynglŷn â’r flwyddyn i ddod.

Mae modd gwylio’r fideo ar gyfryngau arferol Hansh ac Ochr 1, ac mae modd lawr lwytho’r podlediad o’r apps podlediadau poblogaidd.