Pump i’r Penwythnos – 05 Ebrill 2019

Gig: Merched yn Gwneud Miwsig – Aberystwyth – 06/04/19

Lot o gigs penwythnos yma eto, ac amrywiaeth eang tŵ bŵt!

Mae’n benwythnos Gŵyl Talacharn, sy’n ŵyl fach hyfryd iawn gydag amrywiaeth o gelfyddydau a cherddoriaeth. Mae Recordiau Libertino yn curadu llwyfan tafarn The Fountain ar y ddydd Sul eleni gydag Accu, Adwaith, Keys ac Ynys – sef grŵp newydd Dylan Radio Lux / Racehorses – i gyd yn perfformio. Cyfle hefyd i ddal Gruff Rhys a The Gentle Good ymysg yr artistiaid dros y penwythnos.

Dim syndod fod cwpl o gigs gan y Welsh Whisperer dros y penwythnos, gyda gig yn Ysgol Griffith Jones, San Clêr heno, ac yna nôl i’r gogledd i Neuadd Bentref Rhiwlas nos fory.

Ambell un o’r big hityrs yn perfformio heno hefyd gydag Elin Fflur yn Saith Seren, Wrecsam a Bryn Fôn yng Ngwesty Tŷ Newydd, Aberdaron. Cyfle hefyd i ddal Mei Gwynedd yn Llofft, Fic Llithfaen.

Gig arall o bwys mawr heno ydy lansiad EP newydd Papur Wal sy’n digwydd yn nhafarn yr Andrew Buchan yn Nhreganna gyda chefnogaeth gan yr ardderchog Pasta Hull.

Diwrnod pwysig yn Aberystwyth fory wrth i Merched yn Gwneud Miwsig ymweld am y diwrnod. Mae gweithdy M.y.G.M. yn Arad Goch rhwng 13:00 a 16:00 gydag Ani Glass a Heledd Watkins, ac yna gig gydag Adwaith ac Ani Glass yn Amgueddfa Ceredigion gyda’r hwyr.

Mae Gŵyl Gwrw Dolgellau yn Nhŷ Siamas ddydd Sadwrn, sydd hefyd yn lansiad ar gyfer Sesiwn Fawr Dolgellau gyda Lewys, Yr Oria, Dave Bradley ac Alun Cadwaladr yn perfformio. Mynediad yn £5 gyda gwydr peint arbennig yn y pris – bargen!

Gig arall da nos Sadwrn ydy hwnnw yn Neuadd Ogwen, Bethesda gyda Mei Gwynedd ac I Fight Lions yn rocio’r Neuadd i’w seiliau.

Llwyth o stwff da fana does!

 

Cân: ‘Y Gost’ – Sera

Da gweld cynnyrch newydd gan y gantores dalentog, Sera, yn cael ei ryddhau ar ffurf sengl ddwbl ddydd Gwener diwethaf.

‘Y Gost’ a ‘Cysgod y Gell’ ydy enwau’r traciau sydd wedi’u rhyddhau, ac maen nhw allan yn ddigidol ar label CEG Records, gyda lansiaf yn siop recordiau Pie Records yn Llandrillo yn Rhos ddydd Gwener diwethaf.

Bydd Sera efallai’n gyfarwydd i rai dan yr enw Sera Louise, ac mae’n perfformio a rhyddhau cerddoriaeth ers rhyw bymtheg mlynedd bellach mae’n siŵr. Mae’n dod yn wreiddiol o Gaernarfon, ond bellach wedi setlo yng Nghaerdydd.

Y newyddion da pellach ydy ei bod yn bwriadu rhyddhau mwy o gynnyrch yn dros y misoedd nesaf, gydag albwm i ddod cyn diwedd y flwyddyn.

Rydan ni’n hoff iawn o ‘Y Gost’ yn arbennig – mae’n arddangosfa wych o lais unigryw a dawn chwarae piano Sera.

Dyma fersiwn acwstig syml iawn o’r trac yn cael ei pherfformio yn eglwys St Curig yn Nghapel Curig lle darganfyddodd Sera’r piano arbennig iawn mae’n chwarae yn y fideo. Edrych mlaen i glywed mwy ganddi yn 2019.

Record: Gwn Glan Beibl Budr – Lleuwen

Rydan ni wedi rhoi tipyn o sylw i albwm diweddaraf Lleuwen, Gwn Glân Beibl Budr, dros y misoedd diwethaf, ond mae’n werth manteisio ar unrhyw gyfle i roi plyg i’r casgliad gwych.

Rhyddhawyd yr albwm gan Recordiau Sain fis Tachwedd, ac mae wedi derbyn canmoliaeth o bob cwr ers hynny, gan gynnwys gyrraedd rhif 4 yn rhestr 10 Uchaf albyms Y Selar a gyhoeddwyd yn rhifyn diweddaraf y cylchgrawn.

Daw’r ganmoliaeth ddiweddaraf o gyfeiriad cylchgrawn cerddoriaeth dylanwadol RnR (Rock n Reel), lle mae’r albwm yn cael adolygiad pump seren.

Dave Haslam sydd wedi adolygu’r record, a meddai “…soul baring and emotionally raw, this is an album that gets progressively under the skin…”

Mae’n bur amlwg bod gyda ni albwm arbennig iawn yn fama, ac mae’r natatif yn cryfhau wrth i’r record gyrraedd cynulleidfa ehangach.

Ac mae digon o gyfleodd i glywed Lleuwen yn perfformio’r caneuon yn fyw yn y dyfodol agos wrth iddi gynnal taith theatrau ddechrau mis Mai gan ymweld ag Yr Wyddgrug, Llanelli, Aberystwyth a Bangor.

Dyma fideo’r gân ‘Caerdydd’ sy’n ymddangos ar y casgliad ardderchog yma:

 

Artist: Chroma

Grŵp arall sy’n mynd o nerth i nerth, ac wedi cael cryn lwyddiant dros yr wythnos ddiwethaf ydy Chroma.

Y grŵp roc o Bontypridd oedd un o brif enillwyr Gwobrau Cerddoriaeth Caerdydd a gynhaliwyd yn y Tramshed, Grangetown nos Wener diwethaf, 29 Mawrth.

Roedd y triawd yn fuddugol yn y categori ‘EP/Sengl’ orau am y sengl ddwbl ‘Girls Talk /

Nos Da Susanna’ a ryddhawyd gan label Popty Ping ym mis Tachwedd llynedd.

Nhw hefyd ddaeth i’r brin yn y categori ‘Fideo Gorau’ am y fideo i ‘Girls Talk’ a gynhyrchwyd gan Trigger Happy Creative – uffarn o fideo da ydy o hefyd!

Chroma hefyd oedd yn hedleinio perfformiadau byw y noson gyda’r grwpiau gwych – MADI, Hana2k a Mace – yn cefnogi.

Llongyfarchiadau hefyd i gwpl o ffrindiau eraill Y Selar a gafodd lwyddiant sef Clwb Ifor Bach, a enillodd 4 gwobr, a Bethan Elfyn enillodd y wobr am y ‘Sioe Radio Orau’.

Dyma drac o ôl gatalog Chroma i ddathlu, ‘Datod’:

Un peth arall…: Anorac ar S4C

Go brin fod llawer sy’n darllen heb glywed am y ffilm ddogfen ‘Anorac’ sy’n dilyn taith gerddorol Huw Stephens trwy Gymru.

Mae’r ffilm wedi cael ei dangos mewn ambell sinema dros y misoedd diwethaf, ond neithiwr fe wnaeth ei ymddangosiad premiere ar ein sianel hoff, S4C. ‘Ia ia, bach yn hwyr i ni glywed am hyn rŵan Mr Selar’ dwi’n clywed chi’n dweud…ydy, ond y newyddion da ydy fod y ffilm ar gael i’w gweld ar BBC iPlayer am 160 o ddyddiau eto. Da.

Mae’r ffilm sydd wedi’i chyfarwyddo gan Gruffydd Davies yn dilyn Huw Stephens ar daith gerddorol arbennig o Gymru’n adrodd hanes a chwedl sin diwylliant cerddorol cyfoes ein gwlad. Yn ystod ei daith mae Huw yn cwrdd â nifer o enwau dylanwadol y sin gan gynnwys Gwenno, Dave Datblygu, Georgia Ruth, Gruff Rhys a Meic Stevens.

Sgyrsiau difyr, cerddoriaeth wych a chymeriad hyfryd Huw Stephens yn ei harwain – be well.

Fel trît bach arbennig, rydan ni wedi darganfod y sesiwn gwestiwn ac ateb isod gyda Huw a Gruff adeg premiere Llundain y ffilm…a dim ond 17 person sydd wedi gwylio hwn wrth i ni glicio ‘cyhoeddi’!