Pump i’r Penwythnos – 06 Medi 2019

Gig: Artistiaid Amrywiol – Gŵyl Fwyd 10, Sain Ffagan – 7+8/09/19

Mae Adwaith, Mellt a Papur Wal yn chwarae yn The Victoria Llundain heno, yn yr olaf o’r daith fer oedd yn eu gweld yn ymweld â Glasgow a Manceinion hefyd yr wythnos hon.

Cyfle heno hefyd i weld sioe werin ‘Cynefin’ gan Owen Shiers yn Y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth am 7:30.

Os ydach chi ffansi rhywbeth bach yn wahanol, yna beth am fynd draw i Amgueddfa Werin Sain Ffagan ger Caerdydd ddydd Sadwrn a Sul ar gyfer Gŵyl Fwyd 10. Na phoener, dydy’r Selar ddim am ddechrau troi’n wasanaeth bwyd a diod, mae digon o gerddoriaeth yn cael ei ddarparu gan griw Tafwyl a Gorwelion dros y penwythnos. Llwwwwyth o artistiaid Cymraeg yn perfformio – Aled Rheon, Beth Celyn, Brigyn, Bwncath, Catsgam, Eadyth, Eve Goodman, Glain Rhys, Hana2k, Kizzy Crawford, Lleden, Lowri Evans, No Good Boyo, The Gentle Good ac Y Cledrau.

Ac yna dydd Sul mae’r olaf o gyfres arall o gigs, sef gigs Cantre’r Gwaelod yn Aberystwyth. Elin Fflur a Mei Gwynedd sy’n chwarae yn y Bandstand ar y Prom am 2:30 yn y prynhawn.

 

Cân: I Dy Boced (Ifan Dafydd Remix)’ – Thallo ac Ifan Dafydd

Mae’r artist jazz gyfoes, Thallo, wedi cyd-wethio â’r cynhyrchydd electronig  Ifan Dafydd i ryddhau ail-gymysgiad o’r sengl ‘I Dy Boced’.

Rhyddhawyd ‘I Dy Boced’ yn wreiddiol gan Thallo ym mis Ebrill eleni, ynghyd â fideo i’r gân a ddangoswyd yn gyntaf ar wefan Y Selar ar 30 Ebrill.

Thallo ydy prosiect cerddorol Elin Edwards. Mae Elin yn dod yn wreiddiol o Benygroes, ond yn byw yn Llundain ar hyn o bryd ac yn ysgrifennu cerddoriaeth trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Wrth drafod cerddoriaeth Thallo, mae Elin yn ei ddisgrifio fel ‘sain mynegiannol’ gyda threfniannau cymhleth.

Roedd fersiwn wreiddiol ‘I Dy Boced’ yn ddilyniant i EP Thallo o’r enw ‘Nhw’ a ryddhawyd ym mis Mawrth 2018. Mae’r EP 4 trac hwnnw ar gael ar safle Bandcamp Thallo nawr.

Mae Ifan Dafydd, sy’n gyn-aelod o’r grŵp o ardal Caenarfon, Derwyddon Dr Gonzo, yn bellach wedi sefydlu ei hun fel cynhyrchydd uchel ei barch ar lefel rhyngwladol, ac yn gyfarwydd am ei allu i greu fersiynau unigryw o ganeuon rhai o artistiaid Cymru a thu hwnt.

 

Record: Dafydd Hedd

Mae’r canwr-gyfansoddwr ifanc Dafydd Hedd wedi rhyddhau ei albwm cyntaf ddydd Gwener diwethaf, 31 Awst.

Y Cyhuddiadau ydy enw’r casgliad, ac mae ar gael yn ddigidol o’r holl fannau arferol. Roedd y cerddor o Fethesda yn perfformio mewn gig lansio ar ei stepen drws yn Neuadd Ogwen nos Wener.

Mae Dafydd yn dod o Fethesda ac wedi bod yn perfformio ers iddo fod yn unarddeg oed, ac yn ei eiriau ef wedi bod yn “ysgrifennu caneuon trwy gynnig a gwella ers hynny”.

Dywed Dafydd fod ei ddylanwadau cerddorol yn cynnwys bandiau fel The 1975, Panic at the Disco a Twenty One Pilots. Yn ôl y gŵr ifanc, mae’r modd mae’r artistiaid hyn yn trafod sut mae bywyd modern yn ein brifo ni fel cymdeithas, ac yr athroniaeth tu ôl i hyn wedi ysbrydoli rhai o’i ganeuon.

Yn hynny o beth, nid yw’n syndod efallai bod Dafydd yn rhestru cariad, tristwch, cymuned a bywyd modern fel prif themâu’r albwm.

Does dim llawer o gigs ar y gweill gan Dafydd ar hyn o bryd, ond rhowch sbin i’r casgliad newydd ar Spotify, iTunes Music, Google Play neu Apple Music. Mae’r traciau hefyd ar YouTube, gan gynnwys y trac teitl, ‘Cyhuddiadau’:

 

Artist: Rhys Gwynfor

Mae sengl newydd Rhys Gwynfor, ‘Bydd Wych’ allan ar lwyfannau digidol heddiw.

Dyma gynnyrch cyntaf y cerddor o Lanyrafon ger Corwen ers y ddwy sengl boblogaidd a ryddhaodd llynedd – ‘Capten’ ym mis Mehefin, a ‘Canolfan Arddio’ ym mis Hydref.

Er hynny, bu’n gigio dros yr haf ac mae’n debyg bod Rhys a’i fand wedi bod yn gweithio ar ganeuon newydd, ac yn gobeithio rhyddhau albwm yn y dyfodol agos.

Recordiwyd y sengl yn Stiwdio Sain yn Llandwrog dan faner Stiwdio Drwm sydd bellach yn defnyddio’r stiwdio eiconig fel pencadlys. Osian Williams ac Ifan Jones o Candelas sydd wedi cynhyrchu, dau sy’n gyfarwydd iawn i Rhys ers blynyddoedd ac a gafodd lwyddiant gyda’i gilydd ar ffurf y grŵp Jessop a’r Sgweiri yng Nghân i Gymru gyda’r trac  ‘Mynd i Gorwen efo Alys’.

Un peth sy’n sicr am Rhys ydy ei fod yn gallu sgwennu bangar o diwn, ac mae hon yn un arall gofiadwy dros ben.

Edrychwn ymlaen yn eiddgar at weld sut siâp fydd ar yr albwm!

Dyma diwn gan Rhys sy’n mynd â ni nôl rhywfaint, ‘Cwmni Gwell’:

 

 

Un peth arall…: Fideo ‘Dilyn Iesu Grist’

Wythnos diwethaf, sengl newydd Los Blancos oedd ein dewis o gân yr wythnos ar gyfer Pump i’r Penwythnos. Yr wythnos hon, mae Y Selar yn falch iawn i allu dangos y fideo ar gyfer y gân ar ein gwefan cyn unrhyw le arall.

Nid yw’n gyfrinach ein bod ni’n ffans mawr o Los Blancos fyth ers dod ar draws y fersiwn demo o ‘Clarach’ ar gyfer Pump i’r Penwythnos rai blynyddoedd yn ôl. Ers hynny maen nhw wedi mynd o nerth i nerth a ‘Dilyn Iesu Grist’ ydy enw’r sengl newydd a ryddhawyd ar ddydd Gwener diwethaf 23 Awst.

Tamaid i aros pryd ydy’r sengl nes rhyddhau eu halbwm cyntaf, Sbwriel Gwyn, ddiwedd mis Medi.

Y newyddion da pellach ydy bod fideo ardderchog i gyd-fynd â’r sengl, sydd wedi’i gynhyrchu gan Nico Dafydd. Ac mae modd i chi wylio’r fideo yma, ar wefan Y Selar heddiw, cyn unrhyw le arall.