Gig: Gai Toms, Rhosier Morgan – Seler, Aberteifi – 02/02/19
Roedd hi’n brysur iawn wythnos diwethaf, a gyda Dydd Miwsig Cymru a Gwobrau’r Selar dros y bythefnos nesaf mae’n mynd i fod yn gyfnod gwallgof o gigs. Ond, mae rhyw osteg cyn y storm penwythnos yma, gyda dim ond ambell gig ar y gweill.
Heno (nos Wener) yn Neuadd y Farchnad, Caernarfon mae cyfle i weld y band cyfyrs poblogaidd o’r Gogledd, #Band6.
Ac yna nos Sadwrn yn Aberteifi mae noson fach ddigon sidet ond braf iawn yr olwg gyda’r ardderchog Gai Toms yn ymweld a’r Seler (y lleoliad, nid y cylchgrawn – nodwch y ddwy ‘e’!) Bydd Rhosier Morgan, y gweinidog a cherddor dawnus, a’r bardd Menna Elfyn hefyd yn cymryd rhan. Noson fach dda.
Cân: ‘O Dan Y Haenau’ – Adwaith
Un band na ellir eu cyhuddo o fod yn segur ydy Adwaith. Mae’n teimlo fel petai rhywbeth newydd cyffrous ar y gweill gan y grŵp o Gaerfyrddin bob wythnos, a’r datblygiad diweddaraf ydy eu bod nhw’n paratoi i ryddhau sengl newydd ar 8 Chwefror.
‘O Dan y Haenau’ ydy enw’r sengl newydd, ac yn ôl yr arfer maen nhw’n rhyddhau ar label Recordiau Libertino.
Mae’r trac yn un o uchafbwyntiau albwm cyntaf Adwaith, Melyn, a ryddhawyd ym mis Hydref 2018., ac yn ôl y label, mae’r gân yn ‘arddangos Adwaith yn darganfod tiriogaeth sonig newydd. Mae sŵn nodweddiadol gitâr Hollie Singer yn cael ei gyfnewid gan haenau o synth a llinell fas sy’n hollol addas i’r dance floor. Mae ‘O Dan y Haenau’ yn bop synth rhyfeddol sydd ag agwedd riot grrrrrl drwyddi draw’, meddai Libertino.
Gwerth cofio fod Adwaith hefyd yn cefnogi Joy Formidable ar eu taith o amgylch y DU ym mis Chwefror, gydag un gig yng Nghymru yn Sin City, Abertae ar 20 Chwefror.
Record: Afonydd a Drysau – Dan Amor
Boi da ‘di Dan Amor.
Nid yn unig ei fod o’n dod o Ddyffryn Conwy – ffaith sy’n ei godi i’r entrychion yn syth – mae o hefyd yn reolwr ar label Recordiau Cae Gwyn sydd wedi bod yn gyfrifol am ryddhau llwyth o gerddoriaeth wych dros y blynyddoedd diwethaf.
Ac os nad ydy hynny’n ddigon, mae o’n gerddor arbennig o ddawnus hefyd, ac yn foi dymunol iawn!
Teg dweud fod gwaith y label, a hyrwyddo cerddoriaeth pobl eraill wedi bod yn cymryd blaenoriaeth dros ei gerddoriaeth ei hun ers rhai blynyddoedd, ond gwych ydy gweld Dan o’r diwedd yn rhyddhau cynnyrch newydd ar ffurf yr albwm Afonydd a Drysau oedd allan ddydd Llun.
Roedd Dan wedi datgelu cwpl o draciau cyn y Nadolig gyda ‘Addo Glawr’ a ‘Melin’ yn cael eu cyhoeddi ar ei safle Soundcloud, ynghyd â chael eu chwarae ar y radio.
Yr albwm newydd ydy pumed albwm y cerddor o Benmachno, ond cynnyrch cyntaf Dan ers y sengl ‘Penwythnos Heulog’ yn 2015, a’i albwm cyntaf ers Rainhill Trials yn 2014. Mae’r casgliad yn cael ei ddisgrifio fel ‘cyfuniad cyfareddol o bop, canu gwlad-gwerin a seicadelia’, ac yn sicr mae tipyn o amrywiaeth yma.
Mae’r rhan fwyaf o’r recordio wedi digwydd gyda Huw Owen (Mr Huw) yn Sling, ar wahân i’r trac ‘Chwefror y Pumed’ a recordiwyd gan Dan eu hun yn Llangoed, a ‘Pyllau Dyfnaf’ a recordiwyd gan Llŷr Pari yn Stiwdio Glan Llyn, Melin y Coed.
Mae modd prynu Afonydd a Drysau yn ddigidol, neu ar CD ar safle Bandcamp Dan Amor.
Dyma diwn fach neis iawn ‘Addo Glaw’:
Artist: Estrons
Mae’r grŵp gwych, Estrons, yn mynd o nerth i nerth ar hyn o bryd ac newydd gyhoeddi manylion ei taith wanwyn eleni.
Dyma chi fand sydd wedi bod o ddiddordeb mawr i’r Selar ers sawl blwyddyn – gymaint felly nes i ni eu gwahodd i berfformio fel rhan o’n gig mawr ‘Selar 10’ yn Aberystwyth yn Nhachwedd 2014 i ddathlu pen-blwydd Y Selar yn 10 oed! Fe wnaethon nhw hefyd berfformio i ni yng Nghaerdydd fel rhan o’r daith fer i ddathlu pen-blwydd y cylchgrawn.
Yn wir, y noson honno roedden nhw hefyd yn lansio eu sengl gyntaf, oedd hefyd yn sengl gyntaf Clwb Senglau’r Selar – ‘C-C-CARIAD!’. Roedd y Clwb Senglau yn gyfrifol am ryddhau senglau cyntaf nifer o artistiaid ifanc dros y flwyddyn i ddilyn gan gynnwys Y Trŵbz, Ysgol Sul, Cpt Smith, Patrobas ac Argrph.
Mae aelodaeth Estrons wedi amrywio rhywfaint dros y blynyddoedd, ond mae Tali Källström a Rhodri Daniel wedi bod yn aelodau craidd trwy gydol. Steffan Pringle ac Adam Thomas ydy’r aelodau eraill ar hyn o bryd.
Mae’r daith wanwyn yn ychwanegol i’r gyfres o gigs mae’r grŵp yn ei wneud fel rhan o Wythnos Lleoliadau Annibynnol wythnos yma (28 Ionawr – 2 Chwefror). Byddan nhw hefyd yn perfformio yn y Scala, Llundain ar 7 Chwefror gyda Lucia a Mur-man.
Bydd y brif daith Wanwyn yn dechrau ar 28 Mawrth ac yn ymweld ag unarddeg o leoliadau, ond dim ond dau o’r rhain yng Nghymru – sef Hobo’s ym Mhenybont ar 6 Ebrill ac Arad Goch yn Aberystwyth ar 12 Ebrill.
Mae’r grŵp hefyd wedi rhyddhau fideo swyddogol ar gyfer eu trac ‘Strangers’ wythnos diwethaf, a hwn i’w weld ar eu sianel YouTube nawr.
Dyma’r Sengl Selar wych honno, ‘C-C-CARIAD!’:
Un peth arall…: Enillydd gwobr ‘Gwaith Celf Gorau’
Amhosib i chi osgoi Gwobrau’r Selar ar hyn o bryd wrth i ni gyhoeddi rhestrau byr yn gyson, ynghyd â newyddion arall yn ymwneud â’r penwythnos yn Aberystwyth ar 15-16 Chwefror.
Mae tipyn o newid i’r drefn eleni wrth i ni ehangu’r prif ddigwyddiad i ddwy noson – mae tocynnau nos Sadwrn eisoes wedi gwerthu i gyd, a thocynnau nos Wener hefyd yn hedfan.
Newid sylweddol arall ydy ein bod wedi penderfynu cyhoeddi rhai o’r enillwyr ymlaen llaw y tro yma, gan roi bach mwy o sylw i’r enillwyr dan sylw a’r gwaith pwysig maen nhw’n gwneud.
Nos Fercher fe gyhoeddwyd y cyntaf o’r rhain, sef ‘Gwaith Celf Gorau’, gwobr sy’n cael ei noddi gan wasg Y Lolfa.
Clawr albwm cyntaf Gwilym, Sugno Gola, ddaeth i frig y bleidlais gyhoeddus eleni a gitarydd y grŵp, Rhys Grail, sy’n gyfrifol am y gwaith celf.
Fe dorrodd ein cyfeillion yn Ochr 1 y newyddion iddo wrth wneud eitem arbennig ynglŷn â’r clawr, a theg dweud bod y newyddion yn sypreis fach neis i Rhys…
Gwaith Celf Gorau Gwobrau’r Selar
🏆 Pwy oedd â GWAITH CELF GORAU 2018? 🖼 Ni’n falch o gael cyhoeddi mai’r enillydd yn Gwobrau'r Selar eleni ydi…
Posted by Hansh on Wednesday, 30 January 2019