Dydd Gŵyl Dewi hapus i bob un o ddarllenwyr Y Selar.
Gobeithio y byddwch chi’n dathlu diwrnod ein nawddsant gyda cherddoriaeth Gymraeg gyfoes mewn rhyw ffordd. Dyma rai argymhellion i chi…
Gig: Llwybr Llaethog, Mr Phormula – Amgueddfa Ceredigion, Aberystwyth – 02/03/19
Mae Wrecsam yn le da i fod er mwyn dathlu Dydd Gŵyl Dewi dros y penwythnos gyda chwpl o gigs ar y gweill. Neithiwr yn Nhŷ Pawb roedd Noson Gomedi gyda’r ardderchog Noel James a Lorna Corner, ynglŷn â Hywel Pitts â’i frîd arbennig o gerddoriaeth ddychanol. Yna heno yn Saith Seren mae Y Gogs yn dathlu Gŵyl Dewi gyda phowlen o gawl yn y fargen.
Hefyd yn y Gogledd Ddwyrain heno mae cyfle i ddathlu Gŵyl Dewi gyda Candelas a HMS Morris yn Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug. Yna bydd Candelas yn teithio i Abertawe nos fory ar gyfer gig y Steddfod Rhyng-gol, gyda R. Seiliog hefyd yn chwarae.
Gŵr arall sy’n perfformio ddwywaith penwythnos yma ydy Meic Stevens – gyntaf heno yn Nhafarn y Fic, Llithfaen, ac yna nos fory gyda chefnogaeth gan Crawia yn Neuadd Ogwen, Bethesda.
Mae Llanidloes yn llwyfannu ambell gig bach da, ac yn sicr mae ‘na un da yng Nghlwb Pêl-droed y dref heno os ydach chi’n hoffi ‘chydig bach o roc trwm – Chroma fydd yn chwalu muriau’r clwb i’w seiliau, gyda Henebion yn cefnogi.
Ac i orffen, cwpl o hoelion wyth y sin yn gigio nos Sadwrn. Mae Bryn Fôn a’r Band yng Nghlwb Golff Pwllheli i ddechrau, ac wedyn rhywbeth hollol wahanol yn Amgueddfa Aberystwyth gyda Llwybr Llaethog a chefnogaeth gan Mr Phormula.
Cân: ‘Anfarwoli’ – Pys Melyn
Rydan ni wedi bod yn ysu am fwy o gerddoriaeth gan Pys Melyn, felly diwrnod hapus oedd hi yn Selar HQ wythnos diwethaf wrth i’w sengl ddiweddaraf gael ei rhyddhau.
‘Anfarwoli’ ydy enw trac newydd y prosiect a ddechreuodd fel artist unigol, ond sydd bellach wedi sefydlu fel pumawd, ac mae’n adlewyrchu’r sŵn seicadelig rydan ni wedi dod i’w ddisgwyl gan Pys Melyn.
Mae’r sengl wedi’i rhyddhau ar label annibynnol newydd y grŵp, sef Recordiau Ski-whiff, a’r newyddion da pellach ydy fod addewid o fwy o gynnyrch ar y ffordd gan Pys Melyn yn ystod 2019, a chyhoeddiad am ddyddiadau gigs yn fuan.
Yn y cyfamser, mwynhewch ‘Anfarwoli’:
Record: Dull Di-drais – Llwybr Llaethog
Gyda Llwybr Llaethog yn perfformio dros y penwythnos mae’n gyfle da i fwrw golwg nôl ar record gyntaf un o’r grwpiau pwysicaf yn hanes cerddoriaeth Gymraeg gyfoes.
Pan ddaeth John Griffiths a Kevs Ford ynghyd tua 1984, fe wnaethon nhw ddechrau arloesi yn y Gymraeg trwy arbrofi gyda cherddoriaeth Dub a Hip-hop.
Ym 1986 daeth y cyfle iddyn nhw ryddhau eu EP cyntaf ar label Recordiau Anrhefn Rhys Mwyn, mewn cydweithrediad â Chymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Dull Di-drais oedd enw’r EP, ac roedd yn cynnwys pedwar o draciau sef ‘Dull di-drais’, ‘Dyddiau Braf (Rap Cymraeg)’, ‘Rhywbeth Bach yn Poeni Pawb (Prydain Thatcher)’ a ‘Malu Cachu’.
Mae ‘Dull Di-drais’ yn arbennig o gofiadwy gan ei fod yn cynnwys sampl o lais Ffred Ffransis, ymgyrchydd amlycaf Cymdeithas yr Iaith ar y pryd. Roedd Ffred wedi ei garcharu fel rhan o’r ymgyrch addysg Gymraeg ar y pryd ac roedd lansiad arbennig iawn i’r record wrth iddi gael ei chwarae dros uchelseinydd tu allan i’r carchar yn Preston, lle’r oedd Ffred yn garcharor.
Dyma’r trac ‘Dull Di-drais’:
Artist: Estrons
Siom fawr wythnos diwethaf oedd y cyhoeddiad gan Estrons fod y grŵp wedi chwalu.
Er eu bod nhw wedi canolbwyntio ar gyhoeddi a pherfformio cerddoriaeth yn y Saesneg dros y blynyddoedd diwethaf, mae Estrons bob amser wedi bod yn agos at galon Y Selar.
Mae hyn yn rhannol oherwydd mai eu sengl gyntaf nhw, ‘C-C-CARIAD!’, oedd sengl gyntaf Clwb Senglau’r Selar nôl yn 2014 hefyd. Roedden nhw hefyd ar lein-yp dau o dri gig ‘Selar 10’ i ddathlu pen-blwydd Y Selar yn 10 oed ym mis Tachwedd 2014.
Ac yn ychwanegol i hynny wrth gwrs, maen nhw jyst wedi bod yn fand gwirioneddol wych ers sawl blwyddyn bellach – yn sicr un o’r goreuon i ddod o Gymru dros y 5 mlynedd ddiwethaf.
Yr hen gneuen yna o ‘wahaniaethau personol ac artistig’ sydd wedi cael y bai am y chwalfa, ond wnawn ni ddim cnoi cil yn ormodol ynglŷn â hynny, ond yn hytrach jyst cymryd rhyw bedair munud i fwynhau gwychder Estrons a ‘C-C-CARIAD!’:
Un peth arall…: Podlediad #10 Y Sôn
Dydan ni’n gwneud dim cyfrinach o’r ffaith ein bod ni’n ffans mawr o’r gwaith mae criw Sôn am Sîn yn ei wneud, ac yn enwedig trwy gyfrwng eu podlediadau achlysurol.
Fis Ionawr, cyhoeddwyd podlediad cyntaf y flwyddyn gan Chris a Gethin, gydag addewid o ryddhau un bob mis yn ystod 2019. Hyd yma, maen nhw’n cadw at eu haddewid ac wedi cyhoeddi eu hail bodlediad eleni yn ystod wythnos olaf mis Chwefror.
Unwaith eto mae’r hogiau’n cynnal trafodaeth ddifyr ynglŷn â nifer o bethau cerddorol sydd wedi digwydd dros y mis diwethaf, gan gynnwys dadansoddiad ddeallus o gig diweddar Mr yng Nghaernarfon.
Maen nhw hefyd yn sgwrsio am Wobrau’r Selar, a pha mor uffernol o dda ydy Los Blancos.
Yn ôl yr arfer, gwrando angenrheidiol…