Gig: Los Blancos, Papur Wal, Kim Hon – Tŷ Pawb, Wrecsam 2/11/19
Mae Aberteifi’n llwyfannu gŵyl fach ddifyr iawn dros y penwythnos – Gŵyl Lleisiau Eraill. Gŵyl Wyddelig ydy Lleisiau Eraill, neu ‘Other Voices’, yn bon ond ei bod wedi symud i Aberteifi am y penwythnos. Mae Gruff Rhys a Gwenno ymysg yr artistiaid sy’n perfformio – Eglwys Santes Fair ydy prif leoliad yr ŵyl, ac mae’n debyg bod miliynau’n gwylio’r digwyddiad ar-lein fel arfer.
Bydd taith ORIG! sef albwm diweddaraf Gai Toms a’i fand, Y Banditos, yn dechrau penwythnos yma gyda gig yn y Galeri, Caernarfon heno.
Mae’n benwythnos prysur o gigs yn Wrecsam wythnos yma, gyda Worldcub yn perfformio heno yn Undegun, a hwythau’n ffresh o’u taith ddiweddar i Ganada – gig Calan Gaeaf arbennig. Yn Wrecsam hefyd nos Sadwrn mae lein-yp mwyaf cyffrous y penwythnos yn ein tyb ni, gyda Los Blancos, Papur Wal a Kim Hon yn chwarae yn Tŷ Pawb.
Mae’r tri band penodol yna’n chwarae nos Wener hefyd, a hynny yng Nghaernarfon fel rhan o Noson 4 a 6.
Ac yn olaf wythnos yma, gig ‘Merched yr Awr’ yng Nghastell Nedd – dim clem pwy sy’n chwarae achos dydyn nhw heb gyhoeddi hynny, ond mae addewid o ‘gerddorion benywaidd gorau’r ardal’. Bach o ddirgelwch – da!
Cân: ‘Gwalia’ – Gwilym
Wrth i Gwpan Rygbi’r Byd ddirwyn i ben, mae Gwilym wedi rhyddhau’r gân sydd wedi bod yn cael ei defnyddio fel anthem Radio Cymru i’r twrnament fel sengl.
Rhyddhawyd ‘Gwalia’ ddydd Gwener diwethaf, 25 Hydref, ar label Recordiau Côsh.
Mae ‘Gwalia’ wedi ei hysbrydoli gan gytgan gofiadwy’r glasur Gymraeg, ‘O Gymru’, a gyfansoddwyd yn wreiddiol gan Rhys Jones. Mae’r gân yn gyfansoddiad newydd gan y band cyfoes sy’n cynnwys penillion modern ac alaw fachog nodweddiadol o’r band ifanc sydd yn un o grwpiau mwyaf poblogaidd Cymru.
Dychwelodd Gwilym at y cynhyrchydd profiadol Rich James Roberts, a weithiodd gyda hwy ar eu halbwm cyntaf llynedd, er mwyn recordio’r gân dros ddiwrnod yn y stiwdio.
Gitarydd y grŵp ifanc, Rhys Grail, sy’n gyfrifol am waith celf y sengl – mae Rhys ar hyn o bryd yn ei flwyddyn olaf o astudio ffotograffiaeth yng Ngholeg Dinas Birmingham.
Roedd y grŵp yn teimlo fod yr amser yn briodol i ryddhau’r sengl ar ôl i Gymru guro Ffrainc wythnos diwethaf, gan sicrhau lle i’w hunain yn rownd gynderfynol Cwpan Rygbi’r Byd yn erbyn De Affrica ddydd Sul diwethaf. Yn anffodus, ddaeth y sengl ddim a lwc i’r tîm rygbi cenedlaethol wrth i ni golli o dri phwynt.
Y newyddion da pellach ydy fod Gwilym ar hyn o bryd yn y broses o ysgrifennu a recordio’r caneuon ar gyfer eu hail albwm.
Record: Mabli
Mae’r gantores ddawnus o Gaerdydd, Mabli, wedi rhyddhau ei halbwm cyntaf ddydd Gwener diwethaf, 25 Hydref.
Mae Mabli, sydd hefyd wedi bod yn perfformio dan yr enw Mabli Tudur, yn wyneb a llais cyfarwydd ar lwyfannau Cymru ers cwpl o flynyddoedd bellach.
Daeth i’r amlwg yn 2017 fel un o artistiaid rownd derfynol Brwydr y Bandiau Maes B / Radio Cymru yn Eisteddfod Môn – cystadleuaeth oedd hefyd yn cynnwys Eädyth, Alffa a Gwilym sydd wedi mynd ymlaen i wneud eu marc.
Enw’r albwm newydd ydy ‘Fi yw Fi’, ac mae allan ar label JigCal ar bob llwyfan digidol.
Mae’r albwm yn cael ei ddisgrifio fel un gonest a hwyliog sy’n crisialu dyddiau glasoed i’r dim. O ddiwrnodau hafaidd hir a hapus ym mhentref glan môr Llangrannog, cwestiynau am fodolaeth ac ystrydebau y byd, i gyfnod tywyllach o dderbyn a gadael fynd.
Mae’r albwm, fel mae’r teitl yn awgrymu, yn adrodd taith adeiladol Mabli drwy ei bywyd yn ffeindio’i llais ac yn mentro i’r byd. Yn defnyddio curiadau a sŵn gitâr roc trwm a llais swynol Mabli yn gyferbyniad i hyn i gyd – mae’r gân ‘Mae Gen i Lais’ yn taflu egni hyderus a phendant mewn i wynebau’r rheiny sy’n ei hamau.
Byddwch yn cofio bod cyfle cyntaf i glywed un o draciau’r albwm ar wefan Y Selar gwpl o wythnosau nôl – dyma ‘Lol’:
Artist: Sywel Nyw
Bydd Sywel Nyw yn rhyddhau ei sengl newydd, ‘Sŵn y Glaw’, ar ddydd Gwener 1 Tachwedd.
Sywel Nyw ydy prosiect unigol newydd Lewys Wyn, sy’n fwy cyfarwydd fel gitarydd a phrif ganwr Yr Eira. Mae wedi bod yn gyfrifol am lu o anthemau poblogaidd gydag Yr Eira, a bydd yn gobeithio creu argraff debyg gyda’i brosiect unigol.
Rhyddhawyd sengl gyntaf Sywel Nyw, ‘Jumping Fences’, ym mis Mehefin ond ‘Sŵn y Glaw’ ydy’r trac Cymraeg cyntaf i’w ryddhau ganddo.
Mae ‘Sŵn y Glaw’ yn gân freuddwydiol am dor-calon, grym cerddoriaeth a llonyddwch meddwl. Mae geiriau myfyriol Lewys wedi’u trochi mewn offeryniaeth agored a chynnes.
Recordiwyd y sengl gyda’r cynhyrchydd Frank Naughton yng Nghaerdydd, ac fe’i cymysgwyd gan Tom Loffman.
Mae’n debyg y bydd cyfres o senglau eraill yn dilyn gan Sywel Nyw dros y misoedd nesaf wrth iddo geisio sefydlu eu hun fel un o brosiectau cerddorol mwyaf cyffrous Cymru.
Dyma ‘Sŵn y Glaw’:
Un peth arall…: Pennod gyntaf ‘Lŵp: Curadur’
Mae rhaglen gerddoriaeth gyfoes newydd S4C, Lŵp, wedi darlledu pennod gyntaf eu cyfres ‘Curadur’.
Llyr Jones o’r grŵp Pasta Hull ydy Curadur gyntaf y gyfres, ac ef sy’n gyfrifol am gyflwyno’r gerddoriaeth ar gyfer y rhaglen. Fel y gwyddoch erbyn hyn mae’n siŵr, mae unrhyw beth sy’n gysylltiedig â Pasta Hull yn siŵr o fod yn ddiddorol!
Mae modd gwylio’r bennod ar S4C Clic ar hyn o bryd.
Mae’r gyfres hefyd wedi llwytho fideo o ‘Hosepipe Ban’ gan Pys Melyn ar-lein. Mwynhewch…