Pump i’r Penwythnos – 10 Mai 2019

Gig: Candelas, Bitw, Kuider – Clwb Canol Dre, Caernarfon 10/05/19

Sawl gig bach da i edrych mlaen atyn nhw penwythnos yma eto, a digon o amrywiaeth hefyd.

Mae’r ddau walch, Hywel Pitts a Welsh Whisperer, yn ymuno ar lwyfan Gwesty’r Lion, Tudweiliog heno – siŵr o fod yn noson efo llwyth o chwerthin diolch i’w brand unigryw o gerddoriaeth dychanol. Bydd cyfle arall i weld y Welsh Whisperer nos Sadwrn hefyd wrth iddo deithio i’r Gorllewin i chwarae yng Ngwesty’r Llanina yn Llanarth ger Aberaeron.

Bydd Gwilym Bowen Rhys yn perfformio yn Aberystwyth heno ac yn chwarae yn Y Drwm yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Clamp o gig da yng Nghlwb Canol Dre Caernarfon heno hefyd wrth i griw Pedwar a Chwech groesawu Candelas, Bitw a Kuider, sef un i gystadleuwyr Brwydr y Bandiau’r Steddfod eleni.

Heno hefyd mae gig olaf taith theatrau Lleuwen, wrth iddi ymweld â Pontio ym Mangor.

Ac un fach ychydig yn wahanol i orffen, sef gŵyl Mee Mai yn Nhŷ Newydd Sarn. Mae Bwncath yn chwarae yno am 21:00 ac mae ‘na gystadleuaeth gneifio hefyd – cyfuniad perffaith o adloniant!

Cân: ‘Dywarchen’ – Omaloma

Newyddion bendigedig a gyrhaeddodd glustiau Y Selar dros y dyddiau diwethaf ydy fod y grŵp gwych o Ddyffryn Conwy, Omaloma, yn bwriadu rhyddhau eu sengl ddiweddaraf ar ddiwedd mis Mai.

‘Dywarchen’ ydy enw sengl newydd hafaidd y grŵp, ac fe’i chrëwyd yn ystod ymweliad â Llyn Dywarchen.

31 Mai ydy dyddiad rhyddhau swyddogol y sengl newydd, a label Recordiau Cae Gwyn fydd yn ei rhyddhau. Bydd ar gael i’w ffrydio a lawr lwytho ar y llwyfannau digidol arferol.

Ond, nid dim ond un trac fydd yn cael ei ryddhau ar y sengl newydd gan fod ‘ochr B’ hefyd. ‘Europa B’ ydy enw’r ail drac, ac yng ngeiriau’r label y gân ydy’r “diwn thema i gyfres sci-fi nad oedd erioed yn bodoli.”

Y newyddion da pellach ydy fod modd i chi wrando ar y trac newydd nawr ar Soundcloud Recordiau Cae Gwyn, neu jyst glicio’r botwm ‘chwarae’ isod!

Record: Arenig – Gwilym Bowen Rhys

Cyfnod bach prysur o ran gigs i Gwilym Bowen Rhys (nid ei fod o byth yn segur…) gyda chwpl o gigs yn y Galeri, Caernarfon ac Acapela ym Mhentyrch wythnos diwethaf, ac yna yn y Llyfrgell Genedlaethol heno.

Rhan o’r rheswm am y prysurdeb diweddar ydy gan fod Gwil ar fin rhyddhau ei drydydd albwm unigol. Arenig ydy enw’r albwm newydd, ac roedd gigs wythnos diwethaf yn rhyw fath o gigs lansio gan fod modd gwrando a lawr lwytho’r albwm llawn ar safle Bandcamp Gwilym nawr.

Er hynny, 1 Mehefin ydy dyddiad rhyddhau swyddogol yr albwm newydd – bydd yn cael ei ryddhau ar CD ac ar y prif lwyfannau digidol bryd hynny, a Recordiau Erwydd sy’n gyfrifol am gyhoeddi’r casgliad. Mae hefyd modd rhag archebu’r casgliad ar y safle Bandcamp ar hyn o bryd.

Rydan ni wedi bod yn gwrando ar yr albwm yma yn Selar towyrs, ac mae’r casgliad yn nodweddiadol o waith diweddar Gwilym – caneuon gwerin cyfoes o’r safon uchaf. Ein hoff ganeuon ar hyn o bryd ydy ‘Er Fy Ngwaethaf’ a thrac olaf y casgliad ‘O Deuwch Deulu Mwynion’.

Un arall o ffefrynnau’r albwm ydy ‘Clychau’r Gog’, a ryddhawyd fel sengl ym mis Medi llynedd. Bydd rhai yn cofio mai hon oedd y gân enillodd wobr Alun ‘Sbardun’ Huws yn y Steddfod Genedlaethol llynedd. Di safon y sain ddim yn wych ar y clip fideo isod o’r gân, ond mae’n well na dim!

 

Artist: Serol Serol

Mwy o newyddion da o Ddyffryn Conwy! Na, tydi’r Steddfod ddim wedi cadarnhau lle mae’r blwmin maes yn mynd i fod, ond yn hytrach mae’r grŵp o’r Dyffryn, Serol Serol, yn rhyddhau sengl newydd heddiw.

‘Pareidolia’ ydy enw’r trac newydd, ac mae’n cael ei rhyddhau gan label Recordiau I KA CHING.

Ymddangosodd pop gofodol seicadelig Serol Serol am y tro cyntaf rhyw ddwy flynedd yn ôl wrth i I KA CHING ryddhau’r sengl ‘Cadwyni’ ym Mehefin 2017. Er bod peth dirgelwch ynglŷn â’r prosiect yn y lle cyntaf, daeth i’r amlwg mai Mali Siôn a Leusa Rhys oedd yn gyfrifol am leisiau hudolus Serol Serol, gyda chymorth y cerddorion amlwg Llŷr Pari (Jen Jeniro / Palenco / Y Niwl / Omaloma) a George Amor (Omaloma / Sen Segur).

‘Pareidolia’ ydy cynnyrch cyntaf y grŵp ers rhyddhau’r albwm, Serol Serol, ychydig dros flwyddyn yn ôl ym mis Mawrth 2018. Er eu bod nhw wedi bod yn gymharol dawel o ran gigio ers hynny, roedden nhw yn y newyddion yn gynharach eleni wrth iddynt dderbyn gwobr flynyddol ‘Gwobr Gerddorol Llwybr Llaethog’ am eu cyfraniad arbennig i gerddoriaeth Gymraeg.

Yn ôl y grŵp mae ‘Pareidolia’ yn trafod y tueddiad o weld wynebau mewn gwrthrychau neu elfennau naturiol gan ofyn a ydyn nhw yno neu beidio. Yn ôl eu harfer mae’r grŵp wedi llwyddo i greu sŵn arallfydol, hypnotig a chynnes sy’n mynd â’r gwrandäwr i rywle arall.

Ac mae mwy o newyddion da i ffans y grŵp – mae’n debyg mai ‘Pareidolia’ ydy’r gyntaf o dair sengl fydd yn cael eu rhyddhau gan Serol Serol dros yr haf eleni.

Dyma Serol Serol yn perfformio ‘Aelwyd’ ar lwyfan Gwobrau’r Selar ym mis Chwefror 2018:

Un peth arall…: Podlediau diweddaraf Y Sôn

Mae criw blog Sôn am Sîn wedi cyhoeddi eu podlediad diweddaraf, Y Sôn #12.

Dydan ni’n gwneud dim cyfrinach o’n hoffter o bodlediadau ardderchog Chris Roberts a Gethin Griffiths, ac eu sgyrsiau difyr am gerddoriaeth Gymraeg gyfoes.

Mae’r podlediad wedi bod yn cael ei gyhoeddi’n achlysurol ers peth amser, ond wrth recordio’r cyntaf o’r flwyddyn ym mis Ionawr eleni fe addawodd Chris a Gethin y byddai un yn ymddangos bob mis yn 2019. Gyda’r diweddaraf yn cael ei gyhoeddi reit ar ddiwedd mis Ebrill, mae’r ddeuawd wedi llwyddo i gadw’r addewid hyd yma, o drwch blewin!

Ym mhennod ddiweddaraf Y Sôn mae Chris a Geth yn trafod gigs a chynnyrch newydd, ynghyd â cherddoriaeth prosiect newydd Ynys. Maen nhw hefyd yn cael trafodaeth ddifyr iawn ynglŷn ag a ydy’r Eisteddfod Genedlaethol yn ddigon hygyrch a fforddiadwy.

Mae modd gwrando ar y podlediad ar wefan Sôn am Sîn, Soundcloud ac ar apps podledu da. Neu byddwch yn ddiog a chlicio’r botwm isod ynde.