Pump i’r Penwythnos – 11 Hydref 2019

Gig: Mellt, Papur Wal, I Fight Lions, SYBS – Parti Ponty, Jacs Aberdar – 11/10/19

Lot yn digwydd penwythnos yma, gan gynnwys nifer o deithiau sydd ar y gweill.

Dechreuodd Blodau Papur eu taith wythnos diwethaf, ac mae dau ddyddiad arall penwythnos yma sef yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd heno ac yna ymlaen i Theatr Mwldan, Aberteifi nos fory.

Mae Carwyn Ellis a Rio 18 ar daith fer hefyd – roedden nhw yng Nghaerdydd neithiwr, maen nhw ym Manceinion heno, ac fe fyddan nhw yng nghanolfan Pontio, Bangor nos fory.

Dydyn nhw ddim ar daith swyddogol, ond mae gan Mellt gwpl o gigs dros y penwythnos gan gynnwys ein prif argymhelliad yr wythnos yma. Mae Parti Ponty wedi gwasgaru eu digwyddiadau eleni, ac mae’r gig diweddaraf yn Jacs, Aberdar heno gyda lein-yp ardderchog sy’n cynnwys Mellt, Papur Wal, I Fight Lions a SYBS.

Bydd Mellt hefyd yn chwarae yn Yr Angel, Aberystwyth nos Sadwrn, gyda Chroma yn cefnogi.

Cyfres arall o gigs sy’n cychwyn heno yn Neuadd Ogwen ydy ‘Bardd’ sef prosiect Mr Phormula a’r bardd Martin Daws. Mae’r daith yn parhau yn Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug nos fory.

Heno hefyd mae’r olaf o daith fer ddiweddaraf PYST i ddinasoedd tu hwnt i Gymru fach – mae Bitw, Ynys a SYBS yn cloi’r gyfres yn Dalston, Llundain.

A, wel, fysa hi ddim yn benwythnos heb fod y Welsh Whisperer ar y lôn yn na fysa? Mae o’n perfformio yn Neuadd Maenclochog heno!

 

Cân: ‘Nofio efo’r Fishis’ – Kim Hon

Newyddion da – mae Kim Hon yn ôl gyda sengl newydd sbon sydd allan yn swyddogol ddydd Gwener nesaf, 18 Hydref.

‘Nofio efo’r Fishis’ ydy enw’r ail sengl gan y grŵp newydd sy’n cael eu harwain gan brif ganwr Y Reu, Iwan Fôn.

Mae’n ddilyniant i’r ardderchog ‘Twti Ffrwti’ a ryddhawyd ddiwedd mis Mai sydd wedi bod yn ffefryn mawr ar y tonfeddi ers hynny.

Mae ‘Nofio Efo’r Fishis’ yn cael ei disgrifio fel ‘sengl sy’n gwrthod gadael fynd, yn flanced o sêr yn cael ei dynnu dros ein pennau gyda nostalgia, rhaglenni teledu y 90au, gwallgofrwydd y byd a breuddwydion afreal’.

“Diwrnod sych o fis Medi, asio ar ginio fistyll Bryn Ddreinniog tra’n cnoi liberty caps” meddai Iwan Fôn wrth esbonio’r gân.

“Yn ogystal â’r tacla direidus yma, mae sawl sy’n gyfrifol am gyna’r fflam sy’n goleuo seinwedd y gân. Agweddau nostalgaidd megis FIFA 03, teledu plant y 90au yn ogystal a chymdogion llwyd Ynys Môn.”

Gneud sens? Ydy o ots? Achos ma hi’n blwmin tiiiiwn arall gan Kim Hon!

 

 

Record: O Mi Awn Ni Am Dro – Fleur De Lys

Mae albwm newydd Fleur De Lys allan heddiw ar label Recordiau Côsh.

O Mi Awn Am Dro ydy enw record hir newydd y grŵp o Fôn sydd wedi datblygu i fod yn un o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru dros y tair blynedd diwethaf.

Maen nhw eisoes wedi rhoi blas o’r hyn sydd i ddod ar ffurf y tair sengl ‘Sbectol’, ‘Ti’n Gwbod Hynny’ a ‘Dawnsia’ sydd wedi’i rhyddhau ar Côsh ers i’r grŵp ymuno â’r label.  Roedd cyfle cyntaf i weld y fideo ar gyfer y diweddaraf, ‘Dawnsia’, yma ar wefan Y Selar ddechrau mis Awst.

Mae’r broses o recordio’r albwm wedi bod yn un cymharol hir, gyda’r band wrthi ers dros ddwy flynedd yn ôl y sôn. Stiwdio Ferlas dan oruchwyliaeth y cynhyrchydd poblogaidd Rich James Roberts oedd canolbwynt y gwaith, fel gyda chymaint o gynnyrch Recordiau Côsh.

Mae’r albwm allan heddiw yn ddigidol, ond bydd hefyd yn cael ei ryddhau ar CD gyda chyfle cyntaf i brynu copi yn gig lansio’r record yn Nhafarn y Rhos, Rhostrehwfa ar ddydd Gwener 25 Hydref.

Artist: PRIØN

Enw newydd ond wynebau cyfarwydd sydd i’r ddeuawd ‘canu gwlad amgen’ newydd PRIØN, sy’n rhyddhau eu sengl gyntaf heddiw.

‘Bur Hoff Bau’ ydy enw’r sengl newydd gan y ddeuawd sy’n cynnwys un wyneb a llais cyfarwydd iawn i’r sin gerddoriaeth gyfoes yng Nghymru, ac un arall sy’n fwy cyfarwydd ar lwyfannau mwy traddodiadol.

PRIØN ydy prosiect newydd Arwel Lloyd, neu Gildas i bawb sy’n dilyn y sin gerddoriaeth Gymraeg. Daeth Arwel i’r amlwg yn gyntaf fel aelod craidd o Al Lewis Band, cyn mynd ati i ryddhau ei gerddoriaeth ei hun dan yr enw Gildas.

Celyn Llwyd Cartwright ydy hanner arall y bartneriaeth newydd gyffrous. Bydd Celyn yn llai cyfarwydd i ddilynwyr cerddoriaeth gyfoes, ond yn adnabyddus i’r rhai sy’n dilyn llwyfannau eisteddfodol – mae wedi perfformio ar lwyfannau ledled Cymru a thu hwnt gan gynnwys cyrraedd rownd derfynol Ysgoloriaeth Bryn Terfel yn 2018. Roedd hefyd yn un o’r prif gymeriadau, ‘Wini’, yn y sioe gerdd Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst 2019, Te yn y Grug.

Gan ddisgrifio eu genre fel ’alt-country’, mae’r ddau wedi  uno i gyflwyno caneuon gwreiddiol, melodig a theimladwy i’r genedl, gyda ‘Bur Hoff Bau’ yn flas cyntaf o’r hyn sydd ganddynt i’w gynnig.

Mae’r sengl newydd allan heddiw, a dyma flas bach byr o’r hyn sydd ganddynt i’w gynnig:

Un peth arall…: Podlediad diweddaraf Y Sôn

Iei! Mae’n amser am bennod arall o bodlediad ardderchog Y Sôn!

Go brin fod angen i ni roi llawer o gefndir i chi am y podlediad sy’n cael ei gyhoeddi gan Chris a Geth o flog Sôn am Sîn – rydach chi wedi’n clywed ni’n canmol eu gwaith hen ddigon yn y gorffennol!

Mae’r pod diweddaraf yn adolygu albyms newydd Los Blancos a Gruff Rhys, ynghyd â thrafod gŵyl Ara Deg a gynhaliwyd ym Methesda yn ddiweddar. Maen nhw hefyd yn trafod ambell ben-blwydd cerddorol sy’n cael eu dathlu eleni.

Ond uchafbwynt y bennod heb os ydy’r gêm newydd wych maen nhw wedi dyfeisio – ‘Spotifive’! Os ydach chi’n gîcs cerddoriaeth fel ni (a Chris a Geth), neu beidio, garantîd fyddwch chi isio chwara hon ar ôl clywed yr hogia wrthi

Mae’r drafodaeth graff a difyr yn ôl yr arfer gan yr hogia, gwerth gwrando yn sicr: