Gig: Candelas, Mellt, Wigwam – 11/01/19
Ambell gig bach da mewn lleoliadau amrywiol dros benwythnos yr Hen Galan.
Mae gwobr band prysura’r penwythnos yn mynd i Y Niwl – a da eu gweld nôl yn gigio. Bydd y grŵp syrff o’r gogledd yn perfformio yn Nhafarn Y Groeslon ym Mrynsiencyn heno – eu gig cyntaf erioed ar Ynys Môn!
Yna nos fory, bydd cyfle arall i weld Y Niwl yn Neuadd Ogwen, Bethesda gyda chefnogaeth gan Blind Wilkie McEnroe – gig bach da.
Ein prif ddewis o gig y penwythnos yma ydy hwnnw gyda Candelas, Mellt a Wigwam yng Nghaerfyrddin – clamp o lein-yp ar ddechrau blwyddyn. Tap House 72 ydy’r lleoliad yng Nghaerfyrddin, a da gweld gig mewn lleoliad gwahanol yn yr hen dre’ ar ôl i’r Parot gau ei ddrysau nos Calan.
Fyse hi ddim yn benwythnos heb gig gyda’r Welsh Whisperer, a Chlwb Rygbi Llandeilo sy’n cael y pleser heno.
Cân: ‘Seren y Môr’ – Kizzy Crawford
Does dim llwyth o diwns Cymraeg newydd yn ymddangos ar ffrwd Soundcloud Y Selar ers y Nadolig, ond dyma un fach neis sydd wedi, a hynny ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn.
Cân ddwy-ieithog ydy hi, ac mae’n esiampl dda o’r sŵn unigryw mae Kizzy wedi llwyddo i’w sefydlu erbyn hyn. Er mor ifanc, mae ei cherddoriaeth bob amser wedi bod yn hynod o aeddfed, a dyma enghraifft arall o hynny.
Dipyn o syndod felly darllen nodiadau Kizzy am y trac a dysgu ei bod wedi ei hysgrifennu bron bum mlynedd yn ôl yn 2014! Cân a gyfansoddodd ar gyfer rhaglen ‘Playing the Skyline’ roedd hi’n gwneud ar gyfer Radio 4 gyda’r pianydd Gwilym Simcock ydy hi, ond tydi hi heb ymddangos ar-lein yn unrhyw le ers hynny. Chwarae teg i Kizzy am ei llwytho i’w chyfrif soundcloud fel tonig i’n clustiau ar ddechrau blwyddyn newydd.
Record: 5 – Y Niwl
Gan fod Y Niwl yn gigio ddwywaith penwythnos yma, mae’n esgus perffaith i roi bach o sylw i albwm diweddaraf y grŵp, 5, a ryddhawyd yn swyddogol yn Hydref 2017.
Er hynny, a bod gig lansio yn Pontio Bangor ar y pryd, mae rhywun yn teimlo fod yr albwm wedi mynd ar goll braidd a heb gael y sylw mae’n haeddu. Er eu bod nhw wedi cael llwyth o sylw i sawl cyfeiriad dros y blynyddoedd, tydi’r grŵp erioed wedi bod yn rai i hunan hyrwyddo’n ormodol, ac mae’n ymddangos bod ganddyn nhw ddilyniant sylweddol a thriw er gwaetha hynny felly pwy all eu beio!
Ond, rydan ni’n teimlo bod 5, fel gwaith blaenorol Y Niwl yn haeddu gwrandawiad eang ac mae modd i chi wrando ar yr albwm cyfan ar safle Bandcamp y grŵp nawr. Ac os ydach chi’n hoffi yr hyn rydach chi’n clywed mae modd i chi brynu’r albwm yma hefyd, naill ai’n ddigidol, ar CD, neu ar feinyl hyfryd….mmmm, feinyl.
Mae’n siŵr y byddwch yn gyfarwydd â dull unigryw Y Niwl o enwi eu caneuon bellach hefyd, sef trwy roi rhif ar y gân yn hytrach nag enw. Deg o ganeuon sydd ar 5, sef ‘Dauddegchwech’ trwodd i ‘Tridegchwech’…a nid mewn trefn gyda llaw!
Un o’n hoff draciau ni ydy ‘Dauddegwyth’, a chwarae teg i griw Ochr 1, mi wnaethon nhw gomisiynu Siôn Glyn o’r band i greu fideo i’r gân nôl yn Hydref 2016.
Artist: Melys
Daeth newyddion da yn gynharach yn yr wythnos fod y grŵp gwych o Ddyffryn Conwy, Melys, yn paratoi i ryddhau eu cynnyrch cyntaf ers deuddeg mlynedd.
‘Stay’ ydy enw sengl newydd y grŵp a’r bwriad ydy rhyddhau ar 22 Chwefror.
Os nad oedd hynny’n ddigon o newyddion da, yna roedden ni wrth ein bodd i glywed fod albwm cyfan ar y gweill ganddyn nhw gyda’r bwriad o’i ryddhau yn yr haf. Amserol iawn wrth i’r Eisteddfod Genedlaethol ymweld â Llanrwst fis Awst wrth gwrs – gobaith o gig rhywdro ‘Steddfod / Cymdeithas yr Iaith? G’won, wnewch chi ddim difaru…
Roedd Melys yn un o fandiau mwyaf Cymru ar ddiwedd y 1990au a dechrau’r 2000au. Yn un o hoff fandiau’r DJ chwedlonol, John Peel, roedden nhw reit yng nghanol symudiad Cŵl Cymru. Efallai nad oedden nhw mor amlwg a Catatonia a Super Furry Animals, ond yn hytrach yn fwy o ddewis yr hipsters – yn ail i ddim ond Gorkys mae’n siŵr.
Mae Melys wedi bod yn gigio tipyn yn ddiweddar, ac mae hynny wedi arwain at yr awydd i recordio eto. Felly dyma flas o un o’u gigs byw yn Lerpwl cyn y Nadolig isod, gyda pherfformiad o un o’u caneuon gorau ‘Un Darllenwr Lwcus’. Rhyddhawyd hon yn wreiddiol ar yr EP aml-gyfrannog ‘Planed Paned’ a gyhoeddwyd pan oedd Eisteddfod yr Urdd yn ymweld a Dyffryn Conwy yn 2000, sydd hefyd yn cynnwys y gân gyntaf erioed i’w rhyddhau gan Lleuwen gyda llaw – yr hyfryd ‘Draw Dros yr Afon’.
Un peth arall…: Cyhoeddi lein-yp Gwobrau’r Selar
Daeth y newyddion roedd pawb wedi bod yn disgwyl yn eiddgar amdano nos Fercher, wrth i ni gyhoeddi lein-yp Gwobrau’r Selar eleni.
Mae’r Gwobrau’n cael eu cynnal dros ddwy noson am y tro cyntaf, gyda lein-yp llawn ar nos Wener 15 Chwefror a nos Sadwrn 16 Chwefror yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth. Ac rydan ni wedi trefnu chwip o restr perfformwyr i chi ar gyfer y ddwy noson sy’n cynnwys, yn ôl yr arfer, detholiad o’r artistiaid prysura’ a mwyaf llwyddiannus y flwyddyn a fu.
Pwy sy’n perfformio?
Nos Wener – Mellt, Y Cledrau, HMS Morris, Alffa, Lewys
Nos Sadwrn – Gwilym, Mei Gwynedd, Los Blancos, Breichiau Hir, Wigwam, Y Trŵbz
Da de!
Mae llai o docynnau eleni, 600 yn hytrach na’r 1100 arferol, ac maen nhw’n gwerthu’n gyflym felly bachwch eich tocyn cyn gynted â phosib rhag cael eich siomi.