Pump i’r Penwythnos – 12 Ebrill 2019

Gig: Chroma, Adwaith, Los Blancos – McCann’s Rock ‘n Roll Bar, Casnewydd  – 13/04/19

Mae dydd Sadwrn yn ddiwrnod Siopau Recordiau Annibynnol, felly os nad ydach chi’n ymweld â siop recordiau‘n rheolaidd, gwnewch yr ymdrech ddydd Sadwrn da chi – mae record prydferth yn eich dwylo’n llawer mwy gwerthfawr na ffeil digidol ar eich dyfais!

Ac mae dipyn o berfformiadau mewn siopau a lleoliadau eraill i nodi’r diwrnod arbennig yma – un o’r rheiny ydy ein prif argymhelliad o gig yr wythnos hon, sef leinyp gwych Chroma, Adwaith a Los Blancos ym Mar Roc a Rôl McCann’s yng Nghasnewydd nos Sadwrn.

Cyn hynny, mae llond trol o gigs bach da heno gan gynnwys gig bach gwerinol arbennig iawn yn Neuadd Llangywer gyda VRï a Gwyneth Glyn yn perfformio. Gig arall sydd a chymysgedd o gerddoriaeth werin a chlasurol heno ydy hwnnw yn Neuadd Ogwen, Bethesda wrth i 9Bach berfformio gyda’r tenor a chyfansoddwr uchel ei barch o Ganada, Jeremy Dutcher.

Ac os nad ydy hynny’n ddigon o werin i chi, wel beth am gig The Trials of Cato a Gwilym Bowen Rhys yn Tŷ Pawb, Wrecsam heno?

Gan symud i ffwrdd o werin am y tro, mae ‘na gwpl o gigs eraill da iawn yn digwydd heno. Mae un o’r rhain yn gweld Wigwam a Papur Wal yn ymweld â Phontypridd, a Chlwb y Bont. Ac yna yn y gogledd, ac yng Nghlwb Canol Dre Caernarfon, lein-yp ardderchog arall gydag Alffa, Gwilym a Lewys yn adlonni’r Cofîs.

Mae cyfle arall i weld Alffa a Gwilym ar yr un lein-yp nos Sadwrn wrth i’r ddau fand ymweld â Cell B ym Mlaenau Ffestiniog, gyda’r grŵp lleol, Yr Oria, hefyd ar y llwyfan.

Perfformiad arall i ddathlu Diwrnod Siopau Recordiau yn y Tangled Parrot yng Nghaerfyrddin – Accü a Papur Wal yn chwarae.

Ac yn olaf, un gig gwerinol arall i gloi arlwy’r penwythnos wrth i VRï ymweld â’r Clwb Hwylio Brenhinol Cymreig yng Nghaernarfon – posh iawn ynde!

 

Cân: ‘Penblwydd Hapus Iawn’ – Breichiau Hir

Nid yw’n gyfrinach ein bod yn reit hoff o Breichiau Hir yn Selar HQ, ac mae gweld eu prysurdeb o’r newydd dros y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn hwb i’r galon.

Roedd y grŵp roc o Gaerdydd yn dathlu eu pen-blwydd yn ddeg oed llynedd, ac mae enw eu sengl newydd, sydd allan heddiw, yn briodol iawn…er, ychydig yn hwyr o bosib…o ystyried hynny.

Mae Breichiau Hir bellach wedi ymuno â stabal orlawn Recordiau Libertino, gan ryddhau dwy sengl gyda’r label llynedd – ‘Mewn Darnau / Halen’ ym mis Ebrill ac yna ‘Portread o Ddyn yn Bwyta ei Hun’ ym mis Hydref.

Mae ‘Pen-blwydd Hapus Iawn’ hefyd allan ar Libertino, ac yn ôl y label mae’r trac yn un ‘stormus a thoreithiog’. Yng ngwir draddodiad Breichiau Hir, mae’r sengl yn bync ymosodol sy’n adlais o waith rhai o ddylanwadau cynnar y band fel Sunny Day Real Estate, At The Drive In a The Get Up Kids.

Ac mae stori wir tu cefn i’r gan, fel yr eglura ffryntman egnïol Breichiau Hir, Steffan Dafydd.

“Mae’r gân yn seiliedig ar barti pen-blwydd mynychais sawl blwyddyn yn ôl, lle gwelais y gwaethaf yn y bobl orau” meddai Steffan.

Beltar gan y Breichiau…

 

Record: Ewropa – Geraint Ffrancon

Mae ‘na ddigon o drafod Ewrop ar y cyfryngau ar hyn o bryd, yn enwedig trafodaeth am adael Ewrop…neu beidio!

Un sydd wedi ymuno â’r drafodaeth mewn ffordd go unigryw ydy’r cerddor electronig ardderchog, Geraint Ffrancon.

Teg dweud fod Geraint wedi gwneud ei deimladau ynglŷn â Brexit yn weddol glir trwy gyhoeddi casgliad newydd o draciau ar ffurf albwm digidol ar ei safle Bandcamp.

‘Ewropa’ ydy enw’r casgliad newydd, ac mae’n cynnwys 27  draciau – un ar gyfer pob gwlad fydd yn parhau’n aelodau o’r Undeb Ewropeaidd unwaith bydd Prydain wedi gadael.

Mae Geraint Ffrancon yn gyfarwydd i ni fel cerddor sy’n cynhyrchu cerddoriaeth electroneg ac amgen ers nifer o flynyddoedd bellach. Bu’n cyhoeddi cerddoriaeth ers dechrau’r mileniwm dan nifer o enwau gwahanol – Stabmaster Vinyl, Blodyn Tatws, ap Duw, Seindorff a Machynlleth Sound Machine i enw dim ond rhai.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae wedi canolbwyntio ar gynhyrchu cerddoriaeth dan yr enw Ffrancon gyda sawl casgliad o ganeuon yn ymddangos ar ei safle Bandcamp.

Digidol yn unig ydy’r casgliad ar hyn o bryd, ond mae’n haeddu llwyfan ar ffurf corfforol yn bendant, gyda gwaith celf trawiadol wedi’i  greu gan yr artist David Morgan-Davies.

 

Artist: VRï

Un o grwpiau prysura’ y penwythnos ydy’r grŵp gwerin siambr, VRï.

Roedd neithiwr yn noson llwyddiannus iawn i’r triawd – Patrick Rimes, Jordan Price Williams ac Aneirin Jones – wrth iddyn nhw gipio dwy wobrau yn noson Wobrau Gwerin Cymru yng Nghaerdydd.

Dyma’r tro cyntaf i’r Gwobrau gael eu cynnal, ac fe enillodd VRï y wobr am ‘Y Gân Gymraeg Draddodiadol Orau’ am eu fersiwn o ‘Ffoles Llantrisant’, a hefyd y wobr am yr ‘Albwm Orau’ am eu record hir gyntaf, Tŷ Ein Tadau. Roedd nifer o artistiaid eraill sy’n gyfarwydd i ddarllenwyr Y Selar – Lleuwen, Gwilym Bowen Rhys, Calan ymysg eraill – yn llwyddiannus hefyd.

Ac, mae cwpl o gyfleoedd i’w gweld nhw’n gigio dros y penwythnos – yn Neuadd Llangywer heno, ac yna yng Nghaernarfon nos fory.

Dyma nhw’n perfformio yng Ngŵyl Tân a Môr Harlech yn ddiweddar:

 

Un peth arall…: Cyfle i fod ar gynllun Gorwelion

Mae’r drws wedi agor unwaith eto i artistiaid sy’n awyddus i fod yn rhan o gynllun Gorwelion y BBC a Chyngor y Celfyddyddau.

Bydd y rhan fwyaf o ddarllenwyr yn gyfarwydd â’r cynllun diolch yn bennaf i’r artistiaid Cymraeg gwych sydd wedi manteisio ar y prosiect dros y bum mlynedd ddiwethaf – gan gynnwys Candelas, Kizzy Crawford, Casi, Fleur de Lys, Chroma, Danielle Lewis, Alffa.

Ac os ydach chi’n fand neu artist yng Nghymru yna mae cyfle i chi ymuno â’r rhestr ddethol yma gan bod Gorwelion yn gwahodd ceisiadau i fod ar y cynllun eleni.

Bydd y 12 ymgeisydd llwyddiannus yn cael cymorth mewn gwahanol ffyrdd dros y 12 mis nesaf – gyda chyfleoedd i ymddangos mewn gwyliau a digwyddiadau, ar y radio gan gynnwys gwasanaethau cenedlaethol BBC Cymru Wales –  BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales ac ar gyfryngau cymdeithasol.

Sut mae ymgeisio? Wel, mae’r wybodaeth lawn a ffurflen gais ar wefan Gorwelion.

Mae’r dyddiad cau ar 1 Mai – ewch amdano ar bob cyfri!

Dyma fand arall fu ar y cynllun, CaStLeS, yn gwneud perfformiad sesiwn i Gorwelion ym 2017: