Gig: Lleden, Candelas, Y Gwdihŵs, Fflur Dafydd, Gwilym, Welsh Whisperer – Gŵyl Canol Dre, Caerfyrddin 13/07/19
Mae tymor y gwyliau yn ei anterth, a diogon o hwyl i’w gael mewn sawl rhan o’r wlad dros y penwythnos.
Caernarfon ydy’r gyrchfan ar gyfer nifer o artistiaid, wrth i Ŵyl Arall barhau i ehangu eu harlwy gerddorol. Roedd Geraint Lovgreen a Hywel Pitts yng Nglwb Canol Dre neithiwr, a heno mae noson Cabarela yn y Galeri. Tipyn yn digwydd yn Neuadd y Farchnad fory – I Fight Lions, Dienw a Lewys yn perfformio yn y prynhawn ynghyd â’r grwpiau newydd Aerobic, Maes Parcio a Gamma. Yna, yn y nos mae lein-yp ardderchog sy’n cynnwys Buzzard Buzzard Buzzard, Kizzy Crawford, Kim Hon ac Eadyth.
Mae cerddoriaeth Gŵyl Arall yn parhau ddydd Sul gyda Meic Stevens, Patrick Rimes, Cerys Eless, Gwydion a Gwenno Fôn yn Neuadd y Farchnad. Yna gyda’r hwyr mae cyfle prin i weld Steve Eaves, gyda chefnogaeth gan y gantores ifanc sydd ar gynllun Gorwelion eleni, Eve Goodman, yn y Galeri.
Yn y de mae Parti Ponty yn digwydd ym Mhontypridd. Lein-yp a hanner yng Nghanolfan Gartholwg yn ystod y dydd gydag Elin Fflur, Mei Gwynedd, Mari Mathias, Bwca a mwy. Yna gyda’r hwyr yng Nghlwb y Bont mae Gwilym, Glain Rhys, Danielle Lewis ac Alffa.
Ym Mhwllheli, mae cyfle i ddal Gwilym Bowen Rhys, Bwncath a set acwstig gan Anweledig ar y Stryd Fawr ddydd Sadwrn.
Ein prif argymhelliad ni o’r penwythnos (yn rhannol gan bod Y Selar yn helpu trefnu) ydy Gŵyl Canol Dre yng Nghaerfyrddin, sydd nôl am yr eilwaith eleni. Candelas, Lleden, Gwilym, Fflur Dafydd, Welsh Whsiperer a’r grŵp cyfyrs ardderchog Y Gwdihŵs i gyd ar y llwyfan ym Mharc Myrddin ddydd Sadwrn.
Ambell gig llai i’w crybwyll hefyd – Gwilym Bowen Rhys yn yr Ivy Bush Caerfyrddin nos Wener a lansiad EP Hyll yng Nghlwb Ifor Bach nos Wener.
Cân: ‘I Fewn’ – Eädyth x Shamoniks
Ecsgliwsif mawr arall i wefan Y Selar wrth i ni gynnig y cyfle cyntaf i chi weld y fideo ar gyfer sengl newydd Eädyth x Shamoniks.
‘I Fewn’ ydy enw’r sengl sydd allan heddiw ar label UDISHIDO, ac mae’n damaid bach blasus i aros pryd cyn i’r ddeuawd ryddhau albwm ddechrau mis Awst.
Mae’r bartneriaeth rhwng y gantores o Ferthyr a’r cynhyrchydd San Humphreys sy’n aelod o Calan, No Good Boyo a Pendevig yn mynd o nerth i nerth, ac mae dylanwadau electroneg a gwerinol y ddau yn plethu’n hyfryd ar y sengl newydd.
Trwy gydol y trac, mae geiriau dwfn, positif Eädyth wedi’u cydblethu â thonau dyrchafol ac harmonïau syfrdanol. Mae’r cyfeiliant egnïol gan Shamoniks wedi’i ysbrydoli gan hip-hop, gwerin, roc, electronica, a d’n’b o bob cwr o’r byd. Neis iawn wir…
Record: Cadw’r Slac yn Dynn – Welsh Whisperer
Beth bynnag ddwedwch chi am y Welsh Whisperer, allwch chi ddim gwadu ei fod o’n foi uffernol o brysur, ac yn foi uffernol o boblogaidd!
Go brin fod unrhyw gerddor Cymraeg yn gigio’n fwy rheolaidd na hwn, ac mae’n torfeydd yn heidio i’w weld bob tro – yr hen a’r ifanc.
Mae o’n gigio sawl gwaith dros y penwythnos yma, ac rydan ni wedi sôn uchod bod cyfle i’w weld yng Ngŵyl Canol Dre bnawn Sadwrn. A’r newyddion mawr arall ydy fod cyfle cyntaf i gael gafael ar ei albwm newydd, Cadw’r Slac yn Dynn, yn yr ŵyl hefyd!
Dydd Llun ydy dyddiad rhyddhau swyddogol ei record hir ddiweddaraf, sydd allan ar label Recordiau Hambon, ond mae Y Selar wedi cael gwybod bod WW yn bwriadu gosod ei stondin ger y llwyfan yng Nghaerfyrddin ddydd Sadwrn, a disgwyliwch i’r CDs werthu fel slecs.
Yn ôl yr wybodaeth sydd wedi dod i law, gallwn ddisgwyl sŵn gwahanol i’w recordiau poblogaidd blaenorol, gyda’r cerddor gwerin amryddawn Patrick Rimes o’r band Calan yn ymuno ar y ffidil ynghyd â John Williams o fand Bryn Fôn ar y piano mewn arddull honky tonk. Diddorol…diddorol iawn!
Bydd yr albwm ar werth mewn siopau amrywiol ac ar wefan y Welsh Whisperer.
Pan dio ddim yn gigio neu recordio, mae Welsh Whisperer yn brysur yn creu hafoc gyda’i fêt Hywel Pitts – dyma un o’u creadigaethau diweddaraf ‘ Brexit’ (rhybudd iaith gref!)
Artist: Gai Toms
Go brin bod angen llawer o gyflwyniad ar Gai Toms – wedi’r cyfan, mae o heb os yn un o artistiaid a chyfansoddwyr gorau ei genhedlaeth.
Yn gitarydd gydag un o grwpiau mwyaf poblogaidd Cymru, Anweledig, bu hefyd yn brysur gyda’i brosiect arall, Mim Twm Llai ar ddiwedd y 1990au a dechrau’r 2000au. Fe ryddhaodd dri albwm gwych dan yr enw Mim Twm Llai – O’r Sbensh yn 2002, Straeon y Cymdogion yn 2005 ac Yr Eira Mawr yn 2006.
Ers hynny mae wedi rhyddhau pedwar albwm hyd yma dan ei enw bedydd – Rhwng y Llygru a’r Glasu (2008), Bethel (2012), The Wild, The Tame and The Feral (2015) a Gwalia (2017).
Nawr, mae Gai yn ôl gyda’i albwm diweddaraf sydd allan ar 19 Gorffennaf – ORIG!
Albwm gysyniadol, a theyrnged i’r reslwr Cymreig, Orig Williams, ydy’r albwm newydd ac os wnewch chi bori trwy gopi o gylchgrawn Golwg yr wythnos hon fe welwch chi lun o Gai, wedi’i wisgo fel Orig Williams, neu El Bantito, ar y clawr. Ac mae’r tebygrwydd rhwng y ddau’n ddigon o ryfeddod!
Mae cyfweliad difyr gyda Gai yn y rhifyn hefyd.
Ddydd Gwener diwethaf hefyd fe ymddangosodd fideo ar gyfer y sengl gyntaf o’r albwm, ‘Y Cylch Sgwâr’, ar sianel YouTube Ochr 1
Un peth arall…: Cerddoriaeth Cwpan y Byd
Mae Cwpan y Byd pêl-droed Digartref yn dod i Gymru rhwng 27 Gorffennaf a 3 Awst a bydd gwledd gerddorol i’r glust yn cyd-fynd â’r bencampwriaeth.
Mae sawl enw adnabyddus wedi’u cyhoeddi i berfformio ym Mharc Biwt, Caerdydd yn ystod yr wythnos gan gynnwys Gwenno, Euros Childs ac Alffa.
Dyma’r 17eg Cwpan y Byd Digartref lle fydd 500 o chwaraewyr o bron i 50 o wledydd yn chwarae yn erbyn ei gilydd mewn twrnament sydd wedi’i sefydlu i arfogi y rheiny sy’n dioddef o ddigartrefedd a gwaharddiad gymdeithasol â phŵer chwaraeon i’w helpu i drawsnewid eu bywydau. Helpodd yr actor a’r ymgyrchydd Michael Sheen i sicrhau bod y twrnament yn ymweld â Chaerdydd a bu’n ymarferol iawn yn ystod y paratoadau.
Yn ymuno â’r ŵyl bydd prif leisydd Manic Street Preachers – James Dean Bradfield, Charlotte Church’s Late Night, Pop Dungeon, Gwenno, The Joy Formidable ac Euros Childs.
Bydd y pedwarawd retro-roc Buzzard Buzzard Buzzard yn chwarae cân swyddogol Cwpan y Byd Digartref Caerdyd 2019 sef ‘Daffodil Hill’ ar y dydd Sadwrn olaf. Bydd Alffa, Mellt, Papur Wal, SYBS, Wigwam a Rosehip Tea House hefyd yn ymuno a’r bandiau trwy gydol yr wythnos.
Dyma’r amserlen lawn ar gyfer cerddoriaeth yr wythnos:
Sadwrn 28 Gorffennaf – Euros Childs, Wigwam
Llun 29 Gorffennaf- Gwenno, Rosehip Teahouse
Mawrth 30 Gorffennaf- James Dean Bradfield, Alffa
Iau 1 Awst- The Joy Formidable, Mellt
Gwener 2 Awst – Papur Wal, Charlotte Church’s Late Night Pop Dungeon
Sadwrn 3 Awst – Buzzard Buzzard Buzzard, SYBS