Gig: Bryn Fôn, Pena Bach, Pasta Hull, Daf Jones a mwy – Gŵyl Bodffordd – 14/09/19
Mae’r haf yn dirwyn i ben, ond ambell ŵyl yn dal i’w cynnal wrth i ni obeithio am Haf Bach Mihangel.
Y penwythnos yma, prif gig Pump i’r Penwythnos ydy Gŵyl Bodffordd yn Ynys Môn…os ddim ond am y rheswm bod Bryn Fôn a Pasta Hull ar yr un lein-yp! Dylai fod yn ddiddorol.
Mae gigs eraill y penwythnos yn cynnwys dybyl hedar gyda Candelas yn Saith Seren, Wrecsam nos Wener i ddathlu Dydd Owain Glyndŵr (sydd ar 16 Medi). Mae Gig Bach Owain Glyndŵr am 18:00, sydd wedi’i deilwra’n arbennig i blant ysgolion cynradd. Yna, yn dilyn hynny bydd Candelas yn perfformio i’r oedolion.
Rhywbeth bach yn wahanol yn y Galeri, Caernarfon nos Wener sef ‘Disgo o Ddifri Mr Potter’, gyda DJ anhygoel Gareth Potter wrth gwrs.
Hefyd yn y Galeri nos Sul mae noson fach ddifyr iawn yr olwg gyda dwy gantores ardderchog, Sian James a Lleuwen Steffan.
Cân: ‘Loetran’ – gruffsion
‘gruffsion’ ydy proffil Soundcloud Gruff Pritchard, neu Gruff Pritch, sy’n fwyaf cyfarwydd i ni fel aelod o’r Ods, ond sydd hefyd wedi dablo rhywfaint gyda cherddoriaeth electroneg gyda Carcharorion ac yn unigol.
Mae rhywbeth hollol wahanol wedi ymddangos ganddo ar ei Soundcloud yr wythnos yma ar ffurf pedwar o draciau newydd – ‘be wnes di heddiw’, ‘padarn’, ‘trem’ a ‘loetran’. Mae ‘na drac arall newydd wedi’i lwytho wythnos diwethaf hefyd o’r enw ‘syfrdan’.
Byddai’n gor-ddweud ein bod yn syfrdan gyda sŵn y traciau newydd, ond yn sicr mae’r pedair ddiweddaraf yn annisgwyl. Y piano ydy prif offeryn y caneuon offerynnol yma ac maen nhw’n ganeuon atmosfferig, myfyriol allai fod yn drac sain gefndirol i raglen deledu. Un cymhariaeth Gymreig posib fyddai albwm Eilaag Euros Childs o 2014, yn sicr o ran y naws a phwysigrwydd y piano fel agwrn cefn.
Newid cyfeiriad difyr dros ben i Gruff felly, a bydd yn ddifyr gweld be ddaw.
Record: Pang – Gruff Rhys
Mae albwm cyfan gwbl Gymraeg cyntaf Gruff Rhys ers 14 mlynedd allan heddiw.
Er bod ambell drac Cymraeg wedi ymddangos ganddo ers hynny, Pang ydy record hir uniaith Gymraeg cyntaf prif ganwr y Super Furry Animals ers ei record unigol gyntaf, Yr Atal Genhedlaeth, a ryddhawyd yn Ionawr 2005.
Mae’r albwm 9 trac allan ar label Rough Trade Record ac ar gael yn ddigidol, ar CD, ar feinyl a feinyl deluxe nifer cyfyngedig. Mmmmm.
Cafodd y record ei recordio yng Nghaerdydd, ond mae wedi’i gynhyrchu a chymysgu gan y cynhyrchydd Muzi yn Johannesburg, De Affrica.
Mae’r label yn disgrifio’r casgliad fel ‘albwm pop Cymraeg, gydag ambell bennill o Zulu, a theitl Saesneg’. Dywedant fod Pang! wedi datblygu’n annisgwyl dros gyfnod o 18 mis.
“Mae ‘Pang!’ yn gân iaith Gymraeg gydag enw Saesneg” eglura Gruff Rhys.
“Mae defnyddio’r gair Saesneg pang mewn cân Gymraeg efallai ymddangos braidd yn weird ond am wn i mae o fel defnyddio gair Ffrangeg ‘Magazine’ mewn cân Saesneg. Yn yr ystyr ei fod o ychydig yn rhodresgar, ond yn hollol dderbyniol.”
Classic dyfyniad Gruff Rhys ia! Dyma fideo ‘Pang!’
Artist: Breichiau Hir
Rydan ni’n hoff iawn o Breichiau Hir yma yn Selar HQ, felly newyddion da eu bod yn paratoi i ryddhau sengl ddwbl newydd wythnos nesaf.
‘Yn Dawel Bach / Saethu Tri’ ydy cynnyrch diweddaraf y grŵp roc o Gaerdydd sydd allan ar label Recordiau Libertino ddydd Gwener 20 Medi.
Mae Breichiau Hir wedi cael bach o adfywiad dros y ddwy flynedd ddiwethaf – ers iddyn nhw ddathlu 10 mlynedd fel grŵp yn Ionawr 2018 mewn gwirionedd. Bydden nhw’r cyntaf i gyfaddef na fuon nhw’r grŵp mwyaf cynhyrchiol yn ystod y 10 mlynedd yna, ond ers hynny maen nhw wedi ymuno â Libertino, a hynny i’w weld wedi rhoi momentwm newydd iddyn nhw.
Maen nhw wedi rhyddhau cwpl o sengl gyda Libertino yn barod, sef y sengl ddwbl ‘Mewn Darnau / Halen’ yn Ebrill 2018, ac yna ‘Portead o Ddyn yn Bwyta ei Hun’ fis Hydref diwethaf.
Bydd y sengl ddwbl ar gael yn ddigidol ac ar ffurf casét nifer cyfyngedig. Bydd y grŵp yn lansio’r sengl yn swyddogol mewn gig The Dojo, Kings Road Yard, Caerdydd ar 28 Medi.
Un peth arall…: Podlediad Y Sôn #14
Nid peth anghyffredin ydy gweld un o bodlediadau Y Sôn yn cael sylw yn yr adran yma o Pump i’r Penwythnos.
Does dim cywilydd o gwbl gyda ni ynglŷn â hynny, gan ein bod ni’n hoff iawn o’r gwaith mae Chris Roberts a Gethin Griffiths o flog Sôn am Sîn yn ei wneud gyda’r podlediad
Mae podlediad Y Sôn #14 ar gael nawr ar flog Sôn am Sîn, ac ar y prif lwyfannau podledu.
Yn ôl yr arfer, mae’n bodlediad difyr dros ben lle mae Chris a Gethin yn cynnal trafodaeth ddifyr a deallus am stwff cerddoriaeth ddiweddar.
Mae’r podlediad yn rhoi sylw arbennig i EP Hyll, Rhamant, ac albwm Carwyn Ellis a Rio 18, Joia.
Yn ogystal â hynny maen nhw’n trafod dinas Bangor fel lleoliad cerddoriaeth gyfoes…neu beidio efallai, a hefyd yn trafod cyfraniad Steve Eaves yn dilyn rhyddhau ei albwm diweddaraf – Y Dal yn Dyn, y Tynnu’n Rhydd.
Gwrando angenrheidiol yn ôl yr arfer.