Gig: Alffa, Elis Derby, Kuider, Ricochet, Elina Mitton – Gwener 14 Mehefin – Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug
Nid y penwythnos prysura’ o ran gigs, ond ambell beth bach i ddod â dŵr i’r dannedd.
Ein prif ddewis o gig y penwythnos yma ydy hwnnw yn Theatr Clwyd ble bydd Alffa yn hedleinio gig sydd hefyd yn cynnwys Elis Derby a’r bandiau ifanc Kuider, Ricochet ac Elina Mitton.
Mae tymor y gwyliau yn dechrau o ddifrif erbyn hyn, a dydd Sadwrn mae Gŵyl Fach y Fro ar Ynys y Barri. Tipyn o lein-yp gan yr ŵyl eleni hefyd, gyda Meic Stevens a’r Band ar frig y rhestr. Mae’r lein-yp yn amrywiol iawn hefyd gyda The Gentle Good ochr yn ochr â Chroma, ynghyd â’r grŵp gwerin, Bwncath, a’r gantores ‘pop pinc’ Hana2k.
Fyddai hi ddim yn benwythnos heb gig gan y Welsh Whisperer wrth gwrs, a chynulleidfa Neuadd Llangeitho sy’n cael y pleser o’i gwmni nos Sadwrn, ynghyd â Bois y Rhedyn. Gwd thing (sori, teimlo rheidrwydd bob tro!)
Cân: ‘Dyma Ffaith’ – MABLI
Rhag ofn i chi golli’r newyddion yn gynharach yn yr wythnos, roedd cyfle cyntaf i glywed sengl newydd MABLI ar wefan Y Selar ddydd Mercher.
‘Dyma Ffaith’ ydy enw’r sengl newydd gan y gantores fydd yn fwy cyfarwydd i rai fel Mabli Tudur. Mae Mabli wedi dechrau gwneud enw i’w hun ar lwyfannau Cymru ers cwpl o flynyddoedd bellach, gan gyrraedd ffeinal Brwydr y Bandiau Steddfod Môn (yr un lle nath Alffa guro Gwilym – blwyddyn vintage fel fysa nhw’n deud!)
Mae’r ferch o Gaerdydd bellach yn y coleg yn Llundain, wedi setlo ar yr enw llwyfan MABLI, a bydd y sengl allan yn swyddogol ar label JigCal ar ddydd Gwener 21 Mehefin. I gyd-fynd â rhyddhau’r sengl bydd cyfle i weld Mabli’n perfformio’n fyw ar lwyfan Tafwyl ddydd Sadwrn, 22 Mehefin.
Yn y cyfamser, gallwch fwynhau ‘Dyma Ffaith’ ar wefan Y Selar cyn unrhyw le arall!
Record: Stafell Llawn Mŵg – Maharishi
Naid yn ôl i’r archif wythnos yma wrth i Recordiau Sain gyhoeddi eu bod yn rhyddhau dau albwm cyntaf y grŵp Maharishi yn ddigidol ddydd Mercher.
Ffurfiodd Maharishi yn wreiddiol ym 1998 yn neuadd breswyl JMJ ym Mangor pan oedd yr aelodau – Euron ‘Jôs’ Jones, Gwilym Davies a Rich Durrell, ac yn ddiweddarach Rhydwen Mitchell, yn fyfyrwyr yn y Brifysgol. Roedden nhw gyda’i gilydd nes tua 2005-06, ac fe ryddhawyd tri albwm ac EP ganddyn nhw dros y cyfnod hwnnw.
Yn anffodus, maen nhw’n tueddu i gael eu cofio’n bennaf am eu cân waethaf – yr erchyll ‘Tŷ ar y Mynydd’….argh! Mae hynny’n drueni, gan nad ydy’r gân benodol yma’n adlewyrchiad teg o sŵn Maharishi, ac roedd ganddyn nhw nifer o diwns bach da mewn gwirionedd.
Rydan ni eisoes wedi cael clywed bod Maharishi yn ail-ffurfio ar gyfer perfformiad ar Lwyfan y Maes yn Eisteddfod Llanrwst ar y dydd Sadwrn cyntaf (disgwyliwch hysteria adeg ‘Tŷ ar y Mynydd’!) – mae Jôs yn dod yn wreiddiol o Felin-y-Coed ger Llanrwst, a Gwilym o bentref Llansannan gerllaw felly mae’n ‘Steddfod gartref’ o fath iddyn nhw.
Wedi ei recordio yn Stiwdio Sain, Llandwrog gyda Les Morrison yn cynhyrchu, rhyddhawyd Stafell Llawn Mŵg ar label Gwynfryn Cymunedol yn 2000, gyda’r ail albwm, Merry Go Round, yn dilyn flwyddyn yn ddiweddarach.
Mae cân enwocaf y grŵp ar yr albwm cyntaf, ac mae’r casgliad yn llawn o ganeuon bachog sy’n adlewyrchu bywyd stiwdant ym Mangor ar y pryd – nodwedd o ganeuon cynnar y grŵp cyn iddyn nhw ddatblygu dipyn ar eu sŵn ar y recordiau diweddarach.
Ymysg caneuon mwyaf cofiadwy Stafell Llawn Mwg mae ffefryn Radio Cymru ar y pryd, ‘Toni’, ‘Ferch yn y Gornel’ a’r anthem o deyrnged i dafarn y Glôb, ‘Fama ‘di’r Lle’. Er hynny, efallai mai cân orau’r albwm, a‘r un sy’n pasio prawf amser orau, ydy’r olaf ar y casgliad, ‘Pentre Bach’. Fe ryddhawyd hon hefyd ar albwm aml-gyfrannog Y Gwir yn Erbyn y Byd, record i gefnogi mudiad Cymuned (cofio nhw?!) Jyst gwrandewch ar y riff Tich Gwilym-aidd gan Jôs ar hon!
Artist: Mared
Mae’n amlwg yn wythnos ar gyfer artistiaid benywaidd, sy’n defnyddio eu henw cyntaf yn unig, ac yn dechrau gyda ‘M’! MABLI gyntaf, a rŵan Mared a phwy sydd angen ail enw pan fod ganddoch chi lais cystal â hon!
Pwy ydy Mared? Wel, Mared Williams, sef y gantores ddaeth i’r amlwg gyntaf fel prif ganwr a chwaraewr allweddellau Trŵbz. Dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf mae Mared wedi bod yn canolbwyntio’n fwy ar ddatblygu gyrfa fel artist unigol, a heb os yn llwyddo i wneud enw i’w hun.
Y cam nesaf yn y broses ydy rhyddhau ei sengl newydd, ‘Dal y Teimlad’ ar label I KA CHING heddiw.
Er mai dyma gynnyrch cyntaf Mared ar I KA CHING, nid dyma ei chynnyrch cyntaf fel artist unigol – rhyddhaodd yr EP ‘Noises in the Night’ yn Nhachwedd 2017, gyda’r sengl Nadoligaidd, ‘Dolig Dan y Lloer’ yn dilyn yn fuan wedyn.
Mae Mared hefyd wedi bod yn brysur yn cyd-weithio gydag artistiaid eraill gan gynnwys y ddeuawd electronig o Leeds, Denton Thrift, ac mae eu traciau ‘Fear in the Night’ a ‘Something Real’ y bu Mared yn gweithio arnynt wedi eu ffrydio dros 700,000 o weithiau ar Spotify erbyn hyn. Yn fwy diweddar mae Mared hefyd wedi cyd-weithio â’r grwpiau Cymraeg Gwilym a Band Pres Llareggub.
Dim amheuaeth, ma beltar o lais gan hon!
Dyma hi’n canu ‘Yn y Dechrau’ gyda Trŵz ar raglen Stiwdio Gefn:
Un peth arall…: 12 Newydd Gorwelion
Newyddion cyffrous penwythnos diwethaf oedd hwnnw am 12 artist newydd cynllun Gorwelion.
Yn ôl yr arfer mae tipyn o amrywiaeth ymysg yr artistiaid o fand indî-pop breuddwydiol, artist pop electroneg yn ei harddegau, grŵp roc, rap a reggae byw, cantores jazz, cynhyrchydd dawns ac un o’r chwaraewyr banjo cyflymaf yng Nghymru.
Mae’r rhestr artistiaid Cymraeg yn ddifyr eleni, ac yn cynnwys dau o artistiaid mwyaf cyffrous a phoblogaidd y sin ar hyn o bryd – Y Cledrau a Gwilym. Mae Eve Goodman yn enw diddorol – cantores werin ifanc sydd â llais hudolus, dyma ‘Angor (Sŵn y Môr)’ ganddi:
Enw arall cyfarwydd i ddarllenwyr Y Selar ydy Sera, sy’n brofiadol iawn ond yn cael adfywiad bach yn ddiweddar.
Efallai bod Endaf yn enw llai cyfarwydd – cynhyrchydd neo-soul, garage a deep house o Gaernarfon sydd wedi cyd-weithio ag Eadyth yn ddiweddar.
Yr artist olaf diddorol iawn ar yr ochr Gymraeg ydy HANA2K. Mae’r ferch ifanc o Gaerdydd eisoes yn gwneud tipyn o enw i’w hun gyda’i cherddoriaeth ‘pop-pinc’ cyffrous. Mae wedi recordio caneuon yn y Gymraeg yn y gorffennol ac yn awyddus i wneud mwy yn iaith y nefoedd. Dim merched yn hed-leinio Maes B? Dyma un allai wneud yn y dyfodol yn sicr.
Pa esgus gwell i ddangos fideo Y Cledrau ng Ngwobrau’r Selar – ‘Cyfarfod o’r Blaen’…tiiiiwn!