Pump i’r Penwythnos – 15 Chwefror 2019

Mae penwythnos mwyaf y flwyddyn i griw Y Selar wedi cyrraedd, a dim syndod fod lle amlwg i Wobrau’r Selar yn ein Pump i’r Penwythnos yr wythnos hon…

Gig: Gwobrau’r Selar – Undeb Myfyrwyr Aberystwyth – 15-16/02/19

Bydd rhaid i chi faddau i ni am ddangos ffafriaeth, ond mae un gig yn amlwg iawn ar y calendr wythnos yma – Gwobrau’r Selar!

Ond anodd dadlau nad ydy’r lein-yp nos Wener a Sadwrn yn goblyn o un da. Mae heno, nos Wener, yn mynd i fod yn gig reit arbennig wrth i ni dalu teyrnged i enillwyr y wobr Cyfraniad Arbennig eleni, Mark Roberts a Paul Jones. Bydd y bandiau i gyd – Lewys, Alffa, HMS Morris, Y Cledrau a Mellt – yn cynnwys cân o ôl-gatalog bandiau Mark a Paul yn eu set. Disgwyliwch glasuron gan Y Cyrff a Catatonia felly!

Mae’r lein-yp yr un mor gryf nos Sadwrn hefyd – Trŵbz, Wigwam, Breichiau Hir, Los Blancos, Mei Gwynedd a Gwilym. Wawzyr!

Does dim tocynnau ar ôl ar gyfer nos Sadwrn, ond mae ambell un ar ôl ar gyfer heno – dewch yn gynnar os am dalu ar y drws.

Cwpl o bethau eraill sy’n werth eu crybwyll cofiwch, gan gynnwys gig ‘Gellir Gwell’ yn y Tramshed yng Nghaerdydd heno. Mae Cian Ciaran a Los Blancos ymysg y perfformwyr. Hefyd heno, mae Gwibdaith Hen Frân yn gigio yn Saith Seren, Wrecsam.

Dau gig gwahanol iawn nos fory wedyn, sef Hywel Pitts a’r Welsh Whisperer yng Nghlwb Golff Y Bala ar y naill law, a wedyn Mr (Mark Roberts) gyda chefnogaeth gan Y Niwl a Ffracas ar y llall.

Cân: ‘Dim Maddeuant’ – Yr Oria

Wedi blwyddyn cymharol dawl yn 2018, mae’r grŵp o Flaenau Ffestiniog, Yr Oria, wedi rhyddhau sengl newydd sbon o’r enw ‘Dim Maddeuant’.

A’r newyddion gwell fyth ydy mai tamaid i aros pryd ydy’r sengl gan fod addewid o EP ar y ffordd hefyd.

Yn ôl Garry, canwr Yr Oria, maen nhw bron iawn a gorffen recordio’r EP ac yn gobeithio rhyddhau ym mis Ebrill.

Mae tipyn o newid wedi bod i aelodaeth y grŵp dros y flwyddyn ddiwethaf hefyd, gyda dim ond dau aelod parhaol erbyn hyn sef Garry (Hughes) a Gareth Ellis.

Gallwn ni ddisgwyl sŵn bach yn wahanol hefyd, gyda Garry’n dweud eu bod nhw wedi symud i gyfeiriad mwy electronig gyda’r deunydd newydd. Yn sicr mae adlais o’r hen sŵn yn ‘Dim Maddeuant’, ond gydag awgrym clir o’r ffreshni y gallwn ddisgwyl ar yr EP newydd.

Record: Pan Fod y Môr Dal Yna? – Tegid Rhys

Mae Tegid Rhys o gwmpas ers peth amser, gyda chwpl o senglau’n ymddangos ganddo’n ddigidol.

Heddiw mae’r cerddor gwerin o Lŷn yn rhyddhau ei albwm cyntaf dan yr enw Pam fod y Môr Dal Yna?

Os ydy enw’r albwm yn swnio’n gyfarwydd, mae hynny mwy na thebyg oherwydd ei fod o wedi rhyddhau trac o’r un enw yn 2017.

Mae’r albwm allan ar label Recordiau Madryn, sef label y cerddor ei hun, ac mae Tegid hefyd yn rhyddhau’r trac ‘Terfysg Haf’  fel sengl / prif drac oddi ar yr albwm.

Cafodd Pam Fod y Môr Dal Yna? ei chynhyrchu a’i chymysgu gan Tegid Rhys ac Aled Hughes (Cowbois Rhos Botwnnog / Blodau Papur), gydag Aled hefyd yn chwarae amryw o offerynnau ar yr albwm. Y cerddorion eraill sydd wedi cyfrannu at yr albwm ydy Dafydd Hughes (drymiau), Euron Jones (gitâr ddur bedal) a Heledd Haf Williams (llais).

Recordiwyd yr albwm dros gyfnod o ddwy flynedd mewn stiwdio’s amrywiol gan gynnwys Stiwdio Drwm, Llanllyfni, a Stiwdio Carneddi, Bethesda. Bu Tegid hefyd yn recordio’n helaeth yn ei stiwdio ei hun.

Bydd rhifyn newydd Y Selar, sydd allan am hanner nos, nos Sadwrn yma (hynny ydy ar ôl i ni ddatgelu enillwyr olaf Gwobrau’r Selar yn Aber) yn cynnwys Sgwrs Sydyn gyda Tegid Rhys, ynghyd ag adolygiad o’r albwm – mynnwch gopi!

Dyma’r trac sy’n rhannu enw’r albwm:

 

 

Artist: Los Blancos

Un o’r grwpiau sydd wedi datblygu fwyaf dros y deuddeg mis diwethaf, ac mae’n wythnos arwyddocaol arall i Los Blancos.

Maen nhw’n chwarae mewn dau gig mawr penwythnos yma, sef gig Gellir Gwell yng Nghaerdydd nos Wener, ac wrth gwrs Gwobrau’r Selar nos Sadwrn.

Wythnos diwethaf roedden nhw’n rhyddhau eu sengl ddwbl ddiweddaraf, sef ‘Ti Di Newid / Cadw Fi Lan’ ac mae ‘na addewid o albwm newydd yn fuan iawn.

A gallwch chi ddysgu mwy am gynlluniau’r albwm yn ein cyfweliad gyda Los Blancos yn rhifyn newydd Y Selar, lle bydd eu hwynebau pert yn llenwi’r clawr hefyd!

Dyma un hanner y sengl ddwbl newydd, ‘Ti Di Newid’:

 

 

Un peth arall…: Fideo ‘Tafla’r Dis’

Un peth trawiadol sydd wedi dal llygad craff Y Selar dros yr wythnos ddiwethaf ydy fideo newydd ar gyfer trac ‘Tafla’r Dis’ gan Mei Gwynedd.

Rhyddhaodd Mei y sengl ddiwedd mis Tachwedd fel rhagflas o’i EP newydd o’r un enw sydd bellach wedi’i ryddhau hefyd, a nawr mae fideo animeiddio ardderchog wedi ymddangos ar-lein.

O dyrchu’n ddyfnach, daw i’r amlwg mai Lucy Jenkins, fydd siŵr o fod yn fwy cyfarwydd dan ei henw Twitter, ‘Drawn to Ice Hockey’, sy’n gyfrifol am y fideo ac mae’r stori’n un ddifyr.

“Fi’n ffan mawr o gerddoriaeth Mei ac o’n i’n ei nabod e cyn dechrau’r fideo” meddai Lucy.

“Felly o’n i’n meddwl bydde’n syniad cŵl i animeiddio rhan o ‘Tafla’r Dis’ i ymarfer animeiddio a trio impresso fe tipyn bach, haha.”

“Nes i benderfynu peidio dweu’tho fe yn ystod y broses o greu’r clip cynta…cyn rhoi’r clip ar Twitter ac Instagram fi ac yn ffodus, odd Mei yn rili hoffi fe.”

“Nath e ofyn i fi os o’n i moyn neud fersiwn llawn, felly dyna beth nes i.”

Yn sicr mae’r gwaith gorffenedig yn werth chweil, a gobeithio y gwelwn ni fwy o fideos cerddoriaeth tebyg yn ymddangos ganddi yn y dyfodol agos!