Pump i’r Penwythnos – 15 Mawrth 2019

Gig: Mellt, Adwaith – Neuadd Goffa Treletert, Sir Benfro – 16/03/19

Dim llwyth o gigs yn cael ei cynnal dros y penwythnos wrth i bawb ganolbwyntio ar y rygbi mae’n siŵr,  ond mae’r safon yn uchel.

Un band fydd yn brysur ydy Adwaith, gyda dau gig yn dilyn eu taith DU diweddar gyda Joy Formidable.

Mae cyfle i weld Adwaith yng Nghaerdydd heno wrth iddyn nhw berfformio yng Nghlwb Ifor Bach gyda Lewys ac Eadyth hefyd ar y leinyp – gig da.

A wedyn maen nhw’n perfformio yn Sir Benfro nos Sadwrn yn Neuadd Goffa Treletert…a be well na gig mewn neuadd bentref. Mae Mellt yn chwarae hefyd mewn noson a drefnir ar y cyd rhwng Sel-sig a Span Arts.

Os ydach chi’n chwilio am gig yn y gogledd dros y penwythnos, ac yn y gogledd-orllewin yn benodol, yna beth am daro draw i Blas Pentwyn ger Wrecsam i weld Blodau Papur.

Cân: ‘Dyffryn’ – Casi

Digon tawel fu hi o ran cerddoriaeth gan Casi (Casi Wyn) ers cwpl o flynyddoedd, ond mae hi wedi bod yn brysur iawn yn gweithio’n ddiwyd yn y cefndir mae’n ymddangos.

Roedden ni’n ymwybodol o’r sôn ei bod hi wedi ymuno â label Chess Club, sydd wedi bod yn gyfrifol am ryddhau cerddoriaeth gan enwau amlwg fel Wolf Alice, Jungle a Mumford & Sons. Er hynny, doedd dim llawer o sôn am gerddoriaeth newydd yn ymddangos ganddi…tan nawr!

Ddechrau’r mis, ar Ddydd Gŵyl Dewi, fe ymddangosodd y trac ‘Rooted’ dan yr enw Casi and The Blind Harpist. Yr wythnos hon, mae fideo ar gyfer y trac, sydd wedi’i gyfarwyddo gan ei brawd, Griff Lynch, wedi gyhoeddi ar sianel YouTube Casi.

Os nad ydy hynny’n ddigon, y newyddion ardderchog ydy fod EP cyntaf ei phrosiect newydd allan ddydd Gwener nesaf. Sunflower Seeds ydy enw’r casgliad byr, a bydd nifer cyfyngedig o 250 o gopïau ar gael i’w prynu ar feinyl. Mae modd rhag archebu ar wefannau fel Rough Trade nawr.

O’r hyn rydan ni wedi clywed, mae sŵn yr EP yn blethiad unigryw o gerddoriaeth Celtaidd a phop electronig, gyda llais unigryw ac anhygoel Casi’n cael ei arddangos i’w eithaf.

Mae pump trac at yr EP sef ‘Bloom’, ‘Rooted’, ‘Sunflower Seeds’, ‘One Evening in April’ ac ‘Aderyn’. Ond, chwarae teg iddi mae Casi hefyd wedi llwytho fersiwn Gymraeg o’r sengl ‘Rooted’ dan yr enw ‘Dyffryn’ ar Soundcloud. Mwynhewch….

 

Record: Hedfan – Delwyn Sion

Mae’n ben-blwydd ar un o gerddorion amlycaf Cymru dros y pedwar degawd diwethaf, ac i ddathlu mae Recordiau Fflach wedi rhyddhau albwm o ganeuon gorau Delwyn Sion ddydd Llun.

Hedfan ydy enw’r casgliad newydd ac mae’n cynnwys detholiad o ganeuon gorau Delwyn rhwng 1992 a 2005. Dechreuodd Delwyn ei yrfa gerddorol yn y 1970au, gan ddod i’r amlwg gyntaf fel aelod o’r grwpiau Hergest ac Omega. Yn ddiweddarach mae wedi gwneud ei farc fel canwr-gyfansoddwr unigol, ac yn y broses wedi cyfansoddi cryn dipyn o diwns cofiadwy chwarae teg.

Mae’r casgliad newydd yn cynnwys nifer o’r rheiny, gan gynnwys y ffefrynnau Radio Cymru, ‘Mandela’, ‘Aio!’ ac ‘Un Byd’. Gyda rheiny’n ganeuon bywiog a bachog, mae ‘na hefyd ganeuon teimladwy ar y record newydd gan gynnwys ‘Engyl Gwyn’, ‘Aberfan’ a’r ardderchog ‘Hedfan yn Uwch’, ei ddeuawd gyda Linda Griffiths.

Mae’n debyg mai o’r trac hwnnw mae enw’r albwm yn dod, Hedfan, ac yn ogystal â Linda mae cerddorion gwych Geraint Cynan, Angharad Brinn, Caryl Parry Jones, Myfyr Isaac a Tich Gwilym yn perfformio ar ganeuon y casgliad.

Dyma ‘Hedfan yn Uwch’:

Artist: 9Bach

Mae grŵp gwerin cyfoes Cymreig, 9Bach, wedi hen sefydlu eu hunain fel un o’r artistiaid Cymreig sy’n llwyddo i greu argraff yn rhyngwladol, ac fe fyddan nhw’n rhyddhau cynnyrch newydd fis nesaf.

Fel tamaid i aros pryd nes eu EP acwstig newydd, Noeth, maen nhw wedi rhyddhau fersiwn newydd o’r trac ‘Yr Olaf’ ddydd Gwener diwethaf.

Roedd ‘Yr Olaf’ yn un o draciau albwm diweddaraf 9Bach, Anian, a ryddhawyd yn 2016, ac mae’r fersiwn newydd yn un o bedair o ganeuon sy’n cael triniaeth acwstig gan Lisa Jên a Martin Hoyland ar y casgliad byr newydd.

Y pedwar trac ar yr EP ydy ‘Llyn Du’, ‘Yr Olaf’, ‘Lliwiau’ a ‘Llwybrau’ – y bedair cân wedi ymddangos ar naill ai ail albwm y grŵp, Tincian (2014), neu’r trydydd Anian. Real World Records oedd yn gyfrifol am ryddhau’r ddau albwm, a nhw sy’n cyhoeddi’r EP newydd hefyd.

Bydd yr EP allan ar ddydd Gwener 26 Ebrill, ond yn y cyfamser mwynhewch ‘Yr Olaf’:

Un peth arall…: Rhestrau Byr cyntaf Gwobrau Gwerin

Wythnos diwethaf cyhoeddwyd y newyddion am lansio gwobrau newydd ar gyfer cerddoriaeth werin o Gymru.

Mae’r gwobrau’n bartneriaeth rhwng s’n Trac (Traddodiadau Cerdd Cymru), BBC Radio Wales, Radio Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, a bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn Neuadd Hoddinott yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 11 Ebrill.

Bydd gwobrau’n cael eu cyflwyno mewn nifer o gategorïau, sef:

  • Y perfformiad byw gorau
  • Y grŵp gorau
  • Yr artist unigol gorau
  • Yr albwm gorau
  • Yr artist/ band gorau sy’n dechrau dod i’r amlwg
  • Y gân Gymraeg draddodiadol orau
  • Y gân Saesneg wreiddiol orau
  • Y gân Gymraeg wreiddiol orau
  • Y trac offerynnol gorau

Dros y dyddiau diwethaf mae rhestrau byr rhai o’r categorïau yma wedi eu datgelu ar raglenni radio amrywiol gan gynnwys rhaglenni Radio Cymru Lisa Gwilym ac Aled Hughes, ynghyd â rhaglen Mark Radcliffe ar Radio 2.

Dyma’r rhestrau a gyhoeddwyd hyd yma:

Band Gorau sy’n Dechrau Dod i’r Amlwg: No Good Boyo; Tant; The Trials of Cato; VRï

Grŵp Gorau: Alaw; Calan; Jamie Smith’s Mabon; VRï

Y Gân Cymraeg Wreiddiol Orau: Bendigeidfran – Lleuwen; Cân y Cŵn – Gwyneth Glyn; Sŵn ar Gardyn Post – Bob Delyn a’r Ebillion; Y Gwyfyn – The Gentle Good

Cadwch olwg am gyhoeddiadau pellach ar dudalen Facebook Gwobrau Gwerin Cymru ac ar eu ffrwd Twitter.