Pump i’r Penwythnos – 15 Tachwedd 2019

Gig: ORIG! – Felinfach a Phwllheli – 15-16/11/19

Ar ôl penwythnos tawelach na’r arfer o ran gigs wythnos diwethaf, mae tipyn o ddewis ledled y wlad yr wythnos hon.

Taith albwm ORIG! gan Gai Toms a’r Banditos ydy ein prif ddewis ni ar gyfer y penwythnos. Dechreuodd y daith yn Galeri Caernarfon bythefnos yn ôl, ond mae’n codi gêr penwythnos yma gyda gig yn y Lyric, Caerfyrddin neithiwr ac yna’n Theatr Felinfach heno, a Neuadd Dwyfor, Pwllheli nos fory.

Mae Kizzy Crawford wedi rhyddhau ei halbwm llawn cyntaf, ac mae’r lansiad swyddogol yn Theatr Chapter, Caerdydd nos Fercher nesaf. Roedd hi’n chwarae neithiwr ym Mar Seler, Aberteifi hefyd, ac mae cyfle i’w gweld hi yng Nghaffi Blue Sky, Bangor heno.

Dau gyfle i weld Breichiau Hir yn perfformio penwythnos yma hefyd, gyda TJ Roberts a Cities yn cefnogi. Maen nhw yn Le Pub, Casnewydd heno, ac yna The Mother’s Ruin, Bryste nos fory.

Mae gig bach da yng Nghaerdydd heno gyda Mellt, Gwilym a Mari Mathias yn chwarae yn The Portland House.

Ac yn olaf heddiw, lein-yp mwyaf randym y flwyddyn o bosib a dau fand gwych, ond hollol wahanol, yn chwarae ym Mangor gyda’i gilydd nos fory – H a’r Band gyda chefnogaeth gan Kim Hon yn Pontio.

Dyma Gai yn cyhoeddi manylion llawn y daith:

 

Cân: ‘Tynnu ‘Mlaen’ – Blind Wilkie McEnroe

Mae sengl newydd sbon Blind Wilkie McEnroe allan ar label Recordiau I KA CHING heddiw.

‘Tynnu ‘Mlaen’ ydy enw trac newydd y grŵp a ddaeth i’r golwg llynedd, a hon ydy’r gân gyntaf i ymddangos o’r EP newydd sydd ar y gweill ganddynt. Y gobaith ydy bydd y record fer yn cael ei rhyddhau yn gynnar yn 2020.

Mae ‘Tynnu ‘Mlaen’ yn adeiladu ar sŵn unigryw Blind Wilkie McEnroe o ganu’r felan seicadelic – templed cerddorol a archwiliwyd gan y band ar eu EP cyntaf a ryddhawyd yn 2018.

Mae’r band dwyieithog o Ogledd Cymru hefyd wedi creu fideo i gyd-fynd â’r sengl, ac roedd cyfle cyntaf i chi weld y fideo ar wefan Y Selar ddydd Mawrth.

Mae’r trac newydd yn tynnu gwaed newydd, diddorol i’r hen arddull canu gwlad, trwy ddefnyddio strwythur cordiau a harmonïau annisgwyl.

Dyma’r fideo i chi unwaith eto:

 

Record: Lloer – Brigyn

Mae Brigyn yn rhyddhau eu halbwm newydd ar label Gwynfryn Cymunedol heddiw.

‘Lloer’ ydy enw record hir ddiweddaraf y ddau frawd Ynyr ac Eurig Roberts,  a dyma ydy seithfed albwm Brigyn mewn gyrfa sy’n ymestyn dros bymtheg blynedd erbyn hyn.

Mae’r record hir newydd yn gasgliad o ganeuon newydd, ynghyd â thraciau sy’n deillio o berfformiadau a sesiynau byw arbennig, a hynny’n fwriadol er mwyn crynhoi rhan ychwanegol o hanes Brigyn dros y ddegawd a hanner diwethaf.

Ymysg y traciau gaeafol, hiraethus, twymgalon, mae llu o gyfranwyr cyfarwydd iawn gan gynnwys Bryn Terfel, Linda Griffiths (Plethyn), Meinir Gwilym a Gareth Bonello (The Gentle Good).

Dechreuodd Ynyr ac Eurig Roberts eu gyrfa gerddorol fel aelodau o’r band Epitaph o ardal Caernarfon, cyn mynd ymlaen i ffurfio’r ddeuawd Brigyn.

Mae’r gân ‘Oer’ o’r casgliad newydd yn faled wreiddiol, a ysgrifennwyd ar noson oer yng nghanol gaeaf 2017. Mae’n gân sy’n cyfleu teimlad a sain yr albwm.

Mae gig lansio’r albwm yn cael ei gynnal yn Neuadd St Catherine, Pontcanna heno a bydd CDs ar gael i’w prynu yno.

Mae lot o ganeuon yr albwm yn Nadoligaidd iawn, ond mae hi’n lot rhy fuan i ddechrau chwarae caneuon Nadoligaidd tydi! Mae trac olaf y casgliad newydd ychydig yn llai Nadoligaidd, felly dyma ‘Fy Nghân i Ti’ gyda Linda Griffiths:

 

Artist: Twinfield

Mae sengl newydd yr artist electronig Twinfield allan heddiw.

‘Cariad Sawl Ochr’ ydy enw’r sengl newydd sydd allan ar label Recordiau Neb, ac fydd ar gael i’w lawr lwytho am ddim.

Twinfield ydy prosiect y cerddor Tom Winfield sydd hefyd yn rheoli Recordiau Neb. Daeth i’r amlwg yn gyntaf yn 2016 wrth ryddhau’r sengl ‘I Afael yn Nwylo Duw’ – cân a ddewiswyd ar frig rhestr ‘10 Uchaf Caneuon 2016’ Uwch Olygydd Y Selar ar Golwg360.

Ers hynny mae wedi rhyddhau tri chasét, gan gynnwys ‘Atgenhedlu / Kim Kardashian ym mis Mawrth 2018. Mae’r sengl newydd yn dod o EP nesaf Twinfield, Dechreuwyr, Cawliau a Dysglau Ochr, sydd allan yn fuan.

Mae Recordiau Neb, sydd hefyd yn gyfrifol am ryddhau cynnyrch Ani Glass, wedi dathlu tair blynedd o fodolaeth yn ddiweddar ac mae rhyddhau’r trac yma yn ran o’r dathliadau.

Dyma’r unig drac Twinfield y gallwn ni rannu gyda chi ar hyn o bryd – ‘Siwrnai Saff’ a ryddhawyd fel rhan o gyfres Senglau Sain llynedd:

 

Un peth arall…: Enwebwch dros Wobrau’r Selar

Ydy, mae’r amser yna wedi cyrraedd i ddechrau meddwl o ddifrif am Wobrau’r Selar unwaith eto, ac mae modd i chi enwebu ar gyfer amryw gategorïau’r Gwobrau nawr.

Er mwyn ein helpu i lunio rhestrau hir ar gyfer y categorïau i gyd, rydan ni’n galw arnoch chi ddarllenwyr ffyddlon i gynnig enwebiadau cyn 27 Tachwedd. Gallwch wneud hynny trwy lenwi’r ffurflen sydd ar wefan Y Selar nawr.

Cofiwch mai gwobrwyo stwff cerddorol y flwyddyn galendr 2019 ydy’r nod, felly dim ond cynnyrch sydd wedi’i ryddhau gyntaf yn ystod 2019 sy’n gymwys. Bydd holl gynnyrch y flwyddyn ar y rhestrau hir sy’n mynd i’r bleidlais gyhoeddus, ond rydan ni’n arbennig o awyddus i chi enwebu ar gyfer y categorïau eraill fel Digwyddiad Byw, Band Gorau a Seren y Sin.

Mae manylion llawn y gwobrau, a beth sy’n gynnwys yng nghanllawiau Gwobrau’r Selar.

Penwythnos 14-15 Chwefror fydd dyddiad Gwobrau’r Selar y tro yma – nodwch hwn yn eich dyddiaduron. Bydd mwy o wybodaeth am y digwyddiad byw, a sut i brynu tocynnau, yn cael eu cyhoeddi’n fuan iawn.