Gig: Huw Chiswell, Elidyr Glyn – Bandstand, Aberystwyth – 18/08/19
Ar ôl wythnos lawn o gigs yn y Steddfod, mae’r penwythnos yma’n dawel iawn mewn cymhariaeth.
Prif ffocws byd cerddorol Cymru ydy Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn y Bannau Brycheiniog, ac mae cyfle i ddal Gwenno yn perfformio yno heno ar lwyfan ‘Far Out’.
Prin iawn ydy’r artistiaid Cymraeg yn y brif ŵyl eleni yn anffodus, er bod swp wedi perfformio ar lwyfan ‘Settlement’ yr ŵyl dros y dyddiau diwethaf. Wedi dweud hynny, mae cyfle i weld Adwaith ar y ‘Moutain Stage’ nos fory.
Fel arall, mae gig bach prynhawn Sul digon da yr olwg yn Aberystwyth. Huw Chiswell ac Elidyr Glyn sy’n perfformio yn y gyntaf o gyfres Gigs Cantre’r Gwaelod eleni, gyda’r cyfan yn dechrau am 2:30.
Os ydach chi yng Nghaernarfon pnawn ma, ac awydd diod fach ar ôl gwaith, yna be am daro draw i’r Galeri lle bydd y ferch leol sydd wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd bellach, Sera, yn perfformio am 5:30.
Cân: ‘O’n Ni’n Ffrindia’ – Papur Wal
A hwythau wedi rhyddhau EP yn gynharach yn y flwyddyn Papur Wal wedi rhyddhau sengl ddwbl newydd fel dilyniant ddydd Gwener diwethaf, 9 Awst.
Un trac Cymraeg, ac un Saesneg sydd wedi eu rhyddhau’n ddigidol ganddynt ar label Recordiau Libertino, sef ‘O’n ni’n Ffrindia’ a ‘When He’s Gone’.
Mae wedi bod yn flwyddyn brysur i’r triawd hyd yma eleni yn dilyn rhyddhau’r EP ‘Lle yn y Byd Mae Hyn?’ ym mis Mawrth, gan gigio’n rheolaidd ers hynny i hyrwyddo’r casgliad byr. Bu iddynt hefyd ffilmio fideo poblogaidd iawn ar gyfer y trac ‘Y Weriniaeth Tsiec’ ar gyfer Ochr 1.
Roedd y grŵp i fod i ddathlu rhyddhau eu cynnyrch diweddaraf gyda gig ym Maes B yr Eisteddfod Genedlaethol nos Wener, nes i’r ŵyl ymylol gael ei chanslo oherwydd y rhagolygon o dywydd difrifol.
Yn lle hynny, bu iddynt berfformio fel rhan o noson funud olaf a drefnwyd yng nghlwb y Legion, ger sgwâr Llanrwst nos Sadwrn gyda 3 Hwr Doeth, Kim Hon, Mellt, Pys Melyn a Sen Segur hefyd yn perfformio. Stoncar o gig yn ôl pob sôn – gwaith da pawb.
Dyma ‘O’n ni’n Ffrindia’:
Record: Y Gwirionedd Am… – Boff Frank Bough
Ar ôl eu gig ar Lwyfan Perfformio’r Eisteddfod Gendedlaethol, mae’r grŵp o ddiwedd y 1980au, Boff Frank Bough wedi rhoi llwyth o draciau ar Soundcloud.
Daeth y grŵp o Ddyffryn Conwy ynghyd unwaith eto i chwarae ar lwyfan perfformio’r Eisteddfod yn Llanrwst ar ddydd Sadwrn cyntaf yr Eisteddfod.
Ers hynny maent wedi creu safle Soundcloud newydd gan lwytho deuddeg o draciau ar y safle. Daw’r traciau i gyd o’r albwm ‘Y Gwirionedd Am’ a ryddhawyd yn wreiddiol ar gasét ym 1989.
Roedd Boff Frank Bough yn cynnwys aelodau o ardal Abergele a Llanrwst, rhai ohonynt yn gyfarwydd iawn diolch i brosiectau cerddorol mwy diweddar, gan Alun Tan Lan (Y Niwl, Serein) ac Aled Roberts (Dau Cefn) yn arbennig. Mae cyfweliad gyda nhw yng nghylchgrawn Golwg wythnos yma os welwch chi gopi ar y silff.
Dyma un o ganeuon y casgliad, ‘Derek Batey’:
Artist: No Good Boyo
Mae’r grŵp gwerin o Gymru, No Good Boyo, wedi ennill gwobr arbennig yng ngŵyl werin enwog Lorient yn Llydaw wythnos diwethaf.
Cipiodd y grŵp wobr y ‘Band Loïc Raison’. Mae’r wobr yn cael eu dyfarnu i’r grŵp newydd gorau yn yr ŵyl bob blwyddyn.
Ddylai eu llwyddiant ddim bod yn syndod mawr mewn gwirionedd gan eu bod nhw’n bach o siwpyr grŵp gwerin sy’n cynnwys rhai o gerddorion gwerin gorau Cymru. Mae’r grŵp yn cynnwys aelodau sydd hefyd yn y bandiau Calan a VRï.
Dyma nhw’n perfformio ‘Bwmb’ mewn gŵyl Celtic Gathering, Ynys Manaw, llynedd:
Un peth arall…: Alffa’n dangos eu lliwiau gwleidyddol?
Digwyddiad bach rhyfedd iawn byddai rhai efallai wedi colli ym Maes B wythnos diwethaf oedd hwnnw’n ymwneud ag Alffa ac arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Rŵan, mae Price yn dipyn o dŵd ac yn aml yn cael ei weld yn mwynhau gigs Cymraeg. Felly oedd hi nos Fercher diwethaf wrth iddo fwynhau pencampwyr Spotify Cymru, Alffa ar lwyfan Maes B.
Yr hyn na fyddai wedi disgwyl yn y gig oedd cael ei daro ar ei ben gan drumstick!
Erbyn dydd Iau roedd fideo yn dechrau ymddangos ar Twitter yn dangos arweinydd Plaid Cymru, a ‘mab y darogan’ ym marn nifer, yn dycio’n aflwyddiannus i osgoi drumstick yn hedfan trwy’r awyr tuag ato.
Daeth eglurhad, ac ymddiheuriad yn ddiweddarach gan Alffa wrth iddynt egluro bod Sion, eu drymiwr, wedi taflu ei ffyn i’r dorf ar ddiwedd y gig ac yn disgwyl i rywun eu dal.
Chwarae teg, mae Adam Price wedi gweld yr ochr ddoniol i’r stori a datgan ei fod dal yn ffan o Alffa, gan annog pawb i brynu eu sengl ddiweddaraf.
Lle ond Steddfod eh!
— Gruffydd Eirug (@Gruffydd_E_D) August 9, 2019