Gig: Gig Vale – CPD Nantlle Vale, Penygroes 17/05/19
Llond lle o gigs penwythnos yma wrth i dymor y gwyliau ddechrau o ddifrif!
Amhosib anwybyddu’r hyn sy’n digwydd mewn lleoliadau amrywiol yn Wrecsam, sef gŵyl ardderchog Focus Wales. Gormod ar y gweill i’w rhestru yno dros y penwythnos, a llwyth o artistiaid Cymraeg yn perfformio, ond rhai pigion i chi – bydd Alffa yn Saith Seren heno (Gwener), Gwilym yn yr un lleoliad nos fory (Sadwrn) a Colorama hefyd nos fory yn…ie, rydach chi wedi dyfalu’n gywir, Saith Seren!
Mae’n benwythnos prysur iawn i Candelas gan ddechrau heno yn CellB, Blaenau Ffestiniog. Mae Mei Gwynedd ac Yr Oria yn cefnogi – clincar o leinyp.
A Candelas sy’n hedleinio ein prif argymhelliad y penwythnos yma, sef Gig Vale. Hefyd yn perfformio yn yr ŵyl ardderchog yma yng nghlwb pêl-droed Nantlle Vale ddydd Sadwrn mae Gai Toms, Phil Gas a’r Band ac I Fight Lions.
Gŵyl arall boblogaidd iawn sy’n digwydd penwythnos yma ydy Tregaroc yn Nhregaron. Dyma chi ŵyl sydd wedi sefydlu ei hun ers sawl blwyddyn, gyda gigs yn nhafarndai tref leiaf Ceredigion yn ystod y dydd, a gig mawr yn y Clwb Rygbi gyda’r hwyr. Mae adloniant ar y nos Wener hefyd eleni ar ffurf noson Cabarella. Mae gig y nos Sadwrn eleni’n cynnwys Dafydd Iwan, Yr Eira a Baldande ond mae’r tocynnau wedi hen werthu allan. Ond na phoener, mae cyfleoedd i weld Cowbois Rhos Botwnnog, Einir Dafydd, Sorela, Bwncath a Catsgam mewn tafarndai amrywiol yn ystod y dydd.
Un ŵyl arall i orffen, sef Gŵyl Gelli yn Gellilydan…., ond rhagrybudd, ma’r Moniars yn chwarae yno.
Cân: ‘Yn y Bôn’ – Elis Derby
Mae sengl newydd Elis Derby, ‘Yn y Bôn’ allan ar Recordiau Hufen heddiw.
Mae Elis yn enw a llais cyfarwydd i ni, wedi bod yn aelod o’r grŵp roc o Fangor, Chwalfa, cyn dechrau gwneud enw i’w hun fel artist unigol llynedd, gan gyrraedd rownd derfynol Brwydr y Bandiau Maes B a Radio Cymru ym Mae Caerdydd fis Awst.
‘Yn y Bôn’ ydy enw sengl ddiweddaraf y gŵr ifanc ac mae’n cael ei rhyddhau ar label Recordiau Hufen.
Bu i Elis rhyddhau sengl yn gynharach yn y flwydyn, sef ‘Prysur yn Gneud Dim Byd’ ym mis Ionawr, a cyn hynny roedd wedo rhyddhau’r sengl ddwbl ‘Sut Allai Gadw Ffwrdd / Myfyrio’ ym mis Hydref llynedd.
Yn ôl y cerddor, ysgrifennwyd ‘Yn y Bôn’ mewn amgylchiadau tebyg iawn i’w sengl ddiweddaraf, sef yn bored mewn fflat ym Manceinion ac yn awchu i ffeindio criw o bobl tebyg i gyflawni rhywbeth a’u hamser.
Er hynny, mae Elis wedi dilyn cyfeiriad ychydig yn wahanol gyda’r sengl newydd, gan gyflwyno sŵn ychydig yn drymach, wedi’i ddylanwadu’n drwm gan Velvet Underground a Nirana.
Record: Europa – Ffrancon
Mae’r cerddor electroneg arbrofol, Ffrancon, wedi rhyddhau ei albwm diweddaraf ‘Ewropa’ ar y prif lwyfannau digidol ers dydd Gwener diwethaf.
Roedd y cerddor, Geraint Ffrancon, eisoes wedi rhyddhau’r casgliad ar ei safle Bancamp ers rhai wythnosau, ond bellach mae ar gael i’w ffrydio a lawr lwytho ar Spotify a’r llwyfannau digidol amlwg eraill hefyd.
Ewropa ydy enw’r casgliad newydd, ac mae’n cynnwys 27 draciau – un ar gyfer pob gwlad fydd yn parhau’n aelodau o’r Undeb Ewropeaidd unwaith bydd Prydain wedi gadael.
Mae’n gysyniad syml, sydd i’w ddehongli orau gan y gwrandäwr. Mae rhai o’r traciau’n swnio’n gadarnhaol, eraill yn felancolaidd, ac eraill yn gwyro rhwng gobaith ac anobaith o fewn ychydig funudau.
“Pan ddigwyddodd y bleidlais, fel llawer o bobl creadigol, teimlais yn gryf bod angen i mi ymateb i’r achlysur hanesyddol hwn” meddai Geraint.
“Nid dicter na’ chasineb oedd y prif emosiwn a deimlais, ond teimlad o golled a thristwch dwys iawn – bod hanes yn symud ymlaen ac yn fy ngadael i ar ôl. Mae ’na deimlad hiraethus iawn yn perthyn i’r caneuon.
“Er gwaethaf yr holl ofid, dwi hefyd yn gweld ‘Ewropa’ fel albwm eithaf positif a dyrchafol. Yn dweud ‘ffwcia ti’ i bawb sydd eisiau gadael Ewrop, oherwydd allwn ni fyth adael Ewrop – ry’n ni’n rhan ohono ac fyddwn ni felly am byth.”
Mae’r casgliad newydd ar gael yn ddigidol yn unig ar hyn o bryd. Dyma’r trac ‘Portugal’ i roi blas o’r casgliad i chi
Artist: Kim Hon
Mae ‘na rhyw sôn wedi bod am Kim Hon ers peth amser gyda gig Sadwrn Barlys, Aberteifi yn ddiweddar a’u henw’n ymddangos ar boster Twrw Trwy’r Dydd yng Nghaerdydd ddiwedd y mis.
Nawr, mae rhagor o wybodaeth am y grŵp yn dechrau dod i’r amlwg, ac yn y benodol y ffaith bod eu sengl ‘Twti Ffrwti’ yn cael ei rhyddhau ar 31 Mai.
Kim Hon ydy band newydd Iwan Fôn, enigma o ganwr Y Reu. Iwan arall, sef Iwan Llŷr ar y gitar ac allweddellau, ydy aelod craidd arall y grŵp.
Mae ‘Twti Ffrwti’ yn llawn curiadau cynhyrfus a slacyr gyda dylanwad bandiau electroneg Cymraeg fel Tŷ Gwydr a Traddodiad Ofnus yn amlwg i’w weld. Mae’r gân yn sôn am bach o bob dim, o fynyddoedd, i ysgytlaeth, i bartïo, i’r lliw porffor, i ddiflastod, i yfed yn yr haul, i ysmygu, i Swper Ted ac i hyd yn oed dyrchafiad Aston Villa…!
Cynhyrchwyd y gân gan Robin Llwyd, ei chymysgu gan Steffan Pringle ac fe’i mastrwyd gan Charlie Francis. Recordiau Libertino sy’n rhyddhau.
Y newyddion da pellach ydy nad oes rhaid aros nesa diwedd y mis i glywed ‘Twti Ffrwti’, jyst cliciwch y botwm isod.
Un peth arall…: Gŵyl Aber
Mae Y Selar yn falch iawn i allu helpu trefnu gŵyl newydd sbon yn Aberystwyth ym mis Gorffennaf eleni – Gŵyl Aber.
Prif nod yr ŵyl, fydd yn digwydd yng Nghlwb Rygbi Aberystwyth, ydy codi arian at yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron yn 2020, ond mae hefyd yn ymgais i weld oes modd sefydlu rhywbeth rheolaidd yn y dref ger y lli.
Yr wythnos hon rydan ni wedi dechrau cyhoeddi enwau’r artistiaid sy’n perfformio ar 5 Gorffennaf – un bob nos dros y dair noson ddiwethaf, ac un arall i ddilyn heno. Yr enwau sydd wedi eu cyhoeddi hyd yma ydy Candelas, Gwilym Bowen Rhys a Bwca…ac mae sawl artist gwych arall i’w cyhoeddi dros y dyddiau nesaf.
Cadwch olwg am yr wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r ŵyl newydd ar y digwyddiad Facebook, a chyfrif Twitter Gŵyl Aber – @gwylaber.