Pump i’r Penwythnos – 18 Hydref 2019

Gig: Gŵyl Sŵn – Lleoliadau Amrywiol, Caerdydd – 18-20/10/19

Mae’r llwybrau i gyd….wel, nifer ohonyn nhw ond ddim i gyd…yn arwain i gyfeiriad Caerdydd y penwythnos yma, ac i Ŵyl Sŵn. Yn ôl yr arfer mae llwyth o artistiaid yn perfformio mewn lleoliadau amrywiol ledled y ddinas. Looot gormod o artistiaid i’w rhestru ond dyma pryd a lle gallwch chi ddal rhai o’r artistiaid Cymraeg:

Gwener

22:00 – Gruff Rhys @ Tramshed

Sadwrn

17:00 – Gwilym @ O’Neills

19:45 – Mr @ Kongs

21:00 – Ynys @ Kongs

00:30 – Chroma @ Kongs

15:15 – Papur Wal @Jacobs

21:30 – Tri Hŵr Doeth @ Fuel

20:15 – HYLL @ Old Maket Tavern

14:30 – Elis Derby @ The Moon

15:00 – Eadyth @ Ten Feet Tall

Sul

15:00 – Casi @ Clwb Ifor Bach

21:00 – Alffa @ Fuel

17:00 – Melin Melyn @ Old Market Tavern

19:00 – Ani Glass @ Old Market Tavern

22:00 – Kim Hon @ The Moon

Digon o ddewis fana, a llwyth o artistiaid di-Gymraeg hefyd wrth gwrs!

Mae ‘na dipyn o gigs eraill ledled y wlad hefyd yn enwedig heno, nos Wener 18 Hydref.

Gig hyfryd iawn ym Merthyr heno gyda Lleuwen yng nghwmni’r chwiorydd Kizzy Crawford ac Eadyth – Theatr Soar. Yn y De Orllewin wedyn mae Los Blancos a SYBS yn perfformio yn ein hoff leoliad sef Bar y Selar yn Aberteifi!

Symud i’r Gogledd Ddwyrain wedyn, ac i Dŷ Pawb yn Wrecsam lle mae taith Blodau Papur yn parhau heno, gyda chefnogaeth gan Mared Williams. Mae noson olaf y daith nos Sadwrn yn y Galeri, Caernarfon.

Gig arall sy’n digwydd yng Nghaernarfon penwythnos yma ydy hwnnw yng Nghlwb Canol Dre nos Wener gydag Y Cledrau, Trŵbz, a Brez Meja.

Mae taith Bardd, sef prosiect diweddaraf Mr Phormula yn parhau penwythnos yma hefyd, gyda gig yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth nos Wener, ac yna Theatr Hafren, Y Drenewydd nos Sadwrn.

Ac yn olaf, mae taith fach arall yn dechrau penwythnos yma, sef taith hydref 9Bach. Byddan nhw yn Theatr Mwldan, Aberteifi nos Sadwrn, cyn chwarae yng Nghlwb Ifor Bach nos Fawrth  a Chanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth nos Fercher.

 

Cân: ‘Lol’ – Mabli

Ecsgliwsif bach blasus arall i’r Selar nos Fercher wrth i ni gael y cyfle cyntaf i gyflwyno trac o albwm newydd Mabli i’ch clustiau.

Mabli ydy Mabli Tudur o Gaerdydd sydd wedi bod yn perfformio’n rheolaidd ar lwyfannau Cymru ers cwpl o flynyddoedd bellach – bydd rhai’n ei chofio o stoc Brwydr y Bandiau Môn 2017 mae’n siŵr.

Wel, mae ei halbwm cyntaf, Fi yw Fi, yn cael ei ryddhau’n swyddogol ddydd Gwener nesaf, 25 Hydref, ar label JigCal.

Roedd yn bleser mawr gan Y Selar ryddhau un o’r traciau i chi wrando arno wythnos yma, sef ‘Lol’.

 

Record: Mentro – Gwen Màiri

Efallai na fydd pawb yn gyfarwydd â’r enw, ond mae’r rhan fwyaf ohonoch chi’n debygol o fod wedi clywed llais a sŵn telyn Gwen Màiri mewn ambell gig Gwilym Bowen Rhys a rhai o fandiau gwerin eraill amlwg Cymru.

Mae’r gantores amryddawn Gwen Màiri wedi rhyddhau ei halbwm cyntaf heddiw.

‘Mentro’ ydy enw priodol iawn record hir gyntaf Gwen, sydd wedi cyd-weithio â nifer o artistiaid Cymreig amlwg yn y gorffennol, ond sy’n mentro am y tro cyntaf gyda’i chynnyrch ei hun. Mae’r albwm yn dynodi trobwynt yn ei gyrfa – yn ei chymryd o’r byd o gydweithio a cherddoriaeth glasurol a thraddodiadol i’r byd o berfformio fel artist unigol. Ac mae’n hen ddigon talentog i wneud y cam yn llwyddiannus yn ein tyb ni.

Yn dilyn sawl blwyddyn o ymchwilio, ail-ymweld â rhai atgofion ynghyd â rhoi stamp gwreiddiol ar hen gerddi o’r chweched ganrif ac yn defnyddio hen gerddi a ysgrifennwyd gan ei Mam a’i Thaid, dyma albwm sy’n treiddio’n ddwfn i enaid Gwen Màiri.

Mae Gwen wedi gofyn i gwpl o enwau amlwg roi hel llaw iddi gyda’r gwaith recordio, ac mae Gwilym Bowen Rhys  yn ymddangos ar y gitâr, mandolin a’r ffidl tra bod Jordan Price Williams (VRï) ar y soddgrwth.

Recordiau Erwydd sy’n rhyddhau, a rheolwr y label, Aled Hughes, sydd wedi cynhyrchu’r albwm yn Stiwdio Sain.

Artist: Melin Melyn

Mae’r cwestiwn ‘pwy yn union ydy’r Melin Melyn ma’ wedi bod ar wefus sawl person dros y misoedd diwethaf. Fe greodd y grŵp gryn argraff ar gynulleidfaoedd eu gigs cyntaf yn Focus Wales a gŵyl Twrw Trwy’r Dydd ym mis Mai, ac mae’r traciau cwyrci sydd wedi bod yn ymddangos ar eu safle Soundcloud wedi bod yn dal y dychymyg.

Wythnos diwethaf fe gyhoeddodd Y Selar gyfweliad swmpus gyda ffryntman y grŵp, Gruff Glyn, er mwyn dysgu mwy am Melin Melyn ac i’w cyflwyno go iawn i’r byd.

Y newyddion gwych ydy bod sengl Gymraeg cyntaf y grŵp allan heddiw, ‘Mwydryn’ gyda chyfle cyntaf i glywed y trac ar Radio Cymru neithiwr.

Fel y gwelwch chi o’r adran gigs uchod, mae cyfle i’w gweld nhw’n perfformio yng Ngŵyl Sŵn dros y penwythnos, ac o’r hyn rydan ni wedi clywed mae’n werth i chi anelu draw i’r Old Market Tavern erbyn 5:00 pnawn dydd Sul!

 

Un peth arall…: Gwobrau Gwerin Radio 2

Rydan ni wedi rhoi rhywfaint o sylw i Wobrau Gwerin Radio 2 eleni, yn syml iawn gan fod ‘na lawer o artistiaid Cymraeg a Chymreig wedi cyrraedd y rhestrau byr!

Does dim amheuaeth fod y genre gwerin yn gryf yng Nghymru ar hyn o bryd ac mae’n amlwg bod ein hartistiaid yn creu argraff y tu hwnt i Gymru gyda Gwilym Bowen Rhys, Catrin Finch, VRï a The Trials of Cato ar restrau byr gwobrau Radio 2 eleni. Byddwch yn cofio hefyd bod y grŵp ifanc, Tant, wedi eu dewis ar restr fer categori y Band Gwerin Ifanc Gorau.

Roedd llwyddiant pellach i ddau o’r uchod yn y seremoni nos Fercher wrth i Catrin Finch a Seckou Keita ennill y wobr am ‘Grŵp y Flwyddyn’, ynghyd â gwobr ‘Albwm y Flwyddyn’ i The Trials of Cato.

Gwaith da bawb!

Dyma un o draciau Cymraeg albwm y flwyddyn, sef Hide and Hair gan The Trials of Cato – ‘Haf’: