Pump i’r Penwythnos – 19 Ebrill 2019

Gig: Noson Neithiwr – Rascals, Bangor  – 19/04/19

Clamp o gig ym Mangor heno i danio penwythnos y Pasg. Ail lansiad o fath ar gyfer EP Papur Wal, sydd â lein-yp anhygoel sy’n cynnwys 3 Hwr Doeth, SYBS, Los Blancos a Ffracas.

Llwwwwyth o gerddoriaeth yn The Gate, Caerdydd dros y penwythnos hefyd gyda gŵyl Wales Goes Pop. Cwpl o artistiaid o ddiddordeb arbennig i ni fydd yn perfformio ydy She’s Got Spies ac Accu.

Cwpl o gigs prynhawn gan Phil Gas a’r Band dros y penwythnos – y cyntaf yn nhafarn yr Anglesey yng Nghaernarfon bnawn Sadwrn, ac yna bnawn Sul yn Fic Llithfaen.

Tipyn o gigs da yn digwydd nos Sadwrn hefyd, gan ddechrau gyda Meilir Jones yn Neuadd Tal-y-Bont ger Aberystwyth, gyda chefnogaeth gan Bitw a DJ Sgilti.

Un arall ydy gig dau o artistiaid ifanc mwyaf cyffrous y gogledd, Gwilym ac Elis Derby, sydd yn Neuadd Gymunedol Talysarn.

Mae Bwca, y grŵp newydd o’r canolbarth, yn mentro i’r gogledd nos Sadwrn gyda gig yn nhafarn Penlan Fawr, Pwllheli. Ac yn yr un lleoliad bnawn Sul mae cyfle i weld ‘gig blynyddol Sul y Pasg’ Bob Delyn a’r Ebillion.

Nos Sadwrn hefyd mae gig difyr iawn yr olwg yn siop goffi a rum pop-up Cove ym Mangor – Radio Rhydd, Twmffat, Pasta Hull a Lolfa Binc yn perfformio mewn noson sy’n siŵr o fod yn honco bost.

Cân: ‘Bywyd Llonydd’ – Pys Melyn

Ecsgliwsig byd eang i’r Selar ddoe wrth i ni roi’r cyfle cyntaf i chi wrando ar sengl newydd Pys Melyn, ynghyd â gwylio’r fideo ar gyfer y trac ar yr un pryd!

‘Bywyd Llonydd’ ydy enw’r trac newydd, ac fel rydan ni wedi dod i ddisgwyl gan Pys Melyn erbyn hyn, mae’r trac yn un hudol a ryfeddol.

“Jyst cân neshi sgwennu ar ôl gweld cath yn cerddad mewn literal cylchoedd yn rwbio’i hun ar ochr recycling bins” meddai Ceiri o Pys Melyn am y trac newydd. Oes angen dweud mwy?

Record: Pop Negatif Wastad – Pop Negatif Wastad

Cwpl o bytiau difyr o newyddion dros yr wythnos ddiwethaf ynglŷn â phrosiectau cerddorol y DJ enwog Gareth Potter.

Yn gyntaf, cawsom wybod fod ysbryd sin gerddoriaeth danddaearol yr 80au hwyr a 90au cynnar i’w atgyfodi fel rhan o weithgareddau ymylol gŵyl Tafwyl yng Nghaerdydd eleni. Dan arweiniad Gareth Potter a’i gyfaill Mark Lugg, bydd parti i ddathlu ‘Caneuon Gadael yr Ugeinfed Ganrif’ yng Nghlwb Ifor Bach ar nos Wener 21 Mehefin.

Yna, yn ddiweddarach daeth y newyddion fod cryno albwm hunan deitlog ardderchog Pop Negatif Wastad i’w ryddhau ar lwyfannau digidol am y tro cyntaf ar 3 Mai.

Pop Negatif Wastad oedd prosiect Gareth, oedd yn actio ar Eastenders ar y pryd ond oedd hefyd wedi bod yn aelod o’r grŵp tanddaearol, Traddodiad Ofnus, ac Esyllt Anwyl oedd yn aelod o’r grŵp ifanc anarchaidd, Crisialau Plastig.

Rhyddhawyd y cryno albwm ar label recordiau Alan Holmes (un o aelodau craidd y Fflaps ymysg grwpiau eraill, oedd hefyd yn adnabyddus am weithio yn siop recordiau Cob Records ym Mangor), ac fe’i gynhyrchwyd gan Gorwel Owen fu’n gyfrifol am gynhyrchu recordiau cynnar Super Furry Animals ymysg llwyth o fandiau gwych eraill.

Ymysg y 6 trac mae triniaeth acid house pop o gân Ffa Coffi Pawb, ‘Valium’, a hefyd fersiwn o’r gân ‘Kerosene’ gan Big Black’s. Mae’r casgliad yn cynnwys traciau dawns-pop gwreiddiol hefyd – roedd ‘Helo Rhywbeth Newydd’ yn drawiadol iawn, ond mae’n siŵr mai ‘Iawn’ ydy’r uchafbwynt.

Band byrhoedlog, ond cyfraniad hanfodol bwysig i gerddoriaeth pop electroneg yn y Gymraeg.

Dyma’r fideo ar gyfer ‘Iawn’ o gyfres ardderchog Fideo 9:

 

Artist: Band Pres Llareggub

Go brin fod angen cyflwyno Band Pres Llareggub in unrhyw un sy’n darllen Pump i’r Penwythnos – maen nhw’n un o brif grwpiau byw gorau Cymru ers sawl blwyddyn bellach.

Maen nhw’n haeddu ein sylw wythnos yma gan eu bod nhw wedi bod yn taflu eu rhwyd ychydig yn ehangach na’r arfer, trwy berfformio mewn gŵyl adnabyddus yn New Orleans penwythnos diwethaf.

Mae’r ddinas yn Luisiana yn enwog am gerddoriaeth jazz a blws, ac mae perfformio yng ngŵyl French Quarter Festival wedi bod yn uchelgais i’r grŵp ers blynyddoedd yn ôl yr aelodau.

Y newyddion da ydy bydd modd i ni rannu antur Band Pres Llareggub gan fod camerâu S4C wedi dilyn eu taith a bydd rhaglen arbennig yn cael ei darlledu ar nos Iau 6 Mehefin. Yn y cyfamser, gallwch weld ychydig o luniau llonydd o’r daith ar wefan Cymru Fyw y Bîb.

Esgus perffaith i chwarae fideo ‘Croeso’ gan B.P.Ll.:

 

Un peth arall…: Leinyp Gigs nos Steddfod yr Urdd

Yn ôl yr arfer ers sawl blwyddyn bellach, mae Y Selar wedi bod yn helpu llunio arlwy gerddoriaeth gyfoes llwyfan perfformio Eisteddfod yr Urdd.

Bae Caerdydd ydy lleoliad y Steddfod eleni, a bydd mwy o artistiaid cyfoes i’w gweld yn perfformio nag erioed o’r blaen. Yn ogystal â’r prif lwyfan perfformio, bydd llwyfannau acwstig amrywiol ar y maes, a llwyfan arbennig Y Lanfa gyda’r hwyr…ond mwy am rhain yn y man!

Uchafbwynt yr wythnos ers Steddfod Fflint dair blynedd yn ôl ydy gig nos Sadwrn i gloi yr wythnos mewn steil. Bydd nos Sadwrn yn barti priodol unwaith eto eleni, ond y newyddion mawr ydy bydd dau gig nos y tro yma, gyda gig mawr ar y nos Wener hefyd. Ddechrau’r wythnos fe gyhoeddwyd lein-yp gwych y ddau gig.

Band y foment, ac enillwyr pump  Wobrau’r Selar eleni, Gwilym, fydd yn hedleinio’r gig cyntaf ar nos Wener ar lwyfan y maes.  Ac os nad ydy hynny’n ddigon, mae dau o grwpiau eraill mwyaf y sin dros y blynyddoedd diwethaf – Fleur de Lys a Chroma yn cefnogi.

Ac o ran y nos Sadwrn, pwy well i greu naws parti ym Mae Caerdydd na Band Pres Llareggub. Dau o fandiau ifanc mwyaf cyffrous Cymru fydd yn cefnogi – Lewys, a gipiodd deitl ‘Band neu Artist Newydd Gorau’ Gwobrau’r Selar yn gynharach eleni wrth gwrs, a’r grŵp ifanc poblogaidd o’r brifddinas, Wigwam.

Bae Caerdydd fydd y lle i fod ar nos Wener 31 Mai a nos Sadwrn 1 Mehefin felly – cadwch olwg am newyddion ynglŷn â gweddill arlwy’r wythnos.

Gigs nos Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro:

Nos Wener 31 Mai – Gwilym, Fleur de Lys, Chroma

Nos Sadwrn 1 Mehefin – Band Pres Llanreggub, Lewys, Wigwam