Gig: Sesiwn Fawr Dolgellau – 19-21/07/19
Does dim angen edrych ymhell am ein prif ddewis o gig yr wythnos hon gan bod y rhan fwyaf o ffyrdd yn arwain at Ddolgellau! Ond, mae ‘n ambell gig bach neis arall yn digwydd mewn llefydd eraill hefyd.
Gwerth manteisio ar gwpl o gyfleoedd prin i weld Geraint Jarman yn perfformio’n fyw. Mae o yn Sesiwn Fawr nos Sul, ond mae o hefyd yn chwarae yn Neuadd y Dref, Maesteg heno, ac yn Neuadd Ogwen, Bethesda nos fory.
Un arall o hoelion wyth y sin yn chwarae nos fory, wrth i Bryn Fôn berfformio yn nhafarn y Newborough yn Y Bontnewydd.
Ond Sesiwn Fawr ydy prif ddigwyddiad y penwythnos heb os. Llwyth o artistiaid yn perfformio, a dyma rai pigion dyddiol i chi:
Gwener – Y Cledrau, Lewys, Candelas, Gwilym Bowen Rhys
Sadwrn – Bwncath, Geraint Lovgreen a’r Enw Da, Mared Williams, Bwca, Pys Melyn, Papur Wal, Wigwam, Alffa, Glain Rhys
Sul – Estella, Tant, VRï, Geraint Jarman
Cân: ‘Pla’ – Alffa
Dros y penwythnos diwethaf torrodd newyddion mawr – mae Alffa wedi gwneud hi eto!
Ar ôl llwyddiant ysgubol eu sengl ‘Gwenwyn’, sef y gân Gymraeg gyntaf i groesi miliwn ffrwd ar Spotify (agosáu at 3,000,000 erbyn hyn gyda llaw), mae eu sengl ddiweddaraf wedi llwyddo i gyflawni’r gamp hefyd.
‘Pla’ ydy’r ail gân Gymraeg i gael ei ffrydio dros filiwn o weithiau ar Spotify, sy’n gwneud un peth yn gwbl glir – nid ffliwc oedd ‘Gwenwyn’, mae gan Alffa y fformiwla i blesio cynulleidfa eang iawn.
Rhyddhawyd ‘Pla’ ar ddydd Gwener 15 Chwefror, sef nos Wener Gwobrau’r Selar digwydd bod, lle roedd Alffa ar y llwyfan.
Llongyfarchiadau gwresog i Dion a Sion – edrych mlaen i gyflwyno ‘gwobr y miliwn ffrwd’ arall i chi!
Record: Rhamant – Hyll
Dyma chi fand sy’n bygwth cyflawni pethau mawr ers sawl blwyddyn bellach, ond sydd fel petaen nhw’n ddigon hapus gyda’u stoc yn recordio gyda Mei Gwynedd pob nawr ac yn y man, ac yn gwneud ambell gig yng Nghlwb Ifor Bach a lleoliadau eraill yn ardal Caerdydd.
Y newyddion da i ffans Hyll ydy eu bod nhw wedi rhyddhau eu EP newydd, Rhamant, ddydd Gwener diwethaf, 12 Gorffennaf, gyda gig lansio yn….ie, Clwb Ifor Bach!
Chwarae teg, mae Clwb yn agos iawn at galonnau’r aelodau, gymaint felly nes bod cân deyrnged i Stryd y Fuwch Goch, ‘Womanby’ (dyna’r enw Saesneg mwy cyfarwydd ar y stryd) lle mae Clwb wedi’i leoli, ar yr EP newydd.
Un arall o ganeuon yr EP ydy ‘Dydd a Nos’ gyda’i halaw felodig a llais diog – hoffi hon!
Artist: Mared
Artist unigol sy’n dod yn fwyfwy amlwg ar hyn o bryd ydy Mared.
Y Mared dan sylw ydy Mared Williams, fydd yn gyfarwydd i nifer fel prif lais gwreiddiol y grŵp Trŵbz. Bellach mae’n canolbwyntio ar yrfa unigol, a cyhoeddwyd yn ddiweddar ei bod wedi ymuno â label I KA CHING, gan ryddhau’r sengl ‘Dal y Teimlad’ fis diwethaf.
Wythnos diwethaf fe ryddhawyd sengl newydd gan y gantores a ddaw’n wreiddiol o Ruthun, sef ‘Y Reddf’.
Ac, i gyd-fyn â’r sengl mae fideo newydd i’w weld ar sianel Ochr 1:
Un peth arall…: Sianel Video Naw
Bydd y rhan fwyaf o ddarllenwyr Pump i’r Penwythnos yn rhy ifanc i gofio’r rhaglen deledu ddylanwadol Fideo 9.
Roedd y gyfres yn rhoi llwyfan pwysig i gerddoriaeth gyfoes a chelfyddydau eraill ar S4C rhwng 1988 a 1992 gan roi hwb i yrfaoedd nifer o fandiau a cherddorion y cyfnod.
Yr enigma, Eddie Ladd, oedd cyflwynydd y gyfres a chwmni Criw Byw, sef cwmni cynhyrchu Geraint Jarman oedd yn gyfrifol amdani.
Roedd ‘na drysorau cerddorol go iawn ar y gyfres yma – o fideos, i berfformiadau byw a chyfweliadau gyda bandiau ac artistiaid y cyfnod. Mae croeso mawr felly i ymddangosiad sianel newydd ‘Video Naw’ ar You Tube dros yr wythnos ddiwethaf.
Rŵan, mae’n debygol iawn bod y sianel newydd yn gysylltiedig i sianel Ffarout sydd wedi bod yn cyhoeddi fideos cerddorol o’r archif ers cwpl o flynyddoedd bellach, ac yn gwneud gwaith gwych ond yn ddirgel bach.
Mae sawl peth gwych ar y sianel yn barod, gan gynnwys rhaglenni cyfan yn dilyn taith Y Cyrff i Wlad Pwyl, ac un arall yn trafod y sin ddawns ar y pryd.
Rhywbeth byrrach i roi blas i chi, sef y fideo cyntaf i ymddangos ar y sianel a chyfweliad gyda’r grŵp gwych o Gaerdydd, Y Gwefrau: