Pump i’r Penwythnos – 19 Ionawr 2019

Gig: Elis Derby – Pen Deitsh, Caernarfon –  19/01/19

Penwythnos digon tawel o ran gigs wythnos yma, ond cwpl o bethau bach da ar y gweill.

Os ydach chi’n ffansio chydig bach o gerddoriaeth werin, yna pwy well na Gwerinos, sy’n gigio yng Ngwesty’r Marîn, Cricieth heno.

Un arall ar gyfer heno ydy lansiad EP newydd Tafla’r Dis gan Mei Gwynedd – ewch draw i Dafarn y Vic Park yn Nhreganna erbyn 8 os ydach chi yng Nghaerdydd.

Ac os ydach chi yng Nghaernarfon nos fory (Sadwrn) yna galwch mewn i’r Pen Deitsh i weld set gan Elis Derby am 8:30.

Cwpl o gigs bach da yn ystod yr wythnos hefyd, a nos Iau 24 Ionawr yn benodol. Mae Alys Williams yn gwneud gig acwstig yn y Galeri, Caernarfon, a rhywbeth hollol wahanol yng Nghaerdydd gyda Breichiau Hir yn ran o noson yn y Gwdihŵ.

Cân: ‘Y Dieithryn’ – Mr Phormula

Ddydd Sadwrn diwethaf fe ryddhaodd Mr Phormula ei EP diweddaraf, Stranger.

Wrth drafod y casgliad byr gydag Y Selar, fe ddatgelodd y cerddor a bit-bocsiwr dawnus fod thema a neges glir i’r EP, sef ei fod yn aml yn teimlo fel y ‘lone ranger’ o safbwynt cerddoriaeth hip-hop Cymraeg.

Rydan ni wedi canmol Ed Holden (Mr Phormula) sawl gwaith am gynnal fflam hip-hop Cymraeg bron ar ei ben ei hun dros y ddegawd diwethaf, a gallwn ni ond gobeithio bydd y neges ar yr EP yn ysgogi eraill i fentro gyda phrosiect hip-hop. Wedi dweud hynny, bosib iawn ein bod wedi gweld egin fflam newydd yn 2018 ar ffurf 3 Hŵr Doeth – gobeithio y gwelwn ni fwy ganddyn nhw yn 2019.

Mae’r EP yn cynnwys 5 trac, a dyma’n ffefryn ni ar hyn o bryd, ‘Y Dieithryn’:

Record: Tafla’r Dis – Mei Gwynedd

Roedd 2018 yn flwyddyn gynhyrchiol i Mei Gwynedd ac mae’n cynnal y momentwm yn 2019, gydag EP newydd sbon allan heddiw.

Rhyddhaodd Mei y sengl ‘Tafla’r Dis’ ddiwedd mis Tachwedd fel rhagflas i’r record fer newydd, ac mae’r EP yn rhannu enw’r sengl.

Mae Mei wrth gwrs yn un o gerddorion amlycaf ei genhedlaeth,  yn gyn-aelod o Beganifs, Big Leaves, Sibrydion, The Peth ac Endaf Gremlin, ond fe ryddhaodd ei albwm unigol cyntaf, Glas, . Roedd Y Selar yn ddigon ffodus i allu rhoi cyfle cyntaf i chi glywed y sengl ‘Ffordd y Mynydd’ yma ar ein gwefan ym mis Mehefin.

Roedd Glas yn llawn o gerddoriaeth acwstig, hunangofiannol, mae Mei yn dychwelyd i’w wreiddiau roc a rôl gyda’r deunydd newydd.

Dyma’r sengl, ‘Tafla’r Dis’.

 

Artist: Y Ffyrc

Nos Fercher fe wnaethon ni gyhoeddi mai Mark Roberts a Paul Jones oedd i dderbyn gwobr ‘Cyfraniad Arbennig’ Gwobrau’r Selar fis nesaf.

Ers dechrau’r 1980au mae’r ddau wedi bod yn aelodau o rai o fandiau mwyaf a phwysicaf Cymru, ac yn dal yn weithgar gyda Mark yn rhyddhau ei albwm unigol dan yr enw Mr yn yr hydref, a Paul yn aelod o’i fan byw pan fydd yn gigio dros y misoedd nesaf.

Bydd y rhan fwyaf ohonoch wedi clywed am ddau o fandiau’r ddeuawd sef Y Cyrff, a Catatonia.

Ond, er fod y prosiect yn un mwy diweddar, mae’n debygol na fyddwch mor gyfarwydd ag Y Ffyrc.

Prosiect Mark a Paul yn unig oedd Y Ffyrc (sy’n anagram o ‘Y Cyrff’ wrth gwrs) ac fe wnaethon nhw ryddhau eu hunig albwm, Oes, ar label Rasal yn 2006. Fe wnaethon nhw lond llaw o gigs gyda Meic Parry (Winabego, Dipsomaniacs) ac Aled Richards (drymiwr Catatonia) yn ymuno ar gyfer y perfformiadau byw.

Am rhyw reswm, wnaeth Oes ddim llwyddo i ddal y dychymyg ac mae hynny’n annealladwy braidd gan ei fod yn albwm ardderchog!

Dyma un o’r tiwns, ‘Coridor’, yn stiwdio rhaglen Bandit ‘slawer dydd.

 

Un peth arall…: Cofia Fi’n Ddiolchgar

Prosiect cyntaf Mark a Paul oedd Y Cyrff, a ffurfiodd ym 1984 gan ddatblygu’n raddol i fod yn un o brif fandiau Cymru erbyn iddyn nhw chwalu’n gynnar ym 1992.

Dros yr wythnosau nesaf, wrth arwain at benwythnos Gwobrau’r Selar, byddwn ni’n rhannu tipyn mwy o wybodaeth am Y Cyrff, a phrosiectau eraill Mark a Paul. Ond, fel man cychwyn i’ch haddysg ynglŷn â’r grŵp gwych yma o Lanrwst, dyma ni’n rhannu ffilm ddogfen ardderchog sydd i’w gweld fel tair rhan ar sianel YouTube gofodwr, sydd hefyd yn cynnwys fideos sawl un o ganeuon Y Cyrff gyda llaw.

Fe gynhyrchwyd y ffilm ddogfen ar ôl marwolaeth trist gitarydd Y Cyrff, Barry Cawley, yn haf 2000. Barry roddodd ei wersi gitâr cyntaf i Mark, ac roedd hefyd yn dechnegydd gitâr i Catatonia pan oedden nhw’n teithio.

Mae’r rhaglen ddogfen yn cynnwys llwyth o glipiau archif a chyfweliadau gyda’r band a phobl oedd yn agos atyn nhw.

Gwyliwch rhain – dyna fydd eich buddsoddiad gorau o hanner awr heddiw!