Pump i’r Penwythnos – 20 Medi 2019

Gig: Ara Deg – Bethesda – 19-21/09/19

Dim llawer o gigs mawr y penwythnos yma, ond digon o gigs bach eclectig ledled y wlad.

Ond, rydan ni’n dechrau y tu hwnt i Glawdd Offa, ac yn Llundain lle mae’r cerddor gwerin o Ddyffryn Teifi, Owen Shiers, yn perfformio ei sioe ‘Cynefin’ i gynulleidfa’r ‘Campfrire Club’ yng Ngardd Gymunedol Culpeper heno.

Mae Geraint Lövgreen yn weddol brysur ers rhyddhau ei albwm diweddaraf dros yr haf, ac mae cyfle i’w weld yn chwarae yn Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug heno. Cyfle heno hefyd i weld y grŵp jazz ardderchog, Burum, yn perfformio yn Amgueddfa Ceredigion yn Aberystwyth.

Artist arall sy’n perfformio yn Llundain penwythnos yma ydy Thallo, sydd â gig nos Sadwrn yng nghanolfan Voces8, Pear o Legs Records yn The Gresham.

Mae’n benwythnos prysur yn Stiwdio Acapela, Pentyrch gyda dau gig ardderchog yr olwg – mae’r grŵp gwerin o’r Gogledd Ddwyrain, The Trials of Cato yno heno, ac yna gig hamddenol braf yng nghwmni’r anhygoel The Gentle Good nos Sul.

Ond ein prif ddewis ar gyfer y penwythnos ydy gŵyl Ara Deg ym Methesda sy’n cael ei guradu gan Gruff Rhys. Sawl gig da yn Pesda dros y penwythnos gyda cherddorion byd amlwg yn perfformio, a Gruff ei hun yn gwneud dwy sioe yn Neuadd Ogwen nod Sadwrn a nos Sul gyda chynhyrchydd ei albwm newydd, Muzi, yn cefnogi.

Un uchafbwynt arall ym Methesda fydd y gig yn Nhafarn Y Fic gyda Sen Segur yn gwneud ymddangosiad arall ar ôl eu comeback llwyddiannus yn Steddfod Llanrwst, gyda lein-yp gwych sy’n cynnwys Papur Wal, Pasta Hull a Glove.

Cân: ‘Cysgod o Gariad’ – Al Lewis a Gizmo Varillas

Mae Al Lewis yn un sy’n amlwg yn hoff iawn o gyd-weithio gydag artistiaid eraill. Mae wedi rhyddhau deuawdau gyda Meic Stevens, Elin Fflur a Kizzy Crawford ymysg eraill dros y blynyddoedd, ac hefyd wedi gweithio ar brosiectau Paper Aeroplanes a Lewis & Leigh.

Mae ei brosiect diweddaraf yn ei weld yn cyd-weithio â’r cerddor o Wlad y Basg, Gizmo Varillas, i ryddhau sengl newydd ‘Cysgod o Gariad’.

Treuliodd Gizmo ran o’i blentyndod yng Nghaerdydd, ac fe gysylltodd ag Al i holi a fyddai ganddo ddiddordeb mewn ysgrifennu geiriau Cymraeg ar gyfer ei sengl ddiweddaraf, ‘Danza de Sombras’.

Ac mae’r canlyniad yn neis iawn wir:

Record: ORIG – Gai Toms a’r Banditos

Sylw i record hir gafodd ei rhyddhau ddiwedd mis Gorffennaf wythnos yma, ond mae rheswm da iawn am hynny.

I unrhyw un oedd yn ddigon ffodus i fod yno, perfformiad Gai Toms a’r Banditos o’r albwm cysyniadol, ORIG, yn y Tŷ Gwerin ar nos Fercher yr Eisteddfod oedd un o uchafbwyntiau’r wythnos.

Newyddion gwych felly wrth i Gai gyhoeddi manylion taith ORIG ym mis Tachwedd eleni.

Roedd naws theatrig i’r perfformiad yn y Tŷ Gwerin, felly ni ddylai fod yn syndod mai taith theatrau sydd ar y gweill gyda dyddiadau mewn 5 theatr ledled Cymru wedi eu cyhoeddi:

1 Tachwedd – Galeri, Caernarfon

14 Tachwedd – Y Lyric, Caerfyrddin

15 Tachwedd – Theatr Felinfach

16 Tachwedd – Neuadd Dwyfor, Pwllheli

23 Tachwedd – Theatr Twm o’r Nant, Dinbych

Ac mae’n debyg bod tri dyddiad arall i’w cadarnhau yng Nghaerdydd, Llan Ffestiniog ac Ysbyty Ifan, sef y pentref lle magwyd Orig Williams, y reslwr enwog sy’n destun i gywaith diweddaraf Gai.

Rhyddhawyd ORIG, sy’n deyrnged i’r reslwr poblogaidd o Gymro, oedd yn adnabyddus hefyd fel El Bandito, ar 19 Gorffennaf eleni. Recordiau Sain sydd wedi rhyddhau’r casgliad newydd, ac mae’r albwm yn ddathliad o fywyd y cawr o Ysbyty Ifan.

Mae’r albwm wedi’i recordio i gyfeiliant band cysyniadol Gai, sef Y Banditos, ac yn cynnwys cyfraniadau lleisiol merch Orig Williams, Tara Bethan.

Bu tipyn o ganmol ar y casgliad cysyniadol newydd yn barod, a chwarae teg i Gai, tydi o ddim yn un sy’n ofn mentro gyda syniadau gwahanol ac mae ORIG yn sicr wedi dal y dychymyg.

Dyma’r fideo ar gyfer sengl gyntaf yr albwm, ‘Y Cylch Sgwâr’:

 

 

Artist: Tant

Mae’n gyfnod cyffrous i’r grŵp gwerin ifanc o’r Gogledd, Tant, wrth iddyn nhw gael eu henwebu ar gyfer gwobr y Band Gwerin Ifanc Gorau yng Ngwobrau Gwerin Radio 2 eleni.

Pump o ferched talentog ydy aelodau Tant sef Angharad, Elliw, Modlen, Non a Siwan. Cyfarfu’r genod mewn cwrs gwerin a drefnwyd gan Trac yn 2016.

Mae tair o’r aelodau Angharad (telyn), Modlen (llais a gitar) ac Elliw (llais a gitâr) yn dod o Ddyffryn Conwy, roedd Non (telyn a llais) yn ddisgybl yn Ysgol y Creuddyn gerllaw ac mae Siwan (llais a cajon) yn dod o Ynys Môn.  G

Maen nhw’n chwarae cymysgedd o ganeuon traddodiadol, cyfyrs mwy cyfoes a chaneuon unigryw, ac yn rhestru artistiaid gwerin Cymreig amlwg fel Gwilym Bowen Rhys, Gwenan Gibbard, Angharad Jenkins a Patrick Rimes ymysg eu dylanwadau mwyaf.

Fe wnaethon nhw ryddhau sengl ddwbl, ‘Bywyd Rhy Fyr / I Ni’ ar label Recordiau Sain llynedd, ac maen nhw wedi gwneud ambell ymddangosiad teledu ers hynny, gan gynnwys ar Noson Lawen.

Cyrraedd y rhestr fer o wyth ar gyfer y wobr Radio 2 ydy pennod ddiweddaraf llwyddiant y grŵp addawol, a byddan nhw’n darganfod pwy sydd wedi ennill ar 16 Hydref mewn digwyddiad yn Bridgewater Hall, Manceinion.

Dyma nhw’n perfformio ‘I Ni’ ar Noson Lawen:

Un peth arall…: Hel atgofion – SFA yn noddi CPD Caerdydd

Flash-bac fach ddoe wrth i Super Furry Animals ein hatgoffa o un o’i stynts enwocaf, a ddigwyddodd union 20 mlynedd yn ôl i’r mis yma.

Bryd hynny, roedd timau Cymreig sy’n cystadlu yng Nghyngrair Lloegr – Caerdydd, Wrecsam, Abertawe a Chasnewydd, hefyd yn cael cystadlu yng Nghwpan Cymru. A hwythau’n ddilynwyr brwd o bêl-droed, cytunodd y grŵp gwallgof i noddi Caerdydd ar gyfer eu hymgyrch yng Nghwpan Cymru’r tymor hwnnw sef 1999-2000.

Yn ôl y stori BBC ar y pryd, cymysg oedd ymateb y chwaraewyr!

Doedd y Furry’s ddim yn unigryw gyda’r syniad cofiwch, mae sawl grŵp wedi noddi eu hoff dîm. Un o’r enwocaf efallai oedd Wet Wet Wet a noddodd Clydebank FC ym 1993. Mi wnaeth canwr y Stone Roses, Ian Brown noddi Chiswick Homefields yn 2005 hefyd, a tua’r un cyfnod fe efelychodd grŵp arall o Gymru’r Furrys wrth i Goldie Lookin’ Chain noddi eu tîm lleol, Casnewydd.

Mae ‘na un esiampl debyg diweddar yn nes at adre sy’n werth ei nodi hefyd, sef neb llai nag Alffa yn twrio i’w pocedi i noddi un o chwaraewyr CPD Llanrug llynedd, Robin W Thomas…a hynny cyn iddyn nhw ddenu miliynau o ffrydiau Spotify a gwneud eu ffortiwn cofiwch! Halen y ddaear bobl, halen y ddaear…heblaw pan ma Sion yn taflu drumsticks at wleidyddion 😉