Pump i’r Penwythnos – 21 Mehefin 2019

Gig: Gwenno, Lleuwen, Adwaith, Serol Serol, Y Niwl a mwy – Castell Caerdydd – 21/06/19

Lot o gigs ar y gweill penwythnos yma, yn enwedig yn y Brifddinas wrth i Tafwyl fonopoleiddio’r calendr gigs!

Mae’r cyfan yn dechrau heno, gyda’n prif ddewis o gig ar gyfer y penwythnos. Mae Tafwyl yn cydweithio gydag asiantaeth PYST i lwyfannu clamp o lein-yp ar gyfer noson agoriadol yr ŵyl. Tri llwyfan  gyd – y cyntaf gyda DJ Huw Stephens, Serol Serol, Adwaith, Lleuwen a’r Band a’r ardderchog Gwenno. Mae’r ail lwyfan yn cynnig amrywiaeth gwych – Y Niwl yn hedleinio, gyda Zabrinski, Ani Glass a Bitw yn cefnogi,. Ac yn olaf Bragdy’r Beirdd yn cyflwyno Georgia Ruth Williams, Iwan Huws a rhyw ’chydig o farddoniaeth hefyd. Stoncar o gig.

Ac wedyn mae prif arlwy’r ŵyl! Gormod i’w restru dros y dyddiau Sadwrn a Sul yng Nghastell Caerdydd ond ymysg yr enwau mae Band Pres Llareggub, HMS Morris, Mei Gwynedd, Los Blancos, Candelas, Yr Eira, Omaloma ac Ail Symudiad. Mae’r amserlen lawn yn rhaglen yr ŵyl.

Cyn gadael Caerdydd, mae ‘na gwpl o ddigwyddiadau ymylol Tafwyl sy’n edrych yn ddifyr iawn sef noson ReuVival gyda Mark Lugg a Gareth Potter yng Nglwb Ifor Bach heno, ac mae Potter nôl yng Nghlwb Ifor nos Sul ar gyfer Parti Diwedd Tafwyl.

Gan droi ein golygon at y Gogledd, mae gig Heuldro’r Haf gyda Twmffat yn Oriel Caffi Croesor heno, ac mae lansiad albwm newydd Geraint Lovgreen yn y Galeri, Caernarfon, gyda chefnogaeth gan Bwncath.

Os ydach chi yng Ngheredigion nos fory (Sadwrn), mae cyfle i weld y Swynwr o Solfach, Meic Stevens, yng Ngwinllan Llaethliw, ger Aberaeron gyda Linda Griffiths yn cefnogi. Mae un o hoelion wyth eraill y sin, Tecwyn Ifan, hefyd yn ymweld â Cheredigion, gan berfformio ym Mhontrhydfendigaid lle bu’n byw am gyfnod yn yr 80au.

Ac yn olaf, clamp o gig yn Neuadd Goffa Llanllyfni ddydd Sadwrn, sef gŵyl ‘Caeffest’. Y prif enwau sy’n perfformio ydy Bryn Fôn a’r Band, Bwncath, Y Cyffro a Band 6.

 

Cân: ‘Weda i’ – Bwca

Ecsgliwsif arall i wefan Y Selar wythnos yma wrth i ni gynnig y cyfle cyntaf i chi glywed sengl nesaf Bwca ddydd Mawrth.

‘Weda i’ ydy enw sengl newydd y grŵp o’r canolbarth, ac mae’n cael ei rhyddhau’n annibynnol gan y band ar ddydd Gwener 28 Mehefin.

Mae Bwca wedi esblygu’n ddiweddar o fod yn brosiect unigol Steff Rees, i fod yn fand llawn pum aelod. Ac mae’n argoeli i fod yn haf prysur i’r grŵp upbeat, hwyliog, gyda llwyth o slotiau gwyliau wedi’u trefnu.

Mae ‘Weda i’ yn diwn fachog a llawn hwyl arall ganddynt, sy’n siŵr o fod yn ffefryn mawr yn y ffestifals!

 

Record: Bitw – Bitw

Mae albwn cyntaf Bitw wedi’i ryddhau’n swyddogol ddydd Gwener diwethaf, 14 Mehefin.

I’r sawl sydd ddim yn gwybod, Bitw ydy prosiect diweddaraf y cerddor amryddawn Gruff ab Arwel, sydd hefyd yn adnabyddus fel aelod o Eitha Tal Ffranco ac Y Niwl. Mae Gruff hefyd yn gyfrifol am label recordiau Klep Dim Trep, sy’n gyfrifol am ryddhau’r albwm.

Rhyddhawyd sengl gan Bitw, ‘Diolch am eich Sylwadau, David’ yn gynharach yn y flwyddyn, ac mae ei sengl ddiweddaraf o’r enw ‘Love is Happening’ allan ers dydd Gwener 24 Mai.

Yn ogystal â chael ei ryddhau yn ddigidol ac ar CD, mae nifer cyfyngedig o 500 o gopiau’r albwm wedi cael eu rhyddhau ar feinyl gan label Joyful Noise Records o Indianapolis. Mae’r label yn gofyn i artistiaid amlwg ddewis albwm i’w ryddhau bob mis dros flwyddyn, a’r mis hwn tro’r gantores o Gymru Cate Le Bon oedd hi, a dewisodd record hir gyntaf Bitw.

Mae’r copïau feinyl oedd ar werth gan Joyful Noise Records eisoes wedi’i gwerthu i gyd, ond mae dal modd prynu rhai yn uniongyrchol gan Bitw ar ei safle Bandcamp.

Dyma fideo’r sengl ardderchog ‘Diolch am eich sylwadau, David’:

 

Artist: Casi and the Blind Harpist

Wedi cyfnod gweddol dawel, mae Casi yn ôl ac wedi bod yn fywiog iawn dros y cwpl o fisoedd diwethaf.

Casi and the Blind Harpist ydy enw prosiect cerddorol diweddaraf y cerddor o Fethel, ac fe ryddhaodd ei EP newydd, dan yr enw ‘Sunflower Seeds’ ar 15 Mawrth eleni. Label adnabyddus Chess Club sydd wedi rhyddhau’r EP – label sydd wedi bod yn gyfrifol am ryddhau cerddoriaeth gan enwau amlwg fel Wolf Alice, Jungle a Mumford & Sons.

Nawr, mae fideo ar gyfer trac olaf yr EP, ‘Aderyn’, wedi’i gyhoeddi ar-lein ar sianel YouTube Casi. Hon ydy’r unig gân Gymraeg ar y casgliad byr ac mae’n cynnwys lleisiau Côr Seiriol, sef côr merched o Fangor, Caernarfon ac Ynys Môn.

Mae’r fideo sydd wedi’i gyhoeddi ar gyfer y trac yn un animeiddiedig, wedi’i greu gan Lleucu Non. Dyma’r ail fideo i Lleucu greu ar gyfer Casi – roedd y llall ar gyfer y gân ‘One Evening in April’ ac fe’i cyhoeddwyd ar-lein ym mis Ebrill.

 

Un peth arall…: 20 mlynedd ers rhyddhau Guerilla

Roedd dydd Gwener diwethaf yn nodi union 20 mlynedd ers rhyddhau trydydd albwm y Super Furry Animals ar 14 Mehefin 1999.

Rhyddhawyd y record hir gan label recordiau Creation a hynny ar fformatau CD, caset, feinyl a minidisk – llawn fyny pwy sy’n cofio’r minidisk?!

Cyn hynny roedd y grŵp wedi rhyddhau’r albyms Fuzzy Logic (1996) a Radiator (1997).

Cyrhaeddodd yr albwm rif 10 yn siartiau’r albyms Prydenig, ac fe gafodd ei gynnwys ar restrau ‘albyms gorau 1999’ nifer o gyhoeddiadau. Pan gyhoeddodd NME restr ‘100 Albwm Gorau Erioed’ yn 2013, roedd Guerilla yn rhif 311 ar y rhestr.

Rhyddhawyd tair sengl o’r albwm sef ‘Northern Lites’, ‘Fire in My Heart’ a Do or Die’ ond ychydig o lwyddiant a gafwyd mewn gwirionedd – ‘Northern Lites’ oedd y fwyaf llwyddiannus yn cyrraedd rhif 11 yn y siart senglau Prydeinig, ac er gwaethaf ei gwychder, dim ond rhif 25 gyrhaeddodd ‘Fire in My Heart’!

Doedd ‘na ddim traciau Cymraeg ar Guerilla yn anffodus…ond mi wnaeth y Furry’s ryddhau albwm llawn o ganeuon Cymraeg, Mwng, y flwyddyn ganlynol felly fe wnawn ni faddau iddyn nhw am hynny! Roedd Gruff yn aml yn canu pennill o ‘Fire in my Heart’ yn y Gymraeg mewn gigs yn y cyfnod yma hefyd…sy’n ddigon o esgus i atgyfodi fideo’r sengl ardderchog honno: