Pump i’r Penwythnos – 22 Chwefror 2019

Wel, dyna ni Wobrau’r Selar drosodd am flwyddyn arall a llongyfarchiadau mawr i’r holl enillwyr. Diolch hefyd i bawb ddaeth i Aber dros y penwythnos i ymuno a’r dathlu, a hefyd os wnaethoch chi jyst bwrw pleidlais – pawb a’i gyfraniad at greu achlysur arbennig arall.

Mae’r Gwobrau’n tueddu i fod yn ffordd dda i gau pen y mwdwl ar y flwyddyn a fu, gan roi cic fach i’r flwyddyn sydd i ddod. I ddechrau arni, dyma edrych mlaen at y penwythnos gwych o gerddoriaeth sydd o’n blaenau…

Gig: Y Niwl, Piŵb, Faux Felix – CellB, Blaenau Ffestiniog – 22/02/19

Lot o gigs bach da ar y gweill heno (nos Wener) ac mae’n prif ddewis yr wythnos hon yn mynd â ni i Flaenau Ffestiniog ac i GellB.

Mae Y Niwl fel petaen nhw’n gwneud rhyw comeback bach ac wedi gwneud sawl gig yn ddiweddar – newyddion ardderchog i unrhyw un sy’n mwynhau eu sŵn syrff Cymreig unigryw. Yn cefnogi mae’r grŵp o ardal Bangor, Piŵb, a’r artist unigol difyr Faux Felix.

Mae’n noson fawr yng Nghlwb Ifor Bach heno gyda dau gig ar y gweill! Grŵp arall sy’n gwneud comeback ydy Threatmantics ac maen nhw’n lansio eu halbwm newydd yn Clwb heno. Hefyd yn Clwb mae’r noson Twrw diweddaraf gydag Y Cledrau’n hedleinio ar ôl eu set gwefreiddiol yng Ngwobrau’r Selar wythnos diwethaf. Cefnogaeth gan Rifleros a RH, sef Rebecca Hayes.

Yn y Canolbarth mae gig diweddaraf Clwb Nos Wener Talybont ger Aberystwyth lle mae cyfle i weld Bwca yn perfformio fel band llawn am y tro cyntaf.

Cân: ‘Pla’ – Alffa

Wedi blwyddyn ryfeddol, roedd penwythnos diwethaf yn un arwyddocaol eraill i’r grŵp o Lanrug, Alffa.

Roedd Dion a Sion ar lein-yp Gwobrau’r Selar nos Wener, ac fe wnaethon nhw hefyd berfformio i dros 500 o blant mewn gig ysgolion arbennig brynhawn Gwener. Ac roedd sypreis ddwbl i’r ddeuawd yn ystod y dydd. Ar ôl eu set yn y gig ysgolion, cyflwynwyd gwobr newydd sbon gan Y Selar i’r grŵp – gwobr ‘miliwn ffrwd’ a hynny wrth gwrs gan i’w trac ‘Gwenwyn’ groesi’r ffigwr hwnnw ddechrau mis Rhagfyr, y gân Gymraeg gyntaf i wneud hynny.

Y syniad ydy fod y wobr newydd yn efelychu’r wobr ‘platinum’ enwog sy’n cael ei dyfarnu wrth i record werthu 300,000 copi. Wrth gwrs, ddiwedd mis Ionawr fe gyrhaeddodd ‘Gwenwyn’ 2,000,000 ffrwd, oedd yn golygu fod rhaid rhoi ail wobr iddyn nhw, ac fe wnaeth Kev Tame o PYST, oedd yn noddi’r wobr, hynny ym mhrif gig Gwobrau’r Selar nos Wener.

Ond stori 2018 oedd ‘Gwenwyn’…tybed ai ‘Pla’ fydd stori 2019? Dyma enw sengl newydd Alffa oedd yn cael ei rhyddhau fore dydd Gwener diwethaf ac oedd yn denu sylw, a ffrydiau, yn syth yn ôl yr hogia. Gwrandewch isod i weld yn union pam!

 

Record: Sugno Gola – Gwilym

Roedd penwythnos diwethaf yn dipyn o achlysur i un grŵp yn arbennig, sef Gwilym.

Y pedwarawd o Fôn a Gwynedd oedd yn cloi gig nos Sadwrn Gwobrau’r Selar – gig mwyaf y grŵp hyd yma mae’n siŵr. Ond roedden nhw’n llawn haeddu’r slot gan eu bod nhw’n gadael Aber nos Sadwrn gyda phump gwobr – y nifer fwyaf o Wobrau’r Selar i un artist mewn blwyddyn.

Ac os nad oedd hynny’n ddigon o dystiolaeth am boblogrwydd y grŵp ifanc, yna byddai gweld ymateb y dorf i’w set nos Sadwrn yn gadarnhad pendant.

Un o’r gwobrau oedd ‘Record Hir Orau’ am eu halbwm cyntaf Sugno Gola. Rhyddhawyd y casgliad nôl ar ddiwedd mis Gorffennaf, jyst mewn pryd i’r Steddfod yng Nghaerdydd.

Mae’n cynnwys 9 o draciau sydd wedi dod yn ffefrynnau ar y tonfeddi radio ac ar lwyfannau digidol – mae Cwîn, Cysgod, Llyfr Gwag, Fyny ac Yn Ôl ac enillydd gwobr ‘Cân Orau’ Gwobrau’r Selar, ‘Catalunya’ yn diwns bachog a hynod boblogaidd.

Ac efallai mai dyna’r ddau air sy’n crynhoi Sugno Gola – bachog a phoblogaidd.

Gobeithio bydd marc safon Gwobrau’r Selar yn rhoi hwb i werthiant yr albwm – os nad ydy’r record ganddoch chi, prynwch hi nawr.

Dyma ‘Catalunya’ yn fyw ar lwyfan Gwobrau’r Selar nos Sadwrn:

 

Artist: Blodau Papur

Efallai mai Alys Williams gipiodd deitl ‘Artist Unigol Gorau’ Gwobrau’r Selar am yr ail flwyddyn yn olynol wythnos diwethaf, ac roedd tipyn o sypreis i’r gantores wrth iddi dderbyn y wobr pan oedd hi ffwrdd yn dathlu penwythnos iâr Branwen Williams (enillydd gwobr ‘Seren y Sin’ gyda llaw).

Llongyfarchiadau i enillydd gwobr yr Artist Unigol Gorau, sy newydd gael syrpreis ar barti plu ei ffrind Branwen!

Posted by Y Selar on Friday, 15 February 2019

Ond, ei phrosiect newydd…neu yn hytrach enw newydd ar brosiect gwpl o flynyddoedd oed…Blodau Papur, sy’n cael sylw eitem ‘Ti Di Clywed…’ rhifyn newydd Y Selar.

Rydan ni’n gyfarwydd â gweld enw ‘Alys Williams a’r Band’ ar bosteri gigs, ond enw dros dro oedd hwnnw mae’n ymddangos ac mae’n nhw bellach wedi setlo ar enwi’r grŵp ar ôl un o’u caneuon.

Gallwch ddarllen mwy am y prosiect yn rhifyn newydd y cylchgrawn, ond dyma gyfle hefyd i fwynhau fideo byw ‘Llygad Ebrill’:

 

Un peth arall…: Rhifyn newydd Y Selar

Un darn mawr o newyddion allai fod wedi ei golli yng nghanol hynt a helynt penwythnos diwethaf oedd y ffaith fod rhifyn newydd sbon danlli o’r Selar wedi’i gyhoeddi.

Roedd cyfle cyntaf i gael eich bachau ar gopi am hanner nos, nos Sadwrn diwethaf yn Undeb y Myfyrwyr Aberystwyth yn syth ar ôl i ni gyhoeddi mai Gwilym oedd wedi cipio gwobr olaf y noson, sef y Band Gorau.

Wynebau golygus pedwar aelod Los Blancos sy’n llenwi clawr y rhifyn newydd ac mae cyfweliad gyda’r bois am yr albwm newydd sydd ar y gweill rhwng y cloriau sgleiniog.

Mae ail brif gyfweliad y rhifyn gydag enillwyr cystadleuaeth Brwydr y Bandiau, Y Sybs, ac mae Sgwrs Sydyn gyda’r cerddor gwerin, Tegid Rhys yn ogystal.

Wrth gwrs, mae’r rhifyn hefyd yn cynnwys manylion llawn enillwyr Gwobrau’r Selar, a rhestr 10 Uchaf Albyms 2018 sydd bob amser yn boblogaidd.

Llwyth o bethau eraill hefyd wrth gwrs – mynnwch gopi o’r mannau arferol, neu darllenwch y fersiwn digidol ar-lein.

Prif lun: Alffa yn derbyn eu gwobr ‘miliwn ffrwd’ (Celf Calon / Y Selar)