Gig: Gŵyl Aruthrol – Tramshed, Caerdydd – 23/11/19
Nos Sadwrn ydy noson brysur y penwythnos o ran gigs, ond wedi dweud hynny mae cyfle i flasu seiniau melys DJ Dilys yn siop goffi Blue Honey yng Nghaerdydd heno hefyd.
Mae sioe ORIG! Gai Toms a’r Banditos dal ar daith, ac yn ymweld â Theatr Twm o’r Nant yn Ninbych nos fory gydag Elidyr Glyn yn gefnogaeth.
Ar ôl eu perfformiad diweddar yng Ngŵyl Sŵn, mae cyfle arall i weld yr anhygoel Melin Melyn yng Nghaerdydd nos fory – byddan nhw’n perfformio yn 10 Feet Tall gyda Smudges a The Golden Dregs.
Mae gig arwyddocaol ym Mangor nos Sadwrn i nodi pen-blwydd Recordiau Sain yn 50 oed eleni – mae BBC Now yn dod ynghyd â Band Pres Llareggub, Mared Williams a Gwilym Bowen Rhys i ddathlu.
Clamp o gig mewn tref Brifysgol arall dros y penwythnos hefyd, sef y Ddawns Ryng-golegol yn Aberystwyth. Undeb y Myfyrwyr ydy’r lleoliad yn ôl yr arfer ac yr artistiaid sy’n perfformio ydy’r Cledrau, Elis Derby, HMS Morris, Hyll a Mari Mathias.
Mae albwm cyntaf Kizzy Crawford allan rŵan, a’r gantores dalentog yn cynnal cyfres fach o gigs i’r hyrwyddo. A hithau hanner ffordd trwy’r gyfres o ddigwyddiadau byw, mae’n perfformio yn The Globe yn y Gelli Gandryll nos fory. Bydd cyfle arall i’w gweld yn ystod yr wythnos hefyd wrth iddi ymweld â’r Llew Du yn Aberystwyth nos Iau gyda HMS Morris a Mellt yn gwmni.
Yn olaf, ond ein prif ddewis yr wythnos hon, mae Gŵyl Aruthrol yn The Tramshed yng Nghaerdydd nos Sadwrn. Gŵyl arbennig i nodi 10 mlynedd ers rhyddhau record gyntaf y band gwych o’r Wyddgrug, The Joy Formidable. Bydd y band yn perfformio dwy set ar y noson, gan gynnwys un acwstig iaith Gymraeg, ac ymysg yr artistiaid gwych sy’n perfformio mae Candelas, Chroma a Gwenno.
Cân: ‘Mêl i Gyd’ – Mêl
Mae sengl artist newydd, ond wyneb a llais cyfarwydd, o Ddyffryn Conwy allan ddydd Gwener nesaf, 29 Tachwedd.
MÊL ydy enw prosiect cerddorol newydd Eryl Prys Jones, sef canwr y grŵp gwych o Lanrwst, Jen Jeniro.
Mae gan MÊL debygrwydd i waith blaenorol Eryl sef cerddi clyfar a’r cysylltiad rhwng cerddoriaeth a’r byd naturiol o’i gwmpas.
Mae’r trac ‘Mêl i Gyd’ wedi’i ysgrifennu gan Eryl wrth gerdded ym Mharc Lyn yng Nghoedwig Gwydir ger Llanrwst, ac wedi’i gynhyrchu’n ofalus gan gyn-aelod arall o Jen Jeniro Llŷr Pari. Mae Eryl wedi datgelu i’r Selar y gallwn ddisgwyl mwy o gerddiriaeth ganddo yn y flwyddyn newydd, ac yn sicr mae ei sengl gyntaf yn gadael awch am fwy.
Yn ffodus iawn, mae Recordiau Libertino eisoes wedi llwytho’r sengl ar-lein yn gynnar i ni gael blas – dyma ‘Mêl i Gyd’:
Record: Iaith y Nefoedd – Yr Ods
Wedi hir ymaros, mae albwm newydd Yr Ods, Iaith y Nefoedd, allan yn swyddogol heddiw!
Rydan ni eisoes wedi clywed cwpl o senglau o’r albwm cysyniadol newydd gan y grŵp, sef ‘Tu Hwnt i’r Muriau’ a ‘Ceridwen’, sydd wedi’u rhyddhau dros y ddeufis diwethaf.
Mae’r albwm, sydd ar gael ar fformat feinyl hyfryd gyda llaw, wedi bod ar gael i’w rag-archebu hefyd, ac mae Gruff Pritch o’r grŵp wedi bod yn trydar lluniau o’r pecynau’n barod i’w gyrru allan i’r prynwyr awchus yr wythnos yma.
Mae ‘Iaith y Nefoedd’ yn gywaith cysyniadol, aml gyfrwng gyda’r awdur amlwg Llwyd Owen. Law yn llaw â’r albwm gan y grŵp, mae Owen wedi ysgrifennu nofel fer.
Mae’r nofel yn ail-ddehongliad o’r ymadrodd cyfarwydd sy’n deitl i’r cywaith, ac yn ei osod mewn Cymru ddystopaidd sy’n pydru â chasineb. Tywyll.
Mae sgwrs fer gyda Llwyd am y prosiect yn rhifyn diweddaraf cylchgrawn Y Selar.
‘Iaith y Nefoedd’ ydy trydydd albwm Yr Ods, yn dilyn ‘Troi a Throsi’ (2011) a ‘Llithro’ (2013).
Bydd Yr Ods yn perfformio cwpl o gigs hyrwyddo ar gyfer yr albwm newydd ym mis Rhagfyr sef yng Ngorsaf Reilffordd Eryri yng Nghaernarfon ar 7 Rhagfyr, ac yna yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd ar y dydd Gwener canlynol, 13 Rhagfyr.
Dyma fideo ‘Tu Hwnt i’r Muriau’:
Artist: Cowbois Rhos Botwnnog
Mae Cowbois Rhos Botwnnog wedi cyhoeddi manylion taith gan y band yn y flwyddyn newydd er mwyn nodi deng mlynedd ers rhyddhau eu halbwm gwych – Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn.
Debyg nad oes angen gormod o gyflwyniad i’r grŵp o Lŷn, ond prosiect y tri brawd Hughes/Huws ydy Cwobois Rhos Botwnnog sef Iwan Huws, Aled Hughes a Dafydd Hughes. Roedd y ddau frawd mawr, Aled a Dafydd, wedi bod yn aelodau or grŵp roc trwm, Eryr, cyn dechray cydweithio gyda’r brawd bach.
Ffurfiodd Cowbois reit nôl yn 2006 gan ryddhau eu halbwm cyntaf, Dawns y Trychfilod, flwyddyn yn ddiweddarach gan ennyn dilynaint sylweddol yn syth. Dilynodd Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn yn 2010 ac mae dau albwm arall wedi dilyn ers hynny sef Draw Dros y Mynydd (Record Hir Orau Gwobrau’r Selar 2013) ac yna IV yn 2016.
Ers hynny mae’r aelodau wedi bod yn canolbwyntio’n fwy ar brosiectau amgen. Mae Iwan wedi rhyddhau albwm unigol, ynghyd â chyfrol o farddoniaeth, tra fod Aled yn cerfio gyrfa lwyddiannus i’w hun fel cynhyrchydd a hefyd yn aelod o Blodau Papur. Mae Dafydd hefyd wedi bod yn chwarae gyda Blodau Papur ynghyd â bandiau eraill.
Ers ffurfio mae sawl cerddor amryddawn arall wedi bod yn chwarae gyda C.Rh.B., yn benodol felly Llyr Pari (Jen Jeniro, Omaloma), Branwen Williams (Siddi, Blodau Papur, Candelas), Osian Williams (Siddi, Blodau Papur, Candelas) ac Euron Jones (Maharishi, Gai Toms a’r Band). Roedd y pedwar yma’n chwarae ar Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn, ac mae’n debyg y byddan nhw oll yn perfformio ar y daith ym mis Mawrth a Chwefror.
Dyma ddyddiadau llawn y daith:
15 Chwefror – Theatr Twm o’r Nant, Dinbych
19 Chwefror – Theatr Derek Williams, Y Bala
21 Chwefror – Clwb Ifor Bach, Caerdydd
28 Chwefror – Amgueddfa Ceredigion, Aberystwyth
29 Tachwedd – Theatr Lyric, Caerfyrddin
6 Mawrth – Galeri, Caernarfon
13 Mawrth – Seler, Aberteifi
Mae llwyth o ganeuon gwych ar yr albwm, gan gynnwys ‘Gan Fy Mod i’ sy’n 7 munud anhygoel o gerddoriaeth. Ond dyma’r ffefryn 3 munud a hanner radio gyfeillgar sy’n rhoi teitl i’r albwm:
Un peth arall…: Podlediad Y Sîn yn Sŵn
Mae criw blog cerddoriaeth Sôn am Sîn wedi cyhoeddi eu podlediad diweddaraf, ‘Y Sîn’.
Enw’r podlediad diweddaraf ydy ‘Sôn am Sŵn’, sy’n briodol iawn gan fod y ddeuawd, Chris Roberts a Gethin Griffiths, yn bwrw golwg nôl ar Ŵyl Sŵn yn y bennod ddiweddaraf.
Maent yn sgwrsio gyda nifer o’r artistiaid Cymraeg fu’n perfformio yn yr ŵyl eleni ar y podlediad gan gynnwys Hyll, Ynys, Eadyth a Casi. Mae sgwrs ddifyr hefyd gydag Elan Evans o Glwb Ifor Bach, sy’n un o brif drefnwyr Gŵyl Sŵn bellach.
Rydach chi’n gwbod erbyn hyn ein bod ni’n hoff iawn o’r podlediad yma, ac yn ôl yr arfer mae’n drafodaeth graff a difyr gan y ddeuawd, ac mae’r sgyrsiau gyda’r artistiaid yn rai dadlennol…er ein bod ni’n amau bod peint neu ddau wedi’i llowcio rhwng cyn ambell sgwrs 😉 Gwaith da eto hogia.