Pump i’r Penwythnos – 23 Awst 2019

Gig: Y Cledrau, Gwilym, Ynys, Valero – Rascals, Bangor – 23/08/19

Mae’n benwythnos Gŵyl Hub yn ardal Stryd y Fuwch Goch, Caerdydd gyda llwyth o fandiau’n perfformio yn yr amryw leoliadau ar y stryd enwog.

Mae’r cyfan yn dechrau heno yn The Moon, gyda mynediad am ddim a chyfle i ddal y Threatmantics ymysg eraill. Bydd lot o fandiau cyfarwydd yn chwarae fory, dydd Sadwrn, gan gynnwys yr artistiaid Cymraeg Danielle Lewis, Hyll, Worldcub ac Ynys.

Ymysg yr enwau cyfarwydd i ni sy’n perfformio ddydd Sul mae Eädyth, Breichiau Hir, Kizzy Crawford, Kim Hon, Melin Melyn, Mari Mathias, Papur Wal, SYBS a Wigwam. Clamp o benwythnos.

Mae Alffa’n perfformio heno hefyd, yn y Galeri, Caernarfon mewn noson sydd hefyd yn cynnwys bandiau cynllun ‘Marathon Roc’ y Galeri.

Ac mae ein prif ddewis o gig ni ar gyfer y penwythnos lawr y lôn ym Mangor Ucha’ heno, sef noson gyntaf cyfres gigs newydd LL57 – stoncar o lein-yp sy’n cynnwys Y Cledrau, Gwilym, Lewys a’r grŵp newydd Valero.

Cwpl o gigs yn cynnwys hoelion wyth y sin dros y penwythnos hefyd – bydd Bryn Fôn yn chwarae yng Ngwesty’r Nanhoron Arms, Nefyn nos Sadwrn, ac yna Geraint Lövgreen yn chwarae yn y  Bandstand yn Aberystwyth ddydd Sul yn yr ail o gyfres Gigs Cantre’r Gwaelod eleni, gyda chefnogaeth gan Blodau Papur.

 

Cân: ‘Chwdyns Blewog’ – Maes Parcio

Y trac cyntaf i ymddangos gan grŵp ifanc  newydd o’r gogledd, Maes Parcio.

Fe  gyhoeddwyd ‘Chwdyns Blewog’ ar safle Soundcloud Maes Parcio wythnos diwethaf.

Mae’r grŵp yn cynnwys aelodau o Gaernarfon, Môn a Bethesda a dyma’r cynnyrch cyntaf i ymddangos ganddynt. Yr aelodau ydy Gwydion (gitâr), Ifan (bas), Twm (allweddellau) ac Owain (dryms).

Chwaraeodd Maes Parcio eu gig cyntaf fel rhan o Ŵyl Arall yng Nghaernarfon fis Gorffennaf.

Mae’r grŵp yn disgrifio sŵn y sengl gyntaf fel ‘pync’, ac yn sicr mae hwnnw’n ddisgrifiad addas gyda digon o agwedd i’w glywed ar y trac. Wedi dweud hynny, nid ‘pync band ysgol’ cyffredin ydy hwn chwaith, mae melodi gref hefyd.

Addawol iawn!

 

Record: 9Bach – 9Bach

Rydan ni’n troi’r cloc yn ôl rhyw ychydig gyda’n dewis o record yr wythnos hon, ond mae hynny am reswm da, ac amserol iawn.

Mae’r grŵp gwerin cyfoes, 9Bach, yn dathlu 10 mlynedd ers rhyddhau eu halbwm cyntaf, sy’n rhannu enw’r grŵp, yn 2009.

Bryd hynny, rhyddhawyd yr albwm ar label Gwymon, sef is-label gwerinol Recordiau Sain, a lansiwyd ochr yn ochr â’r is-label ‘cyfoes’, Copa. Mae Sain wedi penderfynu bod gormod o labeli yn tagu ci…neu rywbeth felly…erbyn hyn, ac wedi callio a mynd nôl i ryddhau fel Sain neu Rasal yn unig!

Ta waeth am hynny, label newydd 9Bach, y cewri, sef y cewri Real World Records, a sefydlwyd gan Peter Gabriel, sy’n gyfrifol am ryddhau’r fersiwn newydd i ddathlu’r deg.

Casgliad o fersiynau 9Bach o ganeuon gwerin traddodiadol oedd ar yr albwm gwreiddiol, ond mae’r fersiwn newydd yn cynnwys dau drac ‘bonws’ ychwanegol i’r albwm gwreiddiol. Mae gwaith celf newydd i’r casgliad hefyd.

Y newyddion da arall o gyfeiriad 9Bach wythnos yma ydy y bydda nhw’n perfformio yn Taiwan ym mis Tachwedd fel rhan o bartneriaeth gyda gŵyl Focus Wales yn Wrecsam.

Byddan nhw’n chwarae mewn gŵyl gerddoriaeth ryngwladol ‘LUCfest’ yn Tainan, Taiwan ar 8 – 10 Tachwedd fel rhan o ‘showcase’ a drefnir gan Focus Wales.

Dyma ‘Pontypridd’ o’r albwm cyntaf:

 

Artist: Ynys

Wythnos arwyddocaol i Ynys wrth iddyn nhw ymweld â stiwdios y BBC er mwyn gwneud sesiwn fyw ar raglen y cyflwynydd chwedlonol, Marc Riley, ar orsaf BBC 6 Music wythnos yma.

Ynys ydy prosiect cerddorol diweddaraf Dylan Hughes, gynt o Race Horses a Radio Luxembourg ac roedd modd clywed y sesiwn ar 6 Music nos Fawrth diwethaf, 20 Awst.

‘Damia!’ dwi’n clywed nifer ohonoch yn ochneidio, ‘Wedi’i fethu o’. Do, a naddo…oherwydd mae modd gwrando nôl ar y rhaglen ar app BBC Sounds.

Mae’r sesiwn yn cynnwys tair cân sef y senglau ‘Caneuon’ a ‘Mae’n Hawdd’, ynghyd â ‘Môr Du’ – swnio’n dda hefyd.

Does dim llawer o gyfle i sgwrsio gyda’r band ar y rhaglen, ond mae Riley yn holi Dylan rhywfaint, ac yn ddifyr iawn wrth ateb un cwestiwn mae’r cerddor yn datgelu ei fod wedi gwneud penderfyniad bwriadol i ysgrifennu mwy o ganeuon yn yr iaith Gymraeg.

Ynys fydd un o’r artistiaid sy’n perfformio ar daith fer PYST sy’n ymweld â dinasoedd Llundain, Manceinion a Glasgow ym mis Hydref, gyda Bitw a Sybs hefyd ar y lein-yp.

 

Un peth arall…: Podlediad newydd Y Sôn

Mae criw blog Sôn am Sîn wedi rhyddhau eu podlediad cerddoriaeth gyfoes  diweddaraf, ac yn ôl yr arfer mae’n wrandawiad gwerth chweil.

Yn y bennod ddiweddaraf o’r pod mae Chris a Geth yn trafod nifer o agweddau cerddorol yr Eisteddfod gan gynnwys perfformiad arbennig Sen Segur yn gig Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, ynghyd â pherfformiadau Gai Toms a Carwyn Ellis yn y Tŷ Gwerin.

Maent hefyd yn trafod tipyn ar le amlwg cerddoriaeth Dyffryn Conwy yn yr Eisteddfod eleni, a’r ffaith bod Y Cyrff wedi cael cymaint o ddylanwad ar gerddorion eraill yr ardal a thu hwnt.

Ond adran fwyaf diddorol y podlediad newydd ydy’r sgwrs ynglŷn â pherthynas yr Eisteddfod Genedlaethol gyda cherddoriaeth gyfoes erbyn hyn, a’r modd mae’r Eisteddfod yn defnyddio, ac yn llwyfannu cerddoriaeth gyfoes. Un cwestiwn sy’n codi ydy a oes gormod o bwyslais ar lwyfannau cerddoriaeth ar y maes, ac ai lle yr Eisteddfod yn ganolog ydy trefnu popeth.

Gwrando angenrheidiol i ffans o gerddoriaeth Gymraeg gyfoes, cliciwch isod i wneud hynny: