Gig: Twrw Trwy’r Dydd – Sul 26 Mai – Clwb Ifor Bach, Caerdydd
A hithau’n benwythnos gŵyl y banc, mae ‘na dipyn o gigs bach da dros y Sul.
Mae Candelas yn cadw’n brysur ar hyn o bryd, ac yn chwarae mewn llwyth o wyliau dros y misoedd nesaf gan gynnwys Kingfest yn Llanidloes dros y penwythnos.
Bydd hwn yn benwythnos prysur i Al Lewis gyda chwpl o gigs – y cyntaf yng nghwesty’r Parc yn y Barri nos Wener yn un o ‘Gigs Bach y Fro’, ac yna nos Sul ar Lwyfan y Lanfayng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd fel rhan o arlwy Eisteddfod yr Urdd yn y Bae. Yn perfformio gydag Al nos Sul bydd yr ardderchog Kizzy Crawford.
Sawl un o hoelion wyth y sin yn perfformio dros y penwythnos hefyd – Geraint Lovgreen yn nhafarn y Penlan Fawrym Mhwllheli nos Wener, a Huw Chiswell yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantafnos Sadwrn. Hefyd, yng Nghlwb Golff Nefyn nos Sadwrnmae dau o heavyweights go iawn y sin – Bryn Fôn a Tecwyn Ifan, tra fod Neil Rosser ym Mar Y Selaryn Aberteifi.
Mae Bwncath wedi bod yn brysur yn ddiweddar hefyd, ac mae cyfle i weld Elidyr Glyn a’i fandyn Y Pengwern, Llan Ffestiniog nos Sadwrn.
Ein prif argymhelliad ni ar gyfer y penwythnos ydy Twrw Trwy’r Dydd yng Nghlwb Ifor Bachddydd Sul…ac anodd dadlau gyda hynny yn ein tyb ni gyda Los Blancos, Breichiau Hir, Ynys, Papur Wal, Kim Hon, Eädyth a Melin Melyn i gyd ar y leinyp – stoncar o gig.
Ond os ydach chi ffansi rhywbeth bach mwy sidet nos Sul, mae Cyngerdd Agoriadol Eisteddfod yr Urddyng Nghanolfan y Mileniwm gyda Mei Gwynedd a Gwilym ymysg y perfformwyr.
Cân: ‘Twti Ffrwti’ – Kim Hon
Lot o buzz o gwmpas Kim Hon ar hyn o bryd, sef prosiect newydd canwr Y Reu, Iwan Fôn ac Iwan Llŷr.
Mae cyfle i’w gweld nhw’n chwarae yn Twrw Trwy’r Dydd yng Nghlwb Ifor Bach ddydd Sul yma, ac mae eu sengl gyntaf allan ddydd Gwener nesaf, 31 Mai.
‘Twti Ffrwti’ ydy enw sengl gyntaf Kim Hon, ac mae’n cael ei disgrifio fel cân llawn curiadau cynhyrfus a slacyr gyda dylanwad amlwg bandiau fel Tŷ Gwydr a Traddodiad Ofnus.
Cynhyrchwyd y trac gan Robin Llwyd, ac fei’n cymysgwyd gan Steffan Pringle, cyn ei mastro gan Charlie Francis.
Kim Hon ydy’r diweddaraf o artistiaid ifanc blaengar Cymru sydd wedi ymuno â stabal hynod atyniadol Recordiau Libertino, ac mae’n ymddangos fod Gruff Libertino wedi darganfod perl arall fan hyn. Mwynhewch ‘Twti Ffrwti’…
Record: Imam Sis We See You – Artistiaid Amrywiol
Anaml fyddwn ni’n rhoi sylw yn yr adran yma i record sydd ddim yn un gyfan gwbl Gymraeg ei hiaith. Bob hyn a hyn mae eithriad, a hynny fel arfer oherwydd fod y record dan sylw’n un arbennig iawn neu’n tynnu sylw at achos da iawn.
Dyma’n union pam ein bod wedi dewis Imam Sis We See You fel record yr wythnos. Mae’r record yn cynnwys traciau Cymraeg cofiwch, ac yn ffrwyth llafur y rapiwr Cymraeg gwych, Rufus Mufasa.
Mae’r record aml-gyfrannog yn cynnwys 41 o draciau gan artistiaid a beirdd amrywiol – y cyfan wedi cyfrannu fel arwydd o gefnogaeth i’r ymprydiwr Imam Sis o Gasnewydd. Mae Sis yn gwrthod bwyta ers mis Rhagfyr 2018 fel ymndrech i orfodi rhyddhau Abdullah Öcalan, arweinydd Plaid Gweithwyr Kurdistan, sy’n cael ei garcharu yn Nhwrci ers 1999.Mae Abdullah Öcalan wedi ei ymatal rhag cael cymorth cyfreithiol, ac yn wir rhag derbyn ymwelwyr ers 2016. Mae mwy o hanes yr ymgyrch yn yr erthygl fach dda yma o’r Independent.
Ysbrydolwyd Rufus Mufasa i fynd ati i gasglu cefnogaeth i’r achos ymysg cyd-gerddorion a beirdd ar ôl iddi fod mewn cyfarfod ar 14 Mai, a chanlyniad hynny ychydig dros wythnos yn ddiweddarach ydy rhyddhau’r casgliad anhygoel yma odraciau.
Ymysg y 41 trac mae caneuon gan artistiaid cyfarwydd iawn i ni gan gynnwys Band Pres Llareggub, Adwaith, FFUG, Llwybr Llaethog a Rufus ei hun. Gallwch wrando ar y caneuon, a’u lawr lwytho ar safle Bancamp y prosiect. Bydd holl elw’r albwm yn mynd at gronfa i gefnogi aelodau o’r gymuned Gwrdaidd a’r Ganolfan Gymunedol Gwrdaidd yng Nghasnewydd.
Dyma Rufus yn perfformio’r trac ‘Rhagfarn’ gyda ‘Llwybr Llaethog’ rai blynyddoedd yn ôl:
Artist: Eädyth
Tydi enw Eädyth ddim yn anghyfarwydd i gynulleidfa Y Selar. Mae’r gantores electroneg o Ferthyr wedi gael blwyddyn hynod o brysur ar gynllun Gorwelion, ac yn mynd o nerth i nerth,
Y newyddion da ydy fod ei sengl ddiweddaraf allan heddiw! ‘Wyneb i Weirad / Backwards’ ydy ffrwyth llafur cydweithio diweddar gyda’r cynhyrchydd Shamonikssydd hefyd yn gyfarwydd fel aelod Calan, Pendevig a NoGood Boyo,Sam Humphreys.
Mae’r sengl newydd allan heddiw ar label Recordiau UDISHIDO.
Mae’r wybodaeth am y sengl yn dweud fod geiriau dwfn, positif Eädyth yn cydblethu â thonau dyrchafol a harmoniau syfrdanol trwy gydol y trac. Mae cyfraniad Shamoniks i’r trac wedi’i ysbrydoli gan ddylanwadau hip-hop, gwerin, roc, electronica a d’n’b o bob cwr o’r byd.
Mae Eädyth wedi bod yn weithgar iawn hyd yma yn 2019 gan gigio ledled Prydain, ac yn ddiweddar yn benodol yng ngŵyl Great Escape yn Brighton ac yn y Senedd yng Nghaerdydd.
Tydi’r sengl newydd ddim ar gael i’w ffrydio ar Soundcloud eto, ond mae’r trac ‘Tri Dymuniad’ gan Eadyth wedi’i lwytho i’w safle Soundcloudyn ddiweddar:
https://soundcloud.com/eadythofficial/eadyth-tri-dymuniad
Un peth arall…: Cyhoeddi Leinyp Gig Nos Ffiliffest
Llynedd, cafodd Y Selar y pleser o gyd-weithio â Menter Iaith Caerffili er mwyn trefnu gig go arbennig yng Nghastell Caerffili. Er fod gŵyl Ffiliffest yn cael ei chynnal yn ystod y dydd yn y castell eiconig ers rhai blynyddoedd, dyma’r tro cyntaf i’r ŵyl, a’r gerddoriaeth, gael eu hymestyn i’r nos.
Ac rydym yn hynod o falch o’r cyfle i drefnu’r gig nos unwaith eto eleni. Mae un newid bach i’r drefn, sef fod y gig ar y nos Wener (28 Mehefin) cyn Ffiliffest ar y dydd Sadwrn. Ond, yr hyn sy’n gyson gyda llynedd ydy’r artistiaid gwych sy’n perfformio yn y gig nos. Yr wythnos hon, bu i ni gyhoeddio pwy yn union sy’n perfformio– Candelas, Gwilym, Wigwam, Ani Glass a SYBS – cracar o lein-yp, hyd yn oed os mai ni sydd yn dweud!
Mae tocynnau ar werth ar wefan tocyn.cymru– peidiwch colli’r cyfle i dod i’r gig arbennig iawn yma mewn blwmin castell bobl!
Pa esgus gwell i wylio fideo ‘Peirianwaith Perffaith’ gan Ani Glass?