Gig: Gigs AM – Pontypridd, Crymych a Machynlleth – 25/10/19
Dipyn o gigs bach da ledled y wlad penwythnos yma, y rhan fwyaf ohonyn nhw heno, nos Wener, fel mae’n digwydd.
Un prosiect diddorol ydy triawd o gigs ‘AM’ sy’n digwydd heno. Mae cyfle i weld Mellt a Gracie Richards yng Nghlwb y Bont, Pontypridd; yna os ydach chi yn y Gorllewin gallwch ddal Hyll a Spectol Haul yng Nghlwb Rygbi Crymych; ac yn olaf, yn y canolbarth bydd Sera a Gwenno Fôn.
Yn ôl yr arfer mae’r Welsh Whisperer ar y lôn dros y penwythnos – gig yng Nghlwb Rygbi Hendy Gwyn ar Daf heno gyda Celyn a Clive Edwards.
Un arall sydd ar y lôn yn rheolaidd ydy Mr Phormula, ac mae taith ei brosiect diweddaraf, Bardd, yn parhau penwythnos yma gyda gig yn Theatr Ffwrnes, Llanelli heno.
Gig mawr ar Ynys Môn heno hefyd wrth i Fleur De Lys lansio eu halbwm newydd, O Mi Awn am Dro. Bydd Howling Black, Tagaradr a Maes Parcio yn cefnogi.
Ambell gig arall heno ar ôl i’w rhestru – Bitw a Pys Melyn yng Nghlwb Ifor Bach, Bryn Fôn yn Nhyglyn Aeron ger Aberaeron, ac yn olaf, 9Bach yn y Royal Liverpool Philharmonic.
Lot llai o gigs nos Sadwrn, ond mae Candelas yn chwarae yn y castell yn Aberteifi, tra bod taith hydref 9Bach yn symud i Pontio, Bangor.
Cân: ‘Dywarchen’ – Omaloma
Trac sydd allan ers peth amser, ond sydd wedi cael atgyfodiad bach wythnos diwethaf diolch i fideo newydd o’r gân.
Rhyddhawyd ‘Dywarchen’ ddiwedd mis Mai eleni, ond wythnos nesaf mae cyfres gerddoriaeth newydd S4C, ‘Lŵp’, wedi cyhoeddi fideo o’r gân ar-lein.
Grŵp o Ddyffryn Conwy ydy Omaloma wrth gwrs, ac yn briodol iawn mae’r fideo
wedi’i ffilmio yn folt hen fanc Midland/HSBC ar sgwâr Llanrwst, sydd bellach yn gartref i
Fenter Iaith Conwy.
Mae fideos Omaloma a Serol Serol wedi eu ffilmio yn llofft y banc yn gynharach eleni, ond dyma’r peth cyntaf i gael ei ffilmio yn y folt ar y llawr isaf.
Dyma fideo ‘Dywarchen’:
Record: Amen – Mr
Mae ail albwm Mr, Amen, allan heddiw.
Ac yn ôl y sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol gan y sawl sydd wedi bod yn ddigon ffodus i dderbyn eu copïau yn y post yn barod, mae’n glamp o albwm da hefyd.
Rhag ofn eich bod wedi bod yn byw mewn ogof ers rhyw flwyddyn neu fwy, Mr ydy prosiect diweddaraf Mark Roberts, gynt o’r Cyrff, Catatonia, Y Ffyrc, Sherbet Antlers, Messrs a The Earth.
Rhyddhawyd albwm cyntaf Mr, ‘Oesoedd’, llynedd ac mae’r albwm newydd, ‘Amen’, yn cael ei ryddhau bron union flwyddyn yn ddiweddarach.
Mae Mark wedi dilyn trefn debyg i’r tro diwethaf wrth recordio’r albwm – mae’r cyfan wedi’i recordio yn ei atig gartref, ar wahân i’r traciau gyda drymiau sydd wedi eu recordio mewn stiwdio ym Mae Caerdydd.
Drymiwr Super Furry Animals, Dafydd Ieuan, sydd wedi cymysgu’r gerddoriaeth i gyd a’i label ef, Strangetown Records, fydd yn rhyddhau’r casgliad.
Mae Mark eisoes wedi rhyddhau prif sengl y record hir ers rhyw fis, a dyma hi isod, ‘Waeth i mi farw ddim’:
Artist: Dienw
Grŵp arall sydd newydd ryddhau eu sengl gyntaf gyda label Recordiau I KA CHING ydy Dienw.
Deuawd ifanc addawol iawn o’r gogledd ydy Dienw, ac fe ryddhawyd ‘Sigaret’ yn ddigidol ddydd Gwener diwethaf, 18 Hydref – dyma’r cynnyrch swyddogol cyntaf gan y grŵp a ffurfiwyd yn wreiddiol fel rhan o gynllun ‘Marathon Roc’ yn y Galeri, Caernarfon.
Yr aelodau ydy Twm Herd ar y gitâr a phrif lais, ac Osian Land ar y dryms – ac mae Osian o stoc da o ddrymwyr, yn fab i Graham Land, drymiwr Bryn Fôn, ac yn frawd i Sion, sef drymiwr Alffa.
Mae’r ddau yn disgrifio eu hunain fel ‘band amrwd a gonast sy’n plethu agweddau indie a phychadelic.”
Mae enw’r band yn deyrnged i un o ganeuon y band gwallgof ond hoffus, Eitha Tal Ffranco.
Ac efallai bod y grŵp hwnnw wedi dylanwadu ar Dienw mewn sawl ffordd gan fod y
ddeuawd yn credu fod eu caneuon yn llawer mwy ‘tafod ym moch’ na llawer o’r hyn sydd ar
gael yn y Gymraeg ar hyn o bryd.
Bu Dienw’n recordio’r sengl yn Stiwdio Drwm gydag Ifan ac Osian Candelas.
Bu’r Selar yn sgwrsio â nhw am eu cynlluniau yn ystod Eisteddfod yr Urdd yn gynharach eleni er mwyn dysgu mwy am y band:
Dyma ‘Sigaret’:
Un peth arall…: Llwyddiant a llwyfan rhyngwladol i Anorac
Mae ffilm Anorac Huw Stephens i’w weld yn mynd i nerth i nerth ar hyn o bryd ac mae ambell gyfle o’r newydd i weld y ddogfen am gerddoriaeth Gymraeg yn y dyfodol agos.
Enillodd y ffilm bedair gwobr yn seremoni gwobrau BAFTA Cymru wythnos diwethaf, ac yr wythnos hon mae’n cael ei dangos yng Ngŵyl gerddoriaeth ryngwladol Womex sy’n cael ei chynnal yn Tampere yn Y Ffindir.
Roedd amheuaeth a fyddai’r dangosiad yn Womex yn digwydd ar ddechrau’r wythnos oherwydd cymhlethdodau gyda’r hawliau cerddoriaeth. Ond bellach daeth cadarnhad gan Huw, a’r cyfarwyddwr Gruff Davies, bod y ffilm yn dangos yn yr ŵyl.
Dangoswyd y ffilm yn wreiddiol mewn nifer fach o sinemâu, cyn iddi gael ei darlledu ar
S4C yn gynharach eleni.
Mae cyfle arall i weld y ffilm ar S4C nos Sadwrn yma hefyd, a bydd ar Iplayer y BBC am gyfnod ar ôl hynny hefyd.
Cipiodd Anorac bedair o wobrau BAFTA Cymru sef ‘Ffotograffiaeth’ (Gruffydd Davies a Joni Cray); ‘Sain’ (Jules Davies); ‘Golygu’ (Madoc Roberts); a ‘Cyflwynydd’ (Huw Stephens).
Mae’n debygol bydd diddordeb pellach yn y ffilm o ganlyniad i’r llwyddiant, ac mae Huw a Gruff yn mawr obeithio y bydd modd iddynt ei rhyddhau’n rhyngwladol yn y dyfodol.
Siawns arall i wylio Huw yn sgwrsio â rhai o'i arwyr cerddorol, ac yn gwrando ar gerddoriaeth diri. 🎧
Join Huw Stephens on his musical pilgrimage across Wales. 🎧
🎶 Anorac
💻 S4C Clic
📲 https://t.co/aX5QaDM0fL pic.twitter.com/t9n26w2vB9— S4C 🏴 (@S4C) August 4, 2019