Gig: Hanner Pei, Pasta Hull – Earl Haig, Yr Eglwys Newydd – 25/01/19
Bu sawl penwythnos gweddol dawel o ran gigs ers y Nadolig, ond mae ‘na swp o gigs bach da ledled y wlad yw wythnos yma.
Mae sawl un o’r gigs yma’n digwydd heno (nos Wener) gan gynnwys perfformiad gan Y Niwl yn Pie Records, Llandrillo’n Rhos am 19:00.
Os ydach chi yn y canolbarth mae cyfle i ddal Casset yn perfformio yn eu milltir sgwâr heno hefyd, a hynny yn Neuadd Bentref Llanerfyl – noson cyri a Casset…cachboeth!
Ein prif argymhelliad penwythnos yma ydy’r gig yn yr Earl Haig yn Yr Eglwys Newydd, Caerdydd lle bydd perfformiad prin gan Hanner Pei, sy’n cael eu cefnogi gan yr anhygoel Pasta Hull.
Mae clamp o gig arall yn y brifddinas heno hefyd – Wigwam ac I Fight Lions fydd yn cefnogi Alffa yng Nghlwb Ifor Bach. Stoncar o leinyp.
A hithau’n noson Santes Dwynwen, mae gig digon rhamantus yr olwg yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth heno yng nghwmni Mei Gwynedd a Beth Celyn.
Gan symud ymlaen at nos Sadwrn, mae cyfle i weld dau o hoelion wyth go iawn y sin yng Nghlwb Rygbi Nant Conwy rhwng Llanrwst a Threfriw – Tecwyn Ifan yn cefnogi Mynediad am Ddim mewn gig i godi arian at apêl Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst 2019.
Ac yn olaf, pwy ond y Welsh Whisperer, sy’n gwneud be mae o’n gwneud yn well na neb arall yn y Llew Du, Llanybydder nos fory. Gwd thing glei.
Cân: ‘Dant Aur’ – Candelas
Di hon ddim yn gân newydd – roedd hi ar albwm diweddaraf Candelas, Wyt Ti’n Meiddio Dod i Chwarae, a ryddhawyd fis Mehefin diwethaf.
Ond, mae label Candelas, Recordiau I KA CHING, wedi cyhoeddi fideo newydd sbon ar gyfer y gân ddoe sydd i’w weld ar eu sianel YouTube nawr.
Y cyfarwyddwr ifanc hynod addawol, Hedydd Ioan, sy’n gyfrifol am y fideo – mwynhewch…
Record: Atalnod Llawn – Y Cyrff
Ydy, mae Y Cyrff yn dal i fod ar ein meddwl ers i ni gyhoeddi wythnos diwethaf mai Mark Roberts a Paul Jones o’r grŵp sydd i dderbyn ein gwobr Cyfraniad Arbennig yng Ngwobrau’r Selar eleni.
Nid dyma’r teyrnged cyntaf i’r Cyrff o bell ffordd, ac yn 2005 fe ryddhawyd casgliad bocs-set ardderchog gan label Rasal oedd yn gasgliad o ganeuon a chynnyrch y grŵp o Lanrwst rhwng 1983 a 1992.
Atalnod Llawn oedd enw’r bocs-set arbennig yma oedd yn cynnwys 4 CD a 38 o draciau. Mae’r casgliad yn cynnwys dau EP gan y grŵp – Y Testament Newydd ac Yr Atgyfodi – ynghyd â’r albwm gwych Llawenydd Heb Ddiwedd. Mae’r pedwerydd CD yn cynnwys pymtheg o senglau a thraciau byw prin gan y grŵp. Cist trysor cerddorol heb os.
Mae modd gwrando ar y traciau i gyd ar safle Soundcloud Y Cyrff.
Dyma un o draciau gwych y grŵp oedd yn agor albwm Llawenydd Heb Ddiwedd, a sydd ddim yn cael ei chlywed yn ddigon aml o bell ffordd…dyma ‘Seibiant’:
Artist: Tegid Rhys
Mae’r cerddor gwerin o Nefyn, Tegid Rhys, wedi cyhoeddi ei fod yn rhyddhau albwm Pam Fod y Môr Dal Yna?, ar 22 Chwefror.
Fe ryddhaodd Tegid gwpl o draciau llynedd, gan gynnwys y gân sy’n rhannu enw’r record newydd, ond dyma fydd ei albwm llawn cyntaf.
Recordiau Madryn sy’n rhyddhau’r albwm, ac mae’r casgliad wedi’i gynhyrchu a’i gymysgu gan Tegid ac Aled Hughes. Mae Aled hefyd yn chwarae amryw offerynnau ar yr albwm, a’r offerynwyr Dafydd Hughes (Drymiau), Euron Jones (Gitâr ddur bedal) a Heledd Haf Williams (Llais) hefyd wedi cyfrannu.
Yn ôl y label mae’r albwm yn gasgliad o ganeuon sy’n adlewyrchu’r gerddoriaeth mae Tegid yn ei greu gyda chymysgedd o stwff acwstig traddodiadol, amgen a gwerin seicadelig gyda naws electronig.
Ag yntau’n un o feibion Llŷn, mae’r bobl, y tir, y môr a diwylliant yr ardal yn amlwg trwy’r caneuon a’r casgliad.
Dyma sengl ‘Pan Fod y Môr Dal Yna?’:
Un peth arall…: Pwy Geith y Gig?
Mae’r gyfres deledu sy’n chwilio am dalentau ifanc oedran ysgol uwchradd Cymru er mwyn ffurfio band cyfoes, ‘Pwy Geith y Gig?’, yn dychwelyd i sianel S4C yn fuan
“Wyt ti eisiau bod mewn band? Cyfansoddi cân? Perfformio’n fyw? Os wyt ti rhwng 11 – 16 oed, dyma dy gyfle i fod mewn band a pherfformio mewn gig arbennig!”
Dyna eiriau cynhyrchwyr y gyfres ac mae’r dyddiad cau ar 18 Chwefror.
Mae tri mentor wrth law i helpu’r ymgeiswyr llwyddiannus, a’r tri seren sydd wrthi eleni ydy Alys Williams, Osian Williams (Candelas a.y.b.) ac Yws Gwynedd.
Yn ystod y gyfres bydd chwech o fandiau yn mynd yn ôl i’w hen ysgolion uwchradd am sgwrs ac i berfformio mewn gig. Ac ym mhob rhaglen, bydd cân gan bob un o’r chwech band yn cael ei chyd-chwarae gan bobl ifanc sy’n ymgeisio i fod yn rhan o’r gyfres.
Y chwech band dan sylw yn y gyfres newydd fydd Chroma, Ffracas, Gwilym, HMS Morris, I Fight Lions a Serol Serol. Mae pob un wedi cyfrannu rhannau offerynnau unigol o un o’u caneuon i bobl ifanc ddysgu, recordio, a chyflwyno fel clyweliad er mwyn ennill cael cyfle i fod yn y band. Mae modd lawr lwytho’r rhannau offerynnol hyn o wefan ‘Pwy Geith y Gig?’
Bydd y band terfynol ar ddiwedd y gyfres yn perfformio mewn gig arbennig ar lwyfan perfformio Eisteddfod yr Urdd ym Mae Caerdydd.
Ewch amdani ynde!
Anian oedd enw’r grŵp a grëwyd yn 2016, a dyma fideo ohonyn nhw’n perfformio ‘Elen’ ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd. Edrychwch yn ofalus – efallai bydd cwpl o’r wynebau (gitâr a bas) yn gyfarwydd!