Gig: Los Blancos, Kim Hon, Breichiau Hir, Lastigband, Alex Dingley – Dawns Barlys, Aberteifi – 27/04/19
Aberteifi ydy canolbwynt cerddoriaeth Gymraeg fyw y penwythnos yma wrth i’r Cardîs ddathlu Sadwrn Barlys yn y dref. Mae tipyn ar y gweill gan gynnwys Sesiwn Barlys yn y Castell yng nghwmni Ail Symudiad a chwpl o gorau lleol. Ond yr uchafbwynt heb os ydy Dawns Barlys yn Pizza Tipi, Aberteifi lle mae Recordiau Libertino wedi bod yn gyfrifol am lunio’r lein-yp ardderchog sy’n cynnwys Los Blancos, Breichiau Hir, Lastigband, Kim Hon ac Alex Dingley. Dim ond £8 ydy tocynnau – bargen y penwythnos!
Os ydach chi yn ardal Bae Colwyn neu Landudno heno, yna galwch draw i Pie Records yn Llandrillo’n Rhos lle bydd I Fight Lions yn perfformio am 19:00.
Diwrnod difyr yng Nghaernarfon fory lle bydd ‘Prosiect/Tionsnamh: Bendigeidfran’ yn dod â chreadigrwydd Cymru ac Iwerddon ynghyd yn Neuadd y Farchnad. Uchafbwynt y cyfan ydy gig hip-hop gyda’r hwyr lle bydd y grwpiau Gwyddelig Kneecap a Vigilanti yn perfformio gyda’r anhygoel 3 Hŵr Doeth.
Mae prysurdeb Papur Wal ers rhyddhau eu EP cyntaf yn parhau wrth iddyn nhw ymweld â CellB ym Mlaenau Ffestiniog nos Sadwrn, ac mae gig bach da gan yr Urdd yng Nghanolfan Gymunedol Rhuthun nos fory hefyd gyda Gwilym ac Y Cledrau.
Cân: ‘I Dy Boced’ – Thallo
Prosiect cymharol newydd y cerddor Elin Edwards ydy Thallo. Mae Elin yn byw yn Llundain ar hyn o bryd ac yn ysgrifennu cerddoriaeth trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Wrth drafod cerddoriaeth Thallo, mae Elin yn ei ddisgrifio fel ‘sain mynegiannol’ gyda threfniannau cymhleth.
Er ei bod yn enw cymharol anghyfarwydd, mae nifer o wybodusion wedi cymryd sylw ar ôl clywed ei cherddoriaeth, gan ddarogan pethau mawr. Mae’r cyflwynwyr Huw Stephens (Radio 1 / Radio Cymru) ac Adam Walton (Radio Wales) yn eu mysg.
Ym mis Mawrth llynedd, rhyddhawyd EP o’r enw Nhw gan Thallo, ac y newyddion da ydy fod sengl ddiweddaraf y grŵp allan heddiw.
Sengl y tro yma o’r enw ‘I Dy Boced’, ac fe’i recordiwyd yn NXNE Studios, Llundain gan Harri Chambers yn cynhyrchu, a Moshik Kop yn gyfrifol am y mastro.
Newyddion da pellach ydy fod fideo i gyd-fynd â’r sengl newydd…a dilynwyr ffyddlon Y Selar fydd yn cael y pleser cyntaf i weld y fideo yma fore dydd Mawrth nesaf.
Yn y cyfamser, mwynhewch y diwn newydd:
Record: Bwncath – Bwncath
Mae sengl newydd y grŵp gwerin o’r gogs, Bwncath, allan heddiw.
‘Fel Hyn ‘Da Ni Fod’ ydy enw’r trac newydd, a Recordiau Sain sy’n gyfrifol am ei rhyddhau.
Dyma gynnyrch cyntaf y grŵp sy’n cael ei arwain gan y cerddor amryddawn Elidyr Glyn, ers albwm cyntaf hunan-deitlog Bwncath a ryddhawyd yn 2017. Cyfle da felly i fwrw golwg nôl ar yr albwm ardderchog hwnnw a ryddhawyd ar label Rasal.
Er fod Bwncath yn gigio rhywfaint cyn hynny, fe ryddhawyd y record hir yn weddol ddisymwth, ond mae wedi ennill ei blwyf diolch i Radio Cymru’n cymryd at rai o’r traciau ac yn eu chwarae’n rheolaidd. Mae’n siŵr mai ‘Barti Ddu’ ydy’r trac amlycaf o’r albwm ond mae ‘Y Dderwen Dau’ yn ffefryn fawr arall, ynghyd â ‘Curiad y Dydd’, sef y gan enillodd wobr ‘Alun Sbardun Huws’ yn y Steddfod Genedlaethol i Elidyr. Mae’r casgliad hefyd yn cynnwys fersiwn wych o glasur Sbardun, ‘Coedwig ar Dân’.
Dyma video o Bwncath yn perfformio ‘Curiad y Dydd’ ar raglen Noson Lawen yn gynharach eleni:
Artist: Ynys
Enw newydd i lawer efallai, ond wyneb cyfarwydd i’r rhan fwyaf o ddarllenwyr selog.
Ynys ydy prosiect newydd Dylan Hughes, sy’n adnabyddus fel cyn aelod o Radio Luxembourg, Race Horses ac Endaf Gremlin.
Mae Dylan wedi cyhoeddi manylion ei brosiect newydd wythnos diwethaf, ac mae sŵn Ynys yn cael ei gymharu â cherddoriaeth y Velvet Underground, Gorky’s Zygotic Mynci, Elliot Smith a Teenage Fanclub.
Boi o Aberystwyth ydy Dylan yn wreiddiol, ond bellach wedi setlo yng Nghaerdydd ers rhai blynyddoedd.
Ni fu’n aelod o fand ers peth amser, ond mae’n amlwg ei fod wedi parhau i gyfansoddi, ac mae’n debyg fod caneuon Ynys wedi’i seilio ar gannoedd o recordiadau llais mae Dylan wedi’u casglu dros y pedair blynedd ddiwethaf.
Ac y newyddion ardderchog ydy fod Ynys yn barod i ryddhau cynnyrch cyntaf y prosiect newydd – bydd y sengl gyntaf, ‘Caneuon’, allan ar label Recordiau Libertino, ddydd Gwener yma, 26 Ebrill.
Mae’r sengl eisoes wedi cael ymateb da ar nifer o flogiau a gwefannau cerddoriaeth amlwg gan gynnwys ‘WhiteLight/WhiteHeat’, ‘GIGsoup’ a ‘For The Rabbits’.
Heb os mae hi’n alaw fachog, ac mae’r chorws mawr ‘Caneuon’ yn gwneud hon yn gân hynod o gofiadwy – cân hapus a hafaidd gyda theimlad retro iddi. Un o ganeuon yr haf eleni y nein tyb ni.
Un peth arall…: Cyhoeddi Lein-yp Gŵyl Car Gwyllt
Mae Gŵyl Car Gwyllt ym Mlaenau Ffestiniog wedi cyhoeddi manylion y digwyddiad sy’n cael ei gynnal ar benwythnos 5-7 Gorffennaf eleni.
Yn ôl yr arfer mae ‘na amrywiaeth eang o artistiaid yn perfformio yn yr ŵyl a gynhaliwyd gyntaf nôl ym 1997.
Mae rhestr y perfformwyr eleni’n cynnwys One Style MDV, Bob Delyn a’r Ebillion, Bryn Fôn a’r Band, Gwibdaith Hen Frân, Ffracas, Radio Rhydd, Gai Toms, Geraint Lövgreen a’r Enw Da, Pasta Hull a 3 Hwr Doeth, Twmffat, Mellt, Phil Gas a’r Band, Estella, Jamie Bevan a Gwilym Bowen Rhys. Mae rhagor o enwau i’w cadarnhau.
Y newyddion cyffrous arall gan y trefnwyr dros y dyddiau diwethaf ydy bod y ffefrynnau mawr lleol, Anweledig, hefyd yn perfformio yn yr ŵyl eleni.
Clwb Rygbi Blaenau Ffestiniog fydd prif leoliad yr ŵyl yn ôl yr arfer.
Esgus perffaith i atgyfodi’r clasur o fideo ar gyfer ‘Dwi’n Gwybod Sud Ti’n Licio Dy De’ gan Anweledig: