Gig: Gŵyl Cwrw Llŷn – Cwrw Llŷn, Nefyn – 27/07/19
Dim cweit gymaint o wyliau a sydd wedi bod dros yr wythnosau diwethaf, ond dal digon o gigs ledled y wlad i chi gael mwynhau ychydig o gerddoriaeth byw.
Un gŵyl sydd yn digwydd ddydd Sadwrn ydy Gŵyl Cwrw Llŷn ym mragdy’r cwmni cwrw ger Nefyn. Yn sicr bydd dim prinder cwrw, a bydd dim prinder o gerddoriaeth gwych yno – Bwncath, Gwilym Bowen Rhys, Tegid Rhys, Geraint Lovgreen…a’r Moniars (amser da i fynd i’r bar ella).
Gig arall da nos Sadwrn ydy hwnnw yn Theatr Mwldan, Aberteifi lle mae Huw Stephens yn cyflwyno Buzzard Buzzard Buzzard, Charlotte Church ac Adwaith.
Hefyd yn y Gorllewin nos Sadwrn, mae cwpl o gigs gan y Welsh Whisperer – un yn y Shed ym Mwnt am 19:00 gydag Ail Symudiad, ac yna’r ail ym Mlaenporth am 20:00. Bach yn dynn o ran amser…gobeithio na fydd o’n sownd tu ôl i lori Manselrhwng y ddau.
Cyn hyn oll, mae cwpl o gigs bach da nos Wener hefyd – Gwilym Bowen Rhys yn Nhŷ Tawe yn y de, a wedyn Alffa a Worldcub (CaStLeS gynt) yn Neuadd Ogwen, Bethesda.
Cân: Boneddigion & Boniddegesau – Pasta Hull
Ydyn, maen nhw nôl! Mae sengl newydd yr anhygoel Pasta Hull allan heddiw, a bydd eu ail albwm allan ddydd Gwener nesaf.
‘Chawn Beanz’ ydy enw albwm newydd y grŵp gwallgof a gwych o Gaernarfon ac mae’r sengl ‘Boneddigion & Boneddigesau’ yn damaid blasus iawn i aros pryd
Mae’r sengl yn gipolwg o ystafell recordio’r brodyr Llyr ac Owain Jones, sef y prif egni tu cefn i Pasta Hull. Mae’n llawn curiadau lleddfol bongos, riffs hyfryd ar y piano, synau fuzzy y gitâr a lleisiau bron pob aelod o’r grŵp amgen yn chwerthin, canu, rapio a siarad.
Mae’r sengl eisoes wedi’i chwarae ar y radio gan Huw Stephens, ac fe ymddangosodd fideo ar gyfer y gân ar sianel YouTube Ffarout ddydd Gwener diwethaf, 19 Gorffennaf.
Bydd gig lansio swyddogol yr albwm newydd yn cael ei gynnal yn y Balaclava Barn yng Nghaernarfon ar nos Sadwrn 3 Awst. Mae Papur Wal a Pys Melyn yn cefnogi ar y noson – dau fand sydd wedi cydweithio â Pasta Hull yn y gorffennol – a bydd fersiwn CD o’r albwm ar werth ar y noson.
Mae’r albwm ‘Chawn Beanz’ yn cael ei ryddhau’n swyddogol ar 2 Awst gan label Recordiau Noddfa. Yn y cyfamser, dyma fideo ‘Boneddigion & Boneddigesau’:
Record: Diwrnod efo’r Anifeiliaid – Radio Luxembourg
Rhywun arall sy’n rhyddhau sengl newydd heddiw ydy Ynys, sef prosiect newydd Dylan Hughes, gynt o Radio Luxembourg / Race Horses.
‘Mae’n Hawdd’ ydy enw ail sengl Ynys, sy’n cael ei rhyddhau gan Recordiau Libertino heddiw.
Gwych i weld Dylan yn ôl yn cynhyrchu cerddoriaeth, achos heb os roedd Radio Luxembourg yn un o fandiau pwysicaf degawd cyntaf y mileniwm yn Nghymru.
Digon o esgus i ni fwrw golwg nôl ar EP y grŵp gwych a ryddhawyd yn 2007 ar label Peski.
Roedd Radio Lux wedi rhyddhau ambell sengl cyn hyn, ond dyma gynnyrch sylweddol cyntaf y grŵp o Aberystwyth.
Pump o draciau da iawn – ‘Eli Haul’, ‘Diwrnod efo’r Anifeiliaid’, ‘Mostyn a Diego’, ‘Diweddglo’ a’r hyfryd ‘Merch Sydd yn Fy Mhoced’.
Dyma nhw’n perfformio’r ardderchog ‘Mostyn a Diego’ yn stiwdio Bandit:
Artist: Catrin Herbert
Wedi cyfnod digon hesb, mae’r gantores o Gaerdydd, Catrin Herbert wedi rhyddhau sengl newydd ddydd Gwener diwethaf, 19 Gorffennaf.
Ffrwydrodd Catrin ar y sin gyda’r diwn fachog, ‘Disgyn Amdana Ti’ rhyw saith neu wyth mlynedd ôl, ac er iddi ryddhau cwpl o senglau a chystadlu yng nghystadleuaeth Cân i Gymru ar ôl hynny, mae wedi bod yn ddigon tawel ers cwpl o flynyddoedd.
Newyddion da felly ei bod yn ôl gyda’r sengl ‘Dere Fan Hyn’ sydd allan ar y llwyfannau digidol arferol.
A’r newyddion da pellach ydy y gallwn ni ddisgwyl EP newydd ganddi’n fuan hefyd.
Mei Gwynedd sydd wedi cynhyrchu’r trac, ac mae Catrin wedi datgelu ei bod wedi bod yn cydweithio â’r cerddor a chynhyrchydd uchel ei barch ers misoedd.
Yn ôl Mei, sydd hefyd yn rheoli label JigCal, gallwn ddisgwyl gweld yr EP yn cael ei ryddhau tua mis Hydref.
Chwarae teg, fel ei senglau blaenorol, mae ‘Dere Fan Hyn’ yn ddigon bachog hefyd!
Un peth arall…: Galw bysgwyr i sgwâr Llanrwst
Heb gael slot ym Maes B neu gig y Pafiliwn? Dim lle yn y llety yn Gigs Cymdeithas yr Iaith yn yr Eagles yn Llanrwst?
Na phoener, mae cyfle arall i gerddorion berfformio yn Llanrwst yn ystod wythnos yr Eisteddfod!
Mae Menter Iaith Conwy wedi gwneud apêl am artistiaid cerddorol i ‘bysgio’ ar sgwâr Llanrwst yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Mae’r Fenter Iaith, sydd â’i phrif swyddfa ar sgwâr enwog Llanrwst, yn awyddus i ddenu Eisteddfodwyr i’r dref yn ystod wythnos yr Eisteddfod – mae’r maes rhyw ddwy filltir y tu allan i Lanrwst i gyfeiriad Betws y Coed.
Un ymgais i wneud hynny ydy recriwtio artistiaid cerddorol i berfformio ar y sgwâr yn ystod yr wythnos – ac mae cyfle i gerddorion gynnig eu hunain ar gyfer slot.
Dylai unrhyw un sydd â diddordeb gysylltu â Siwan yn y Fenter Iaith – siwan@miconwy.cymru / 01492 642357
Sod it, dyma fideo’r Cyrff yn chwarae ‘Cymru, Lloegr a Llanrwst’ i’r diawl: