Gig: Los Blancos, Hyll – Clwb Ifor Bach, Caerdydd – 27/09/19
Looot o gigs bach dros y lle i gyd penwythnos yma gan ddechrau gyda Bwncath a Dyfrig ‘Topper’ Evans yn Neuadd Llanllyfni heno.
Mae Bryn Fôn yn foi prysur penwythnos yma – gig gyda’r band yn Llanymddyfri heno, cyn gwneud set Bryn Fôn Bach yng Nghaffi Alys, Machynlleth ar y ffordd nôl i’r gogs nos fory.
Mae’n benwythnos mawr i Los Blancos wrth iddyn nhw ryddhau eu halbwm cyntaf, Sbwriel Gwyn (mwy isod) heddiw, gyda gig lansio swyddogol yng Nghlwb Ifor Bach heno. Cefnogaeth gan house band (jôc) Clwb Ifor, Hyll – mae hon yn mynd i fod yn corcar.
Un gig bach arall heno (nos Wener), sef Pasta Hull yn perfformio yn Pie Records, Llandrillo sydd wedi dod yn lleoliad gigs poblogaidd yn ddiweddar.
Lansiad swyddogol arall gan un o fandiau Recordiau Libertino nos fory, sef Breichiau Hir. Maen nhw’n nodi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf yn The Dojo, Pontcanna.
Mae’r Welsh Whisperer yn chwarae yn Neuadd y Tymbl, Llanelli heno, ac mae cyfle hefyd i weld Sera yn gigio yng Nghlwb y Bont, Pontypridd.
Ac yn olaf, gig mwyaf eclectig y penwythnos efallai ym Mar Seler, Aberteifi fel rhan o Ŵyl y Cynhaeaf. Bydd y ddeuawd gwerinol, Owen Shiers a Gwilym Morys yn perfformio ei set ‘Gadael Tir’ gyda chefnogaeth gan y grŵp electronig anhygoel, Kim Hon.
Cân: ‘Saethu Tri’ – Breichiau Hir
Ddydd Gwener diwethaf fe ryddhaodd y grŵp roc o Gaerdydd, Breichiau Hir, eu sengl ddwbl newydd.
‘Yn Dawel Bach / Saethu Tri’ ydy cynnyrch diweddaraf y grŵp, ac mae’n deg dweud bod y traciau ychydig yn feddalach na’r sŵn rydym wedi dod i’w adnabod gan Breichiau Hir.
Recordiau Libertino sy’n rhyddhau’r sengl ddwbl, a dywed y label fod y sengl yn ‘gymysgedd byrlymus o gords gwych sy’n symud o’r bygythion, miniog a ffrwydrol i dristwch synfyfyriol’ ac yn ‘destament i hyder cynyddol y band’.
Yn ôl prif ganwr Breichiau Hir, Steffan Dafydd mae’r ddau drac yn perthyn i’w gilydd ac yn dod o’r un man creadigol ac emosiynol.
“Mae ‘Saethu Tri’ yn esbonio’r ofn a’r edifarhad sy’n gallu dod drosta i, a sut yr ydw i byth rili’n siŵr sut i ddelio ag e” eglura Steffan.
“Dwi ddim yn trio dramateiddio’r teimlad yn y gân, dwi’n cadw’r disgrifio’n blaen ac yn onest, yn cyfleu’r gwacter a’r diflastod sy’n dod law yn llaw a’r teimlad hwnnw. Mae’n drist ac yn dywyll.
“Mae ‘Yn Dawel Bach’ yn ymateb uniongyrchol i’r ofn dwi’n siarad amdano yn Saethu Tri. Mae’n pwyntio allan y tonnau o banig sy’n gallu dy lethu ar unrhyw adeg. Gall y teimlad grasho ar dy ben di lle bynnag yr wyt ti. Dyw e ddim yn gofyn caniatâd, ma fe jyst yn cyrraedd, heb wahoddiad a heb i neb ofyn amdano.”
Rydan ni’n hoffi ‘Saethu Tri’ yn arbennig. Rhy hawdd ydy diystyru Breichiau Hir fel grŵp roc trwm arall o’r de, ond mae llawer mwy iddyn nhw na hynny yn ein tyb ni. Mae rhyw addfwynder i felodi swynol ‘Saethu Tri’, ond gyda’r islais tywyll hwnnw sy’n nodwedd gyfarwydd o gerddoriaeth y grŵp.
Bydd y sengl ddwbl ar gael yn ddigidol ac mae nifer cyfyngedig (iawn) o gasetiau – 25 i fod yn fanwl gywir – ar gael i’w prynu…ond siŵr o fod wedi mynd i gyd erbyn i chi ddarllen hwn!
Bydd y grŵp yn lansio’r sengl yn swyddogol mewn gig The Dojo, Kings Road Yard, Caerdydd nos fory.
Record: Sbwriel Gwyn – Los Blancos
Mae albwm cyntaf y grŵp gwych o’r De Orllewin, Los Blancos, allan yn swyddogol o’r diwedd heddiw!
Mae’n teimlo fel petai ni’n disgwyl ers oes am record hir gan y grŵp slacyr wrth iddynt ryddhau cyfres o senglau gyda Recordiau Libertino dros y cwpl o flynyddoedd diwethaf. Bu addewid am record hir cyn yr hydref, ac wele fe ddaeth y dydd lle mae Sbwriel Gwyn yn gweld golau dydd.
Rhyddhawyd y sengl sy’n rhannu enw’r albwm ddydd Gwener diwethaf fel tamaid i aros pryd, gyda fideo ar gyfer y gân yn cael dangosiad ecsgliwsif ar wefan God is The TV.
Yn ôl y label mae ‘Sbwriel Gwyn’ yn deitl perffaith ar gyfer albwm cyntaf Los Blancos. Mae mwmian tawel Gorllewin Cymru a’r cyfeillgarwch rhwng ffrindiau oes yn themâu cyson trwy gydol y sengl a’r albwm.
“Mae ‘Sbwriel Gwyn’ yn derm ry’n ni’n defnyddio fel ffrindie pan ’ma rhywun wedi neud rhwbeth stiwpid – rhwbeth sy’n digwydd yn aml iawn” meddai prif ganwr Los Blancos, Gwyn Rosser.
Mae’r albwm deuddeg trac wedi’i recordio gan y cynhyrchydd Kris Jenkins, sy’n gyfarwydd am ei waith gyda’r Super Furry Animals, Cate Le Bon, Gruff Rhys a H. Hawkline ymysg eraill.
Mae’r albwm yn un gonest, ac yn ddarlun o fywyd pobl ifanc. Ar un llaw cawn ganeuon fuzzy, ifanc a chariadus ond ar y llaw arall cawn ganeuon bregus a diniwed.
Mae’n llawn o ganeuon pwerus sy’n ddi-flewyn ar dafod, yn greadigol ac yn ffrwydro ag angerdd The Replacements, Lemonheads, Y Cyrff a dirgelwch tywyll The Velvet Underground. Clywir yr angerdd a hwyl creu cerddoriaeth yn glir trwy’r albwm.
Mae’r gig lansio heno yng Nghlwb Ifor Bach yn cael mensh uchod, ond gallwn ni edrych mlaen am i’w gweld y fyw mewn sawl gig arall dros yr hydref. Dyma’r dyddiadau ar gyfer rheiny:
18/10/19 – Bar Selar, Aberteifi
01/11/19 – Noson 4 a 6, Caernarfon
02/11/19 – Tŷ Pawb, Wrecsam
Dyma’r fideo ar gyfer y sengl ‘Sbwriel Gwyn’:
Artist: NoGood Boyo
Mae albwm cyntaf y grŵp gwerin NoGood Boyo allan heddiw.
‘Eofn’ ydy enw’r record hir sy’n cael ei ryddhau ar label Recordiau UDISHIDO.
Pwy ydy NoGood Boyo? Wel, maen nhw’n bach o ‘siwpyr grŵp’ gwerin gydag aelodau o Calan, VRï, a Pendevig yn perfformio gyda’r band.
Roedden nhw’n un o artistiaid cynllun Gorwelion BBC Cymru llynedd, ac hefyd wedi bod yn ddigon ffodus i dderbyn cyllid cronfa Lansio BBC Gorwelion yn gynharach eleni ar gyfer helpu gyda chostau recordio a rhyddhau’r albwm newydd.
Bu’n haf llwyddiannus i’r grŵp hefyd wrth iddynt gael cyfle i berfformio yng Ngŵyl Werin Lorient yn Llydaw, a chipio gwobr ‘Band Loïc Raison’ yn yr ŵyl – sef gwobr flynyddol, uchel ei pharch, i’r grŵp newydd gorau yn yr ŵyl.
Mae ‘Eofn’ yn cael ei ddisgrifio fel albwm neo-trad ‘na chlywyd ei debyg o’r blaen, ac yn gymysgedd o gerddoriaeth draddodiadol, pop, roc ac EDM.
Mae’r casgliad yn agor gyda threfniant o anthem bop Bryn Fôn, ‘Y Bardd o Montreal’, gyda thraciau Cymraeg caled fel ‘Siani Flewog’ a ‘Sbonc Bagel’ yn dilyn. Ceir fersiynau newydd o ganeuon gwerin cyfarwydd hefyd fel ‘Ym Mhontypridd’ a ‘Lisa Lân’.
Dyma eu fersiwn o ‘Y Bardd o Montreal’:
Un peth arall…: Fideo ‘Dan y Tonnau’
Pleser bob amser gan Y Selar gynnig llwyfan ar gyfer ecsgliwsif bach ar ein gwefan. Ac yn gynharach yn yr wythnos roedd yn wych gallu cynnig cyfle i chi weld fideo newydd ‘Dan y Tonnau’ gan Lewys.
Mae’r sengl allan ers wythnos y Steddfod, ac yn diiiiwn anferthol arall gan y grŵp ifanc.
Nid dyma’r fideo cyntaf i Lewys recordio a chyhoeddi’n annibynnol, a bob tro maen nhw wedi gweithio gyda Izak Zjalic fel cyfarwyddwr. Y tro yma, ffryntman y grŵp, Lewys Meredydd sydd wedi cymryd cyfrifoldeb dros y cyfarwyddo gydag Izak yn gwneud y golygu, a hefyd y gwaith camera gyda Huw Morris-Jones.
Ffilmiwyd y fideo ar draeth Llandanwg, ger Harlech, a theg dweud bod y canlyniad yn wych. Mwynhewch: