Dolig llawen y ffernols!
Gobeithio bod chi wedi cael Dolig da ac wedi cael ambell record newydd neu docyn gig yn anrheg.
Er bod y dyddiau i gyd wedi eu jymblo braidd wythnos yma, mae hi’n ddydd Gwener heddiw felly mae’n amser am Bump i’r Penwythnos. Wedi dweud hynny, rydan ni’n rhy llawn o dwrci i deipio gormod, ac angen mynd nôl i fwyta ac yfed mwy…felly detholiad bach cryno i chi wythnos yma!
Gig: Gwdihŵs, Rhys Dafis – CWRW, Caerfyrddin – 27/12/19
Dim llwyth o gigs yn digwydd penwythnos yma’n ôl pob golwg, sy’n bach o drueni gan fod y cabin fever yn cymryd gafael erbyn hyn ac angen i bobl fentro allan debyg!
Cwpl o gigs yn y Gorllewin cofiwch, gan ddechrau yng Nghaerfyrddin heno gyda’r grŵp cyfyrs ardderchog, Gwdihŵs yn CWRW, Stryd y Brenin, Caerfyrddin – sef yr hen Parrot. Mae Rhys Dafis yn cefnogi, felly noson fach dda.
Yna yn Selar Aberteifi nos fory, mae Gwilym Bowen Rhys yn diddanu yn ei ffordd ddihafal.
Cân: Tair Ferch Doeth – Chroma
Dim angen gormod o esgus i gynnwys Chroma yn ein detholiad yr wythnos hon, ac yn benodol eu sengl ddiweddaraf, ‘Tair Ferch Doeth’ a ryddhawyd yn gynharach yn y mis.
Mae fideo newydd ar gyfer y sengl wedi’i gyhoeddi gan Lŵp, S4C wythnos diwethaf. Sian Adler sydd wedi cynhyrchu a Lewys Mann yn cyfarwyddo.
Record: Plygeiniwch – The Gentle Good
Bosib iawn bod ni’n rhoi sylw i EP Nadoligaidd The Gentle Good tua’r adeg yma bob blwyddyn, ond be di’r ots gan ei fod o’n codi arian at achos da!
Chwarae teg i Gareth Bonbello, mae o’n rhoi incwm holl werthiant yr EP sydd ar ei safle Bandcamp dros y Nadolig i elusen bob blwyddyn.
Eleni i elusen digartrefedd The Wallich sy’n cael yr arian – achos da iawn. Ewch amdani, cefnogwch gan hefyd lawr lwytho ’chydig o tiwns bach Nadoligaidd iawn yn y fargen.
Artist: Hanner Pei
Dydan ni heb glywed digon o un o’n hoff ganeuon Nadoligaidd eleni, felly Hanner Pei sy’n cael ein dewis o artist…jyst fel esgus i chwarae ‘Nadolig Alcoholig’. Clasur:
Un peth arall: 31 Rhagfyr – dyddiad cau pleidlais Gwobrau’r Selar
A hithau’n wyliau, ma peryg i chi anghofio bwrw pleidlais ar gyfer Gwobrau’r Selar eleni, yn enwedig gyda’r dyddiad cau ar 31 Rhagfyr.
Llwyth o bleidleisiau hyd yma, ond mae sawl categori dal yn eithriadol o agos felly mae pob pleidlais yn cyfri. Pleidleisiwch nawr!