Pump i’r Penwythnos – 28 Mehefin 2019

Gig: Candelas, Gwilym, Ani Glass, Wigwam, SYBS – Castell Caerffili – 28/06/19

Cestyll ydy’r llefydd i gynnal gigs dyddiau yma’n amlwg! Tafwyl wythnos diwethaf, Ffiliffest penwythnos yma. Bu i’r Selar helpu criw Ffiliffest i sefydlu gig nos ar gyfer yr ŵyl llynedd, a braf adrodd bod y drefn yn parhau eleni, ond fod y gig wedi symud i nos Wener, sef heno!

Tipyn o lein-yp chwarae teg, gyda dau fand mwyaf poblogaidd Cymru ar hyn o bryd – Candelas a Gwilym – yn arwain y ffordd, gyda’r anhygoel Ani Glass a dau o fandiau ifanc mwyaf cyffrous y de, Wigwam a SYBS yn cefnogi.

Mewn llefydd eraill heno mae cwpl o opsiynau yn Abertawe gyda thaith Cwmwl Tystion yn parhau yn Theatr Taliesin, a Mei Gwynedd yn Nhŷ Tawe. Mae Eadyth hefyd yn perfformio yn y Chapter, Caerdydd.

Mae Ffiliffest yn parhau gyda’r ŵyl deuluol ddydd Sadwrn, ac mae digon o gerddoriaeth fyw ar y llwyfan – John Nicholas, Ragsy, Carys Lloyd, Allan yn y Fan a Wonderbrass i gyd yn perfformio.

Ddydd Sadwrn hefyd mae’r diweddaraf o’r gweithdai ‘Merched yn Neud Miwsig’ yn y Musicbox yng Nghaerdydd.

Mae Cwmwl Tystion yn gwibio i’r gogledd i berfformio yn Pontio, Bangor nos Sadwrn hefyd, ac mae noson fawr yng Nghastell Newydd Emlyn gyda Dafydd Iwan, Baldande a DJ Rob Thomas yn chwarae yn Nawns C.Ff.I. Capel Iwan.

Cân: ‘Iawn (Pop Negatif Wastad)’ – Twinfield

Nid yw’n gyfrinach ein bod ni’n ffans mawr o waith y cynhyrchydd electronig Twinfield, a’i label tanddaearol Recordiau Neb, yma yn Selar Towyrs.

Dros y dyddiau diwethaf mae ‘na diwn newydd wedi’i gyhoeddi ar-lein gan Twinfield…wel, fersiwn newydd o hen diwn i fod yn fanwl gywir. Rhyddhawyd ‘Iawn’ yn wreiddiol gan Pop Negatif Wastad, sef un o brosiectau  cynnar Gareth Potter. Esyllt Anwyl, aelod o’r grŵp anarchaidd Crisialau Plastig, oedd prif aelod arall y grŵp.

Roedd ‘Iawn’ yn un o draciau EP hunan-deitlog y grŵp a ryddhawyd ym 1989.

Mae amseru cyhoeddi’r fersiwn newydd o’r trac yn briodol yn dilyn noson ‘REUvival’ a gynhaliwyd fel rhan o weithgarwch Tafwyl wythnos diwethaf.

Joiwch y bangar yma:

 

Record: Mae’r Haul Wedi Dod – Geraint Løvgreen a’r Enw

Rhyddhawyd albwm diweddaraf Geraint Løvgreen a’r Enw Da ddydd Gwener diwethaf, a bydd yn ymddangos ar lwyfannau digidol ar 9 Awst.

‘Mae’r Haul Wedi Dod’ ydy enw record hir newydd y cerddor bytholwyrdd, a label Recordiau Sain sy’n rhyddhau.

Mae Geraint yn un o gyfansoddwyr mwyaf cynhyrchiol ei genhedlaeth, ac yn adnabyddus am ei ganeuon dychanol crafog ar y naill law, a’i faledi hyfryd ar y llall.

Mae’r albwm yn cael ei gyflwyno er cof am y bardd, a basydd y grŵp, Iwan Llwyd, a dyma’r albwm cyntaf gan Geraint Løvgreen a’r Enw Da ers marwolaeth Iwan ym Mai 2010. Iwan ei hun sydd wedi sgwennu geiriau nifer o’r caneuon, ac mae’r gweddill gan Geraint, Myrddin ap Dafydd ac Ifor ap Glyn.

Roedd Geraint a’r Enw Da yn dathlu rhyddhau’r albwm gyda gig lansio yn Galeri, Caernarfon  nos Wener diwethaf, 21 Mehefin gyda Bwncath yn cefnogi.

Sioned Medi Evans sy’n gyfrifol am waith celf yr albwm Daw Sioned o Ben Llŷn ond mae bellach yn byw yng Nghaerdydd ac yn mwynhau creu gwaith lliwgar a bywiog sy’n trafod golygfeydd o fywyd bob dydd.

Dyma’r trac sy’n rhannu enw’r albwm:

Artist: FRMAND

Byddwch yn cofio’r enw o’i waith gyda’r gantores Mabli rai misoedd yn ôl mae’n siŵr.

Bryd hynny roedd y cynhyrchydd cerddoriaeth electronig, FRMAND, yn cyd-weithio gyda’r gantores o Gaerdydd i ail-gymysgu’r trac ‘Fi yw Fi’, gydag addewid o ragor o brosiectau tebyg i ddilyn.

Ac mae’n cadw at ei air gyda’r newyddion am ryddhau ailgymysgiad o’r trac ‘Yr Un Hen Gi’ gan y gantores  o Sir Benfro, Lowri Evans, ddydd Gwener nesaf, 5 Gorffennaf.

Rhyddhawyd ‘Yr Un Hen Gi’ yn wreiddiol gan y gantores brofiadol o’r Gorllewin rhyw flwyddyn yn ôl fel un o draciau’r EP o’r un enw. Mae’r gân yn trafod y ffaith nad ydy llewpard bydd yn newid ei sbotiau. Bydd y fersiwn newydd yn go wahanol wrth i FRMAND fynd i’r afael â’r trac a’i drawsnewid  i fod yn drac dawns haf 2019.

Bwriad y FRMAND ydy hyrwyddo cerddoriaeth ddawns iaith Gymraeg trwy ryddhau traciau a remixes ar draws sawl genre yn y Gymraeg.

Cysylltodd FRMAND â Lowri Evans ar ôl gweld fideo ohoni’n perfformio ar YouTube. Roedd Lowri wrth ei bodd â’r cynnig i ail-gymysgu ‘Yr Un Hen Gi’ ac yn falch iawn o’r trac gorffenedig.

Does dim golwg o’r fersiwn newydd o’r trac ar-lein eto, er bod ambell fideo o’r fersiwn wreiddiol.  Bydd rhaid jyst rhoi cyfle arall i chi glywed ‘Fi yw Fi’ gan Mabli a FRMAND:

 

Un peth arall…:  Rifleros yn

chwalu

Wastad

yn drist clywed am fand yn rhoi’r gorau iddi, ond mae wastad yn neis cael cyhoeddiad am y newyddion i ni gael talu teyrnged, yn hytrach nag eu bod nhw jyst yn diflannu!

Cyhoeddodd Rifleros wythnos diwethaf eu bod yn chwarae eu gig olaf yng ngŵyl Tafwyl penwythnos diwethaf.

Rhydian, Gruff, Garmon a Sion oedd aelodau Rifleros, a ffurfiodd y grŵp yng Nghaerdydd gan dyfu o lwch o lwch Violas a Creision Hud / Hud rai blynyddoedd nôl.

Gweddol low-key oedden nhw ar y cyfan, gan berfformio’n fyw yn achlysurol. Rhyddhawyd eu cynnyrch diweddaraf ar ffurf y sengl ‘Gwneud Dim Byd’ gwta flwyddyn yn ôl, gydag ambell gig yn y cyfnod hwnnw i hyrwyddo’r trac.

Wrth gyhoeddi’r newyddion ar eu cyfrif Twitter, meddai Rifleros: “Chwara ein gig ola a’r @Tafwyl cynta’ heddiw! Dewch draw i Yurt T erbyn 6 i gadw’n sych a deud ta-ra.”

Mae’r Selar wedi cael hanner awgrym y gallai’r band ail-ffurfio yn y dyfodol, ond am y tro, hwyl fawr Riffleros.