Gig: Mr, Dyfrig Evans – Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth – 29/03/19
Lot fawr o gigs bach da iawn yn digwydd ledled y wlad penwythnos yma, felly dyma ymdrech i grynhoi!
Heno (Gwener) yn CellB, Blaenau Ffestiniog mae lansiad rhifyn diweddaraf cylchgrawn Y Stamp, gyda cherddoriaeth gan yr amgen ac ardderchog Bitw.
Hefyd yn y Gogledd, mae’r Welsh Whisperer wrthi eto yng Nghlwb Rygbi Dinbych. Mae cyfle arall i’w weld penwythnos yma nos Sadwrn ym mhen arall y wlad wrth iddo berfformio yn Nhŷ Tawe, Abertawe nos Sadwrn.
Noson brysur yn Aberystwyth heno gyda Bryn Fôn i ddechrau yn y Llyfrgell Genedlaethol yn perfformio caneuon acwstig o’i albwm newydd Brynbach. Ac yna ein hoff gig ni o’r penwythnos yng Nghanolfan y Celfyddydau wrth i Mr gloi ei gyfres fer o gigs diweddar, ac yn ôl yr ymateb i’r lleill, mae’n werth gwneud ymdrech i gyrraedd Aber nos fory! Mae Dyfrig Topper yn cefnogi – da rŵan.
Mae Chroma yn gigio yng Nghaerdydd heno, a hynny’n lleoliad amlwg y Tramshed. Mae’r leinyp hefyd yn cynnwys yr artistiaid di-Gymraeg gwych – Mace, Hana2k a Madi.
Cwpl o gigs arall gwahanol, ond da iawn yr olwg nos Sadwrn, gan gynnwys Radio Rhydd yng Nghaffi Croesor mewn gig Be’ fydd ar ôl Brecsit? Atebion ar gerdyn post plîs gyfeillion!
Ac yn olaf, mae’r anfarwol Ail Symudiad yn chwarae ym Mar Y Selar yn Aberteifi, gyda Côr Meibion Clwb Rygbi Aberteifi’n gefnogaeth!
Cân: ‘Heddiw’ – Plant Duw
Ar ôl cyfnod gweddol segur, roedd 2018 yn flwyddyn weddol fywiog i Plant Duw, wrth iddyn nhw gigio’n achlysurol a rhyddhau ambell drac newydd.
Un sengl a ryddhawyd, aeth ychydig o dan y radar ar y pryd o bosib, oedd ‘Heddiw’, ond mae ail gyfle i ddenu sylw i’r sengl wrth iddyn nhw ryddhau’r trac ar y llwyfannau digidol poblogaidd wythnos diwethaf.
Recordiwyd a rhyddhawyd y sengl erbyn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd llynedd, ond ddim ond i’w ffrydio a lawr lwytho o safle Bandcamp y grŵp.
Mae’r newyddion am ‘Heddiw’ yn dilyn rhyddhau sengl arall gan y grŵp ar Ddydd Calan eleni, sef ‘Craen ar y Lleuad’. Mae perthynas glos rhwng y ddau drac gan i fideo ‘Craen ar y Lleuad’ gael ei ffilmio wrth i’r grŵp recordio’r sengl ‘Heddiw’ yn Stiwdio Un Rachub gyda’r cynhyrchydd Sam Durrant.
Mae gitarydd Plant Duw, Rhys Martin, wedi cyhoeddi blog yn trafod y sengl ar wefan Plant Duw, ac yn datgelu ei fod wedi ysgrifennu’r mwyafrif o’r gân ym Mryste, ond fod llawer o’r syniadau wedi dod iddo wrth iddo reidio ei feic ar ffyrdd De-Ddwyrain Cymru. Dywed Rhys fod elfennau o gerddoriaeth disgo a ffync ar ‘Heddiw’ a’i fod wedi bod yn gwrando ar lawer o gerddoriaeth soul ac RnB o’r 1980au wrth gyfansoddi’r gân. Dywed hefyd fod ei ddiddordeb mawr mewn cerddoriaeth electroneg i’w weld ar y trac wrth iddynt ddefnyddio synth a pheiriant drwm, offerynnau digon anghyfarwydd i Plant Duw.
Tiwn fach neis gan y plantos duwiol – mwynhewch:
Record: Lle yn y Byd Mae Hyn? – Papur Wal
Rydan ni wedi bod yn rhoi tipyn o sylw i Papur Wal yma ar wefan Y Selar dros y bythefnos ddiwethaf wrth iddyn nhw baratoi i ryddhau eu EP cyntaf. O’r diwedd mae’r dyddiad mawr wedi cyrraedd, ac mae Lle yn y Byd Mae Hyn? allan heddiw ar Recordiau Libertino!
Wedi dweud hynny, rydach chi ddarllenwyr selog Y Selar eisoes wedi cael cyfle i glywed y record fer newydd yn llawn, gan i ni ei ffrydio’n ecsgliwsif, cyn neb arall yn y byd, yma ar wefan Y Selar bythefnos yn ôl.
Hir yw pob ymaros medden nhw, ac yn sicr rydan ni wedi bod yn aros yn hir am record gyntaf Papur Wal. Bu i ni sôn am EP ar y ffordd gan y grŵp addawol 11 mis yn ôl ar ddechrau mis Mai 2018! Lle yn y Byd Mae Hyn?! Roedden ni’n dechrau holi ‘lle yn y byd mae’r blwmin EP ma’!
Fe eglurodd gitarydd a chanwr y grŵp, Ianto Gruffudd, rai o’r rhesymau am yr oedi mewn cyfweliad arbennig gyda’r Selar yn ddiweddar, ond y peth pwysig ydy fod Lle yn y Byd Mae Hyn? ar gael rŵan ac yn swnio’n wych.
Dyma’r fideo ardderchog ar gyfer y trac ‘Yn y Weriniaeth Tsiec’, a gallwch ddysgu rhywfaint am hanes y gân a’r fideo mewn darn arall ar y wefan…
Artist: Cate le Bon
Newyddion da o lawenydd mawr – mae albwm newydd Cate Le Bon yn dod allan ym mis Mai!
Reward ydy enw’r record hir newydd gan y gantores o Sir Gâr, a’r dyddiad rhyddhau swyddogol ydy 24 Mai. Wythnos diwethaf fe ryddhawyd sengl o’r casgliad, sef ‘Daylight Matters’ gan y label Mexican Summer o Brooklyn, sydd hefyd yn rhyddhau’r albwm wrth gwrs.
Reward ydy pumed albwm unigol Cate Le Bon – rhyddhawyd y diwethaf o’r rhain, ‘Crab Day’ yn 2016 ar y cyd gan labeli Turnstile a Drag City. Ei halbyms unigol blaenorol ydy ‘Mug Museum’ (2013); Cyrk (2012); a ‘Me Oh My’ (2009). Bu iddi hefyd ryddhau record ar y cyd gyda Tim Presley fel prosiect dan yr enw Drinks
Cyn mynd ati i berfformio a recordio fel artist unigol, roedd Cate yn aelod o’r grŵp Alcatraz – mae’r gân ‘Glas’ ganddyn nhw’n cael ei chwarae’n achlysurol ar Radio Cymru.
Rhyddhaodd Cate ein chynnyrch unigol cyntaf ar label Peski yn 2008 ar ffurf yr EP Edrych yn Llygaid Ceffyl Benthyg.
Mae’n debyg i Cate ysgrifennu’r albwm newydd yn ystod cyfnod yn byw ar ben ei hun yn Ardal y Llynnoedd. Yn ystod y dydd roedd y gantores yn dysgu ei hun sut i greu celfi pren, ac roedd yn treulio’r nosweithiau’n chwarae’r piano a chanu i’w hun.
Mae’r record yn cynnwys 10 trac ac wedi’i gyd-gynhyrchu gan Samur Khouja, sy’n rhedeg stiwdio Seahorse Sound yn Los Angeles a sydd wedi gweithio gyda llu o artistiaid adnabyddus gan gynnwys The Strokes, Paris Hilton, Don Felder o The Eagles a llawer iawn mwy. Mae’r casgliad hefyd yn cynnwys cyfraniadau cerddorol gan Stella Mozgawa o Warpaint a H. Hawkline (Huw Evans).
Er mai 24 Mai ydy’r dyddiad rhyddhau swyddogol, mae modd rhag-archebu’r albwm nawr – https://catelebon.lnk.to/reward. Mae fersiwn feinyl o’r albwm yn cael ei ryddhau ar ffurf LP ‘gatefold deluxe’ ar feinyl lliw coch, gyda nifer cyfyngedig o gopïau wedi’i harwyddo gan Cate (rydan ni wedi archebu dau gopi yn barod!)
Trac Cymraeg arall gan Cete Le Bon ydy ‘O Am Gariad’. Mae’n debyg fod hon i fod ar ei halbwm cyntaf Me Oh My yn wreiddiol, ond penderfynwyd i beidio ei chynnwys yn y diwedd. Yn ffodus iawn, mae fideo ohoni’n ei pherfformio ar raglen Bandit ‘slawer dydd…
Un peth arall…: ‘Pla’ ar fideo ffwtbol Cymru
Roedd hi’n wythnos dda i dîm pêl-droed dynion Cymru wythnos diwethaf wrth iddyn nhw guro Trinidad a Tobago mewn gêm gyfeillgar yn Wrecsam nos Fercher, cyn curo Slofacia bnawn Sul yn eu gêm rhagbrofol gyntaf ar gyfer Ewro 2020.
Mae tîm marchnata Cymdeithas Bêl-droed Cymru dan arweiniad Ian Gwyn Hughes yn weddol graff erbyn hyn, ac un peth sydd wedi bod yn boblogaidd iawn ydy eu pecynnau uchafbwyntiau byr a bachog yn crynhoi wythnosau gemau rhyngwladol. Ac mae fideo bach ardderchog wedi’i gyhoeddi wythnos yma, sydd hyd yn oed yn fwy ardderchog o gael sengl ddiweddaraf Alffa, ‘Pla’ yn gerddoriaeth gefndir i’r uchafbwyntiau.
Rydan ni i gyd yn gwybod am lwyddiant sengl ‘Gwenwyn’ gan Alffa, ac mae bron yn sicr mai un o’r ffactorau a gyfrannodd at hynny oedd cynnwys y trac ar fideo tebyg gan y Gymdeithas Bêl-droed ym mis Medi llynedd. Cawn weld fydd ‘Pla’ yn cael ymateb tebyg!
WALES_TRINIDADANDTABAGO_SLOVAKIA_HIGHLIGHTS_HORIZONS_Alffa
??????? Pêl-droed Cymru… Fel pla yn dy feddwl! Alffa… The soundtrack to last week's highlights ?? Horizons / Gorwelion #TheRedWall #YWalGoch
Posted by FA Wales on Wednesday, 27 March 2019